Cerddi


Beirdd yr Uchelwyr

Llio eurwallt lliw arian,
llewychu mae fal lluwch mân.
Mae ar ei phen, seren serch,
lliw rhuddaur, Llio Rhydderch.
Ni bu ar wŷdd, un bêr iach,
afal Anna felynach.
Mewn moled aur a melyn
mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn.
Ar iad Llio rhoed llyweth
a noblau aur yn y bleth.
Gwnaed o'r bleth ganbleth i'w gwau,
tair brwynen tua'r bronnau.
Ac na fynned gwen fanwallt
gribau gwŷdd i gribo'i gwallt;
dycer i wen er deg grod
gribau esgyrn geirw bysgod.

Mae ar ei phen, mor hoff yw,
mawr fanwallt Mair o Fynyw.
Mae'r un wallt, mal am war Non,
ar fronnau'r môr forynion.
Mihangel sy walltfelyn,
ac un wallt ag ef yw 'nyn.
On'd un lliw y fantell hon
â chawgiau y marchogion?
Mal efydd, mil a ofyn
`Ai mellt nef?' am wallt fy nyn;
`Ai plisg y gneuen wisgi?
Ai dellt aur yw dy wallt di?'

Llwyn aur neu ddau i'r llan a ddoeth,
llwyn banadl, Llio'n bennoeth.
Llen gêl a fo ei llwyn gwallt
am ein gwarrau mewn gorallt.
Dwy did lle y dodid awdl,
dau dasel hyd ei dwysawdl;
y mae'r ddwydid o sidan
am Lio'n glog melyn glân,
ac mae'n debyg mewn deubeth
i flaen fflam felen ei phleth.
Llwyn pen lle ceid llinyn parch,
Padreuau y padrïarch.

Ar iad bun erioed y bu
wisg i allel asgellu.
Crwybr o aur ban i cribai,
pwn mawr o esgyll paun Mai,
yn ail cyrs neu wiail caets,
fal aur neu afal oraets.
Mawr y twf, mae ar iad hon
mil o winwydd melynion.
Unlliw ei gwallt, yn lle gwir,
â chwyr aberth o chribir.
Mae'r gwallt mwya' ar a gaid
am ei gwar fal mwg euraid.

Ni ad Duw gwyn (nid du ei gwallt)
farw Llio frialluwallt.
Blin yw hyder o weryd,
Hudol byr yw hoedl y byd.
Caru dyn ifanc irwen
A marw a wnaeth morwyn wen.
Dan weryd mae dyn wirion,
Anhap oedd roi wyneb hon.
O daearwyd ei deurudd
Mae'n llai'r gwrid mewn llawer grudd.
Och imi, pe marw chwemwy,
O bydd ei math mewn bedd mwy.
Och Dduw Tad, o chuddiwyd hi,
Nad oeddwn amdo iddi!
Och finnau, o chaf einioes,
I'w rhoi yn fud, arhown f'oes.
Gweddw am hon yn y bronnydd
Ydyw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd,
A cherdd bronfraith orchuddiwyd
Is y lan, ac eos lwyd.

Os marw yw hon îs Conwy,
Ni ddyly Mai ddeilio mwy;
Gwae finnau, nid gwiw f'annerch,
Os mewn bedd mae annedd merch.
Gwywon yw'r bedw a'r gwïail
Ac weithian ni ddygan ddail.
Os marw fis Mai y forwyn,
Och Fair, gan farw y ferch fwyn!

Och 'y nun, na chaem ninnau
Yr un dydd farw ein dau!
Ni fynnwn yn hwy f'einioes,
Gan na chaid amgenach oes.
Och, yn awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd.
Adyn ar ei hôl ydwyf,
Uwch ben Gwen ych bannog wyf.

Marw a wnaeth yn fy marn i
Yr haul wen a'r haelioni.
Anwych wyf oni chyfyd
O farw bun yn fyw i'r byd.
Ni welir dan bryd dirwy
Ar heol merch mor hael mwy.
Nid ydoedd, pan oedd yn iach
Dan aelwineu dyn lanach.
Lasar a godes Iesu
Yn fyw o'r bedd, yn farw bu.
Gwnaed Duw, am ddyn gannaid hir,
A minnau, godi meinir.
Dulas ydwyf fal deilen
O frig yw am farw Gwen.
Hon fo'r wythfed ddiledryw
Bun fain a wnel Beuno'n fyw.
Dyn wyf yn ceredded y nos,
(dedwyddach oedd dŷ diddos)
dyn hurt am gerdded yn hwyr,
dros hyn Duw a ro synnwyr.
Du arnaf ydyw oernos,
Duw, dy nawdd, dued y nos!
Dyn ni bu, a’r dyno bac
dan bared, wyneb oerach.
Deffro fun, differ f’enaid,
dyn Duw blin sy dan dy blaid.
Dyro, ti a gai deirhan,
dy wisg, dy gardod i wan,
dy lety, dy law ataf,
dy deg gorff, dywed a’i caf.
Dy fwyn air er dy fonedd,
dy fin fal diod o fedd.
Dy faeth, dy gellwair, dy fodd,
dy feinael a’m difwynodd.
Dy laeswallt fal dy lusael,
dy drem fal dued yr ael;
dy bryd fal dillad briodyr,
du a gwyn i hudo gwŷr;
dy wyneb fal od unnos,
dy wrid fal bagad a ros.
Dy garu di a gerais,
dy gas im nis dygai Sais.
Dig wyfyn arwain dy gerdd
dan fargod yn ofergerdd;
drwy ffenestr dyro ffunen
dy gam hael i doi fy mhen.
Dy gerdd ymhob gwlad a gaf,
dy bwyth nis diobeithiaf.
Dy garu i’m digio ‘rwy;
dismel wyd, dismel ydwy.
Digon caead yw d’ogylch,
dyn deg wyt, nawdd Dwu’n dy gylch!
dig wy yn arwain dy gân;
dygum gas, dwg im gusan.
Dy gyngor rhag dig angen
da fydd ei gael, dy fodd, Gwen.
Drwg i neb a drigo'n ôl
Dau am un cas damweiniol;
A'r drwg lleiaf o'r drygwaith
Yn orau oll yn yr iaith.
O wŷr, pam na bai orau,
O lleddid un na lladd dau ?

Dwyn un gelynwaed a wnaeth,
Dial ein dwy elyniaeth.
Er briwio'r gŵr heb air gwad,
O bu farw, ni bu fwriad.
Oedd oer ladd y ddeuwr lân,
Heb achos ond un bychan.
Yr oedd y diffyg ar rai
Am adladd mewn siawns medlai.
Ymryson am yr oesau,
Rhyw yngu ddaeth rhwng y ddau;
Oddyna lladd y naill ŵr,
A'i ddial, lladd y ddeuwr;
Y corff dros y, corff pes caid,
Yr iawn oedd well i'r enaid.
Oedd, wedi, addewidion —
Ei bwys o aur er byw Siôn.
Sorrais wrth gyfraith sarrug
Swydd y Waun, Eos a ddug, —

Y swydd pan na roid dan sêl
I'th Eos gyfraith Hywel?
A'r hwn pan gafas y rhain
Wrth lawnder cyfraith Lundain,
Ni mynnyn am ei einioes
Noethi crair na thorri croes.
Y gŵr oedd dad i'r gerdd dant
Yn oeswr nis barnasant;
Deuddeg yn un nid oeddyn,
Duw da, am fywyd y dyn.
Aeth y gerdd a'i thai gwyrddion
A'i da'n siêd wedi dwyn Siôn;
Aeth llef o nef yn ei ôl,
A'i ddisgybl yn ddiysgol;
Llyna ddysg i'r llan a ddaeth,
Lle ni chair llun o'ch hiraeth.
Wedi Siôn nid oes synnwyr
Yn y gerdd, na dyn a'i gwyr.
Torres braich tŵr Eos brig,
Torred mesur troed musig,
Torred dysg fal torri tant,
Torred ysgol tŷ'r desgant.
Oes mwy rhwng Euas a Môn
O'i ddysg abl i'w ddisgyblion ?
Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
Rhan gŵr er hynny a gân.
Ef aeth ei gymar yn fud,
Yn dortwll, delyn deirtud,
Ac atgas yn y gytgerdd
Eisiau gwawd eos y gerdd.
Ti sydd yn tewi â sôn,
Telyn aur telynorion.

Bu'n dwyn dan bob ewin dant,
A bysedd llais a basant:
Myfyrdawd rhwng bawd a bys,
Mên a threbl mwyn â thribys.
Oes dyn wedi'r Eos teg
Yn gystal a gân gosteg,
A phrofiad neu ganiad gŵr,
A chwlm ger bron uchelwr ?
Pwy'r awron mewn puroriaeth,
Onibai a wnai, a wnaeth ?
Nid oes nad angel na dyn
Nad ŵyl pan glywo'i delyn.
Och heno rhag ei chanu
Wedi'r farn ar awdwr fu!
Eu barn ym mhorth nef ni bydd,
Wŷr y Waun, ar awenydd.
A farno ef a fernir
O'r byd hwn i'r bywyd hir,
Ar un farn arno efô
A rydd Duw farnwr iddo
Efô a gaiff ei fywyd,
Ond o’u barn newidio byd
Oes fy nyn y sy yn nos,
Oes fy Nuw i Siôn Eos.
Efa fonheddig ddigawn,
Arglwyddes, dwywes y dawn,
Nid dir, pryd eiry cyn Ystwyll,
Ymliw â thi, aml ei thwyll,
Ond na ddlyud ddilëu
Y rhwym fyth yrhôm a fu.
Tebyg yw, f'enaid dibwyll,
Na'm adwaenost, tost yw twyll.
Och, ai meddw, wych em, oeddud
Erllynedd, gyhydedd hud?
Bun ry haerllug fuddugawl,
Bid i'th farn a'r byd a'th fawl:
O bu, ymannerch serchbryd,
Un gair rhom, unne geirw rhyd,
Ac o bu gynt, tremynt tro,
Bai ditiwr, mawl, bid eto.
Na fyn ogan fal anael
Ac na fydd adwerydd wael.
Angof ni wna dda i ddyn,
Anghlod yn awdl neu englyn.
Terfyn angof yw gofal;
Tŵr dy dŷ, taro dy dâl
Goldwallt dan aur gwnsallt da;
Galw dy gof, gwyldeg Efa:
Nid taeredd a wnaut erof,
Nid da, deg Efa, dy gof.
Na fydd anghywir hirynt,
N'ad tros gof ein wtres gynt.
Y ferch borffor ei thorun,
Hir nid addefir i ddyn.
Anodd ym gysgu unhun
Pe canai Dduw huw ei hun.
Aeth ulw dros frig wyth aelwyd,
Oio, Gysgu ddu! Mae'dd wyd?
Anhunog wyf, clwyf yw'r clo,
Anhunedd a wn heno.
Mi a ddeily swrn meddyliau,
Byth neud mul, am beth nid mau,
Gwayw llid, er nas caf rhag llaw,
Gosyml oedd ym ei geisiaw,
Nid amgen, gwen a'm gweeirdd,
Eilwydd â bun a ladd beirdd.

   Dibwyll i fardd hardd heirddryw,
Dybio ei chael; dibech yw.
Hael yn nhref am heilwin rhwydd,
Hoen gwylan, hynag eilwydd.
Gŵyr luddias gŵr i lwyddoed,
Gwrm ei hael, goryw ym hoed.
Rhwydd am aur o'i goreurwyl,
Afrwydd am eilwydd, em ŵyl.
Ufyddgamp leddf i feddgell,
Diog i oed pwyllog pell.
Mul yn chwarae â chlaear,
Diful wrth y cul a'i câr.
Hael am y parch nis archwyf,
Cybyddes am neges nwyf.
Dilaes y deily heb ystryw
Olwg ar ŵr, ail Eigr yw.
Digollwawd bardd digellwair,
Da ei chlod, diuchel air;
Dyfr o bryd, a'm byd o'm barn,
Difawr ei brys i dafarn;
Dihoffedd bryd a gwedd gwŷr,
Dihustyng, da ei hystyr;
Diddig yn cynnig ciniaw,
Dig wrth ei llatai o daw;
Dyddig ei phendefigwalch
Wrth wŷr y byd, bywyd balch.
Ni bu, nid oes i'n oes ni,
Ni bydd tebig neb iddi.
Nid mor ddiareb nebun
I'n gwlad ni â hi ei hun:
Yn hael iawn, yn hil ynad,
Yn heilio gwledd, yn haul gwlad,
Yn fonheddig, yn ddigardd,
Yn fain ei hael, yn fun hardd,
Yn ennill clod, yn annwyl,
Yn dda ei thwf, yn ddoeth ŵyl,
Yn rhy ddiwair ei heirioes,
Yn ddyn mwyn, dda iawn ei moes.

   Tyfodd ym frad lleuad llu,
Twf coeth tawelddoeth aelddu.
Tegau iesin ddoethineb,
Tegach oedd honno no neb.
Doe gwelais cyd â gwialen—o gorn
Ac arno naw cangen;
Gŵr balch ac og ar ei ben,
A gwraig foel o'r graig felen.
Credaf i Naf o nefoedd,
Credo gwych, caredig oedd,
Dôr a'm ceidw rhag direidwaen,
Dawn y blaid, a Duw 'n y blaen.
Rhodded yn faith, berffaith Bôr,
Rhag angen ym rhyw gyngor
I foliannu'n gu gywair
Iesu, a moliannu Mair.
Iawn i bawb, enw heb awgrim,
Moliannu Duw ymlaen dim.

   Da fu Iesu dewisiad
A da oedd ei fam a'i dad.
Gorau tad, llathr diathrist,
O dadau Cred fu dad Crist.
Gwerin nef a'n cartrefo!
Gorau mam oedd ei fam fo.
Gwarant fydd i bob gwirair.
Gorau un mab yw Mab Mair.
Gorau merch dan aur goron,
Tecaf a haelaf yw hon.
Da oedd ddwyn, deddf ddaioni,
Gŵr o nef yn gâr i ni.
Hwn a addewis i'r Israel.
Hen fu ac ifanc a hael.
Ganed o'i fodd er goddef
Yn ddyn aur ac yn Dduw nef.

Gwnaeth Iesu Nêr o'i geraint
Swrn yn ebystl a saint.
Gwnaeth bader ac offeren,
Gwnaeth oriau a llyfrau llên.
Rhoes gred i'r bobl gyffredin,
Rhoes i'w plith gwenith a gwin.
Rhoes ei gorff heb ddim fforffed
Ar bren croes i brynu Cred.
Deugeinawr, deg ogonedd,
Hael Iesu y bu mewn bedd.
Gwedi cyfodi o'n câr
I gyrchu pawb o garchar,
Ar ôl yr holl ferth'rolaeth,
I nef fry fy Naf yr aeth
Lle doter, medd Sain Sieron,
Croes Duw a henwi Crist Iôn.
Ni ddaw, heb ddiffrydiaw ffrwyth,
Na diawl nac un o'i dylwyth,
Gwir fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.

   Gair lles yw dwedyd Iesu
A gorau gair gan Fair fu.
Gair cariad yw o'r gadair
A'r Mab Rhad a gad o'r Gair.
Duw yw'r Gair, di-ŵyr gariad,
A'r Gair yw Duw ein gwir Dad.
Duw fo'n porth a'n cymhorthwy,
Amen, nid addunwn mwy.
Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw
arnad a llygad a llaw
am hyn o hawl, pawl pensyth,
yn amgenach bellach byth;
rhwyd adain cont, rhaid ydiw
rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw
i'th atal fal na'th dditier
eilwaith, clyw anobaith cler.

Casaf rholbren wyd gennyf,
corn cod, na chyfod na chwyf;
calennig gwragedd-da Cred,
cylorffon ceuol arffed,
ystum llindag, ceiliagwydd
yn cysgu yn ei blu blwydd,
paeledwlyb wddw paladflith,
pen darn imp, paid a'th chwimp chwith;
pyles gam, pawl ysgymun,
piler bon dau hanner bun,
pen morlysywen den doll,
pwl argae fal pawl irgoll.
Hwy wyd na morddwyd mawrddyn,
hirnos herwa, gannos gyn;
taradr fal paladr y post,
benlledr a elwir bonllost.

Trosol wyd a bair traserch,
clohigin clawr moeldin merch.
Chwibol yn dy siol y sydd,
chwibbanogl gnuchio beunydd.

Y mae llygad i'th iaden
a wyl pob gwreignith yn wen;
pestel crwn, gwn ar gynnydd,
purdan ar gont fechan fydd;
toben arffed merchedau,
tafod cloch yw'r tyfiad clau;
cibyn dwl, ceibiai dylwyth,
croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth.

Llodraid wyd o anlladrwydd,
lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gwydd;
hwyl druth oll, hwl drythyllwg,
hoel drws a bair hawl a drwg.

Ystyr fod gwrit a thitmant,
ostwng dy ben, planbren plant.
Ys anodd dy gysoni,
ysgwd oer, dioer gwae di!
Aml yw cerydd i'th unben,
amlwg yw'r drwg drwy dy ben.
Clo a roed ar ddrws y tŷ,
Claf wyf o serch, clyw fyfy.
Dyred i'th weled, wiwlun,
Er Duw hael, aro dy hun.
Geirffug ferch, pam y gorffai?
Gorffwyll, myn Mair, a bair bai.

    Taro, o'm annwyd dyrys,
Tair ysbonc, torres y bys
Cloëdig, un clau ydoedd,
A'i clywewch chwi? Sain cloch oedd.
Morfudd, fy nghrair diweirbwyll,
Mamaeth tywysogaeth twyll,
Mau wâl am y wialen
 thi, rhaid ym weiddi, wen.
Tosturia fy anhunglwyf,
Tywyll yw'r nos, twyllwr nwyf.
Adnebydd flined fy nhro,
Wb o'r hin o'r wybr heno!
Aml yw'r rhëydr o'r bargawd,
Ermig nwyf, ar y mau gnawd.

    Nid mwy y glaw, neud mau glwyf,
No'r ôd dano yr ydwyf.
Nid esmwyth hyn o dysmwy,
Ni bu boen ar farwgroen fwy
Nog a gefais drwy ofal,
Ym Gŵr a'm gwnaeth, nid gwaeth gwâl.
Ni bu'n y Gaer yn Arfon
Geol waeth no'r heol hon.
Ni byddwn allan hyd nos,
Ni thechwn ond o'th achos.
Ni ddown i oddef, od gwn,
Beunoeth gur be na'th garwn.
Ni byddwn dan law ac ôd
Ennyd awr onid erod.
Ni faddeuwn, gwn gyni,
Y byd oll oni bai di.

    Yma ydd wyf trwy annwyd,
Tau ddawn, yn y tŷ ydd wyd.
Amau fydd gan a'm hirglyw
Yma, fy aur, ymy fyw.
Yna y mae f'enaid glân
A'm ellyll yma allan.
Ymaith fy meddwl nid â,
Amwyll a'm peris yma.
Amod â mi a wneddwyd,
Yma ydd wyf, a mae 'dd wyd?
Prydydd i Forfudd wyf fi,
Prid o swydd, prydais iddi.
Myn y Gŵr a fedd heddiw
Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf;
Am aur o ddyn marw ydd wyf.
Pan ddêl, osgel i esgyrn,
Angau a'i chwarelau chwyrn,
Dirfawr fydd hoedl ar derfyn,
Darfod a wna tafod dyn.
Y Drindod, rhag cydfod cwyn,
A mawr ferw, a Mair Forwyn
A faddeuo 'ngam dramwy,
Amen, ac ni chanaf mwy.
Ni pheidia' â Morfudd, hoff adain—serchog,
      Bes archai Bab Rhufain,
   Hoywliw ddeurudd haul ddwyrain,
   Oni ddêl y mêl o'r main.
Dwynwen deigr arien degwch,
Da y gŵyr o gôr fflamgwyr fflwch
Dy ddelw aur diddoluriaw
Digion druain ddynion draw.
Dyn a wylio, gloywdro glân,
Yn dy gôr, Indeg eirian,
Nid oes glefyd na bryd brwyn
A êl ynddo o Landdwyn.

   Dy laesblaid yw dy lwysblwyf,
Dolurus ofalus wyf.
Y fron hon o hoed gordderch
Y sydd yn unchwydd o serch,
Hirwayw o sail gofeiliaint,
Herwydd y gwn, hwn yw haint,
Oni chaf, o byddaf byw,
Forfudd, llyna oferfyw.
Gwna fi yn iach, wiwiach wawd,
O'm anwychder a'm nychdawd.
Cymysg lateirwydd flwyddyn
 rhadau Duw rhod a dyn.
Nid rhaid, ddelw euraid ddilyth,
Yt ofn pechawd fethlgnawd fyth.
Nid adwna, da ei dangnef,
Duw a wnaeth, nid ai o nef.
Ni'th wŷl mursen eleni
Yn hustyng yn yng â ni.
Ni rydd Eiddig ddig ddygnbwyll
War ffon i ti, wyry ei phwyll.
Tyn, o'th obr, taw, ni thybir
Wrthyd, wyry gymhlegyd hir,
O Landdwyn, dir gynired,
I Gwm-y-gro, gem o Gred.

   Duw ni'th omeddawdd, hawdd hedd,
Dawn iaith aml, dyn ni'th omedd.
Diamau weddïau waith,
Duw a'th eilw, du ei thalaith.
Delid Duw, dy letywr,
Dêl i gof, dwylaw y gŵr,
Traws oedd y neb a'i treisiai,
Tra ddêl i'm ôl trwy ddail Mai.
Dwynwen, pes parud unwaith
Dan wŷdd Mai a hirddydd maith,
Dawn ei bardd, da, wen, y bych;
Dwynwen, nid oeddud anwych.
Dangos o'th radau dawngoeth
Nad wyd fursen, Ddwynwen ddoeth.

   Er a wnaethost yn ddawnbwys
O benyd y byd a'i bwys;
Er y crefydd, ffydd ffyrfryw,
A wnaethost tra fuost fyw;
Er yr eirian leianaeth
A gwyrdawd y coethgnawd caeth;
Er enaid, be rhaid yrhawg,
Brychan Yrth, breichiau nerthawg;
Eiriol er dy greuol gred,
Yr em wyry, roi ymwared.
Hawdd fyd, wawn wryd wen eirian—yng nghaer,
      Angharad ferch Forgan,
   Lliw rhudd aur, llawrodd arian,
   Llwyr orau merch, lliw'r eiry mân.
Tawyf tra tawyf, tywyn gwynias—haul,
      Hael Forfudd gyweithas,
   Nis gŵyr Duw i'th deuluwas
   Awr daw ond wylaw glaw glas.
Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
Dwyfron Mab Duw fry a'n medd.
Rhoed yn lew mewn tabl newydd
Eilun Wawr ar loywon wŷdd,
Er dangos i'w eurglos Ef
Y deuddeg oll a'r dioddef,
Grasus yw, ar groes y sydd,
Y dioddefai Duw Ddofydd,
A'r Drindod, cymhendod cu,
A'i ras yn un â'r Iesu.
   Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn,
O ddysg abl, a'i ddisgyblion,
Tyfiad agwrdd, twf digabl,
Tri ar ddeg, pand teg y tabl?
Duw ei Hun sy'n y canawl,
Delw fwyn, da y dyly fawl,
A'r deuddeg, lawendeg lu,
A iasiwyd ynghylch Iesu.
Chwech o ran ar bob hanner,
Deuan' oll ynghylch Duw Nêr.

   Ar yr hanner, muner mwyn,
Deau iddo, Duw addwyn,
Y mae Pedr, da y gŵyr edrych,
A Ieuan wiw awen wych;
A Phylib oreuwib ras,
Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
Iago hael, wiwgu, hylwydd,
A Sain Simon, rhoddion rhwydd.
Lliw aur, ar y llaw arall
I'r Arglwydd cyfarwydd call
Y mae Pawl weddawl wiwddoeth,
A Thomas gyweithas goeth;
Martho—, ni wnaeth ymwrthod,
—Lamëus, glaer weddus glod;
Mwythus liw, Mathëus lân,
A Iago, rhai diogan;
Sain Sud o fewn sens hoywdeg,
Llyna 'ntwy, llinynnaid teg.
Llawn o rad ŷnt, bellynt bwyll,
Lle y doded mewn lliw didwyll.

Ystyr doeth ystoria deg
Dydd a gafas y deuddeg
Cerdded y byd gyd ag Ef,
Cain dyddyn, cyn dioddef.
Gwedy'r loes ar groes y grog
A gafas Crist, a'i gyfog,
A'i farw, ni bu oferedd,
Hefyd, ac o'r byd i'r bedd,
Pan gyfodes Duw Iesu,
Ein iawn gâr, o'r ddaear ddu,
Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
Y deuddeg anrhydeddus,
Gwir Fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.
Didyr deigr, difyr adafael, – o'm drem
      Am drymed i'm cof gwael
   Dodiad hoyw Angharad hael
   Dan ddaear, duon ddwyael.

Aele yw nad byw buail – win aeddfed,
      Awenyddfardd adfail;
   Alaf ar waesaf wiwsail,
   Aelaw fu o'i hoywlaw hail.

Heilwin fu, medd llu, lleufer – cain Indeg,
      Cyn undydd breuolder;
   Hoedl dangnef neb ond nef Nêr,
   Hudol yw hoedl i lawer.

Llawer bron am hon ym Mhennardd – a hyllt,
      Ail Esyllt ŵyl lwysardd;
   Llawer cyfarf galarfardd,
   Llwyr wae, ni chwarae, ni chwardd.

Ni chwardd cywirfardd cyweirfad, – cwyn uthr,
      Can eithyw Angharad,
   Ni dau o'm bron, neud ym brad,
   Ne llif geirw, naw llef girad.

Rhy irad, ddygiad ddigudd, – fu orfod,
       Ddrem fwyarfalch wrmrudd,
   Rhieinaidd ferch, rhannodd fudd,
   Rhwymo derw rhôm a'i deurudd.

Deuruddlas fain was wyf yn wael – can gŵyn
       Cain gannwyll yn urael,
   Darfod dyfod, dwfn ddeigrgael,
   Derfyn hir diweirfun hael.

Haelaf, digrifaf goreufun – yng Nghaer
      Oedd Angharad wanllun,
   Hoen ffysg, da ddysg, nid oedd un,
   Huan wybr, â hi nebun.

Pa un â'm aur fun mor fyr – o'i hoedlddydd?
      Aml hidlddeigr a'm tragyr.
   Pwyll rhadfaith, pall iradfyr,
   Pefr nith haul, py fron ni thyr?

Gorhoffter eurner, arnad – Dduw Dofydd
   Y mae fy ngherydd am Angharad,
Gyflawned y rhoist gyfluniad – diwael
   O ddawn, gyfiawn gael, Ŵr hael, a rhad,
Gan yt fynnu, bu bwyllwastad, – ei dwyn
   Yn rhwyf ebrwydd frwyn yn rhefbridd frad.
Gorugost rydost rediad – ei hoedlddydd,
   Gŵyr ei charennydd â Dofydd Dad.
Gwasg chwyrn ar f'esgyrn, eirfysgiad – bu ddig,
   Gorwyr i Gynwrig, gorf brig bragad.
Goroen cywiwgroen Eigr, un gariad – Uthr,
   Goruthr yn un rhuthr fu'n anrheithiad.
Gorne bron hoywdon ehediad – gwyndraeth,
   Gŵyr ei brodyr maeth alaeth eiliad,
Gwrm ael yn urael, un irad – nad byw,
   Gwae ryw Eigr unllyw o'r gaer winllad.
Gofalus fronllech, gafaeliad – oer gawdd,
   Ymy a neidiawdd o'i mynediad.
Gwrygiant ardduniant eurddoniad – facwy,
   Gwreigaidd olywy, gwragedd leuad,
Gweddeiddwar gymar geimiad – yng ngarthan,
   Gwayw awchdan Ieuan, cyflafan cad,
Gwaedgoel saffwy rhwy, rhwym gwlad – a'i gafael,
   Gwawdgael, llwydgun hael, llydw gynheiliad,
Gwrthwyneb galon, gartheiniad – gytbar,
   Gwrddfar, gwingar ddâr, gwengerdd uriad.
Gwaisg y'm clwyfawdd cawdd, coddiad – y'i galwer,
   Gweler ar lawer galar liwiad.
Gwenynen addien a wyddiad – ei dawn,
   Gwawn Geredigiawn, garw ei dygiad,
Goleuddyn â'i hŷn o had – bonheddfaith,
   Goluddiai wagiaith, gŵyl ddiwygiad.
Gwedy hoedlddwyn gŵyn wyf geiniad – bronddellt,
   Gwedd eiry blisg gwisgwellt, gwawr Fuellt fad,
Gwenfun ddiwael, hael heiliad – yng nghyfedd,
   Gwinfwrdd a berthedd, gwynfeirdd borthiad.
Gwayw o'i chof drwof drawad – a'm gwarchae,
   Gwae, em oleugae, y mau lygad!
Gwedd, dig argywedd, deigr gawad – a'i gwlych,
   Gwyrdd fy ngrudd a chrych, fawrnych farwnad.
Gwenwyn ym ei chŵyn, ni chad – o'm ystlys,
   Gwanas gywirlys, gŵn ysgarlad.
Gwaith drwg i olwg fyddai wyliad – caeth,
   Gwaeth, cyfyng hiraeth, cof Angharad.
Llyfr dwned Dyfed, dyfyn—ar windai
      I randir Llywelyn;
   Llannerch, aed annerch pob dyn,
   Lle twymlys llu, at Emlyn.

Llyn i barc Emlyn, camlas—hyd Deifi,
      A'r tefyrn ymhob plas,
   Lluddied gardd, lladded ei gas,
   Lle bo'r orddod, llwybr urddas.

Llwybr urddas, bar bras yn bwrw bryn,—eglur
      Oglais Lloegr a Phrydyn,
   Lle dêl yr holl fyd a dynn,
   Llaw hael, ac enw Llywelyn.

Llywelyn a'u myn ym ynni—a grym,
   Llawenfab Gwilym, erddrym wrddri,
Llai ymadrawdd cawdd i'n coddi—no chaeth,
   Llywodraeth a wnaeth a maeth i mi.
Llafuriawdd, berthawdd i borthi—digeirdd,
   Llys ym mryn y beirdd, lle heirdd yw hi,
Lle gnawd cael gwasgawd a gwisgi—ddillad,
   Llety anghaead, wastad westi.
Lle cynefin gwin a gweini—heilgyrn,
   Lle chwyrn, llwybr tefyrn, lle beirw Teifi.
Lle dichwerw, aserw, o erysi—bryd,
   Lle chwery esbyd byd heb oedi.
Lle maith yn llawnwaith llenwi—buelin,
   Lle mae ufuddwin llym i feddwi.
Lle o'th nerth, Dduw ferth, ydd af fi—drachefn,
   Lle anarlloestrefn, llanw aur llestri.
Llys eurwr, a'i gwnaeth llu seiri—yn falch,
   Lliwgaer yn lasgalch, llugyrn losgi.
Llawnaf, dianaf, daioni—mynud,
   Lluniaeth ffraeth, ffrwythdud, glud glodfori.
Llwybreiddwlad, gariad Gwri—Wallt Euryn,
   Llywelyn drawstyn a â drosti.
Llywiawdr, ymerawdr meiri—Edelffled,
   Llyw yw ar Ddyfed, llawer ddofi.
Llorf llwyth, ei dylwyth hyd Wyli—y traidd,
   Llariaidd, brawdwriaidd, ail Bryderi.
Llathrlaw ysb euraw, ysberi—gwëyll,
   Llid Pyll, arf dridryll, arfod Rodri.
Llinongadr, baladr Beli—yng nghyngaws,
   Llwyrnaws Llŷr hoywdraws, llew wrhydri.
Llawen grair, a'n pair yn peri—llwyddfoes,
   Llawenydd a roes am oes i mi.
Llywelyn derwyn i dorri—aergad,
   Llawfad aur-rhuddiad a ŵyr rhoddi.
Llwydda, na threia, Un a Thri—rhag llaw,
   Llwyddaw dawn iddaw, Duw i'w noddi.
Gollwyn ydd wyf ddyn geirllaes,
gorlliw eiry mân marian maes;
gŵyl Duw y mae golau dyn,
goleuach nog ael ewyn.

Goleudon lafarfron liw,
goleuder haul, gŵyl ydyw.
Gŵyr obryn serchgerdd o’m pen,
goreubryd haul ger wybren.
Gwawr y bobol, gwiwra bebyll,
gŵyr hi gwatwaru gŵr hyll.
Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
gwan a’i câr, gwen hwyrwar hardd.
Gwe o aur, llun dyn, gwae ef
gwiw ei ddelw yn gwaeddolef.

Mawr yw ei thwyll a’i hystryw,
mwy no dim, a’m enaid yw.
Y naill wers yr ymdengys
fy nyn gan mewn llan a llys,
a’r llall, ddyn galch falch fylchgaer,
yr achludd gloyw Forfudd glaer,
mal haul ymylau hoywles,
mamaeth tywysogaeth tes.
Moliannus yw ei syw swydd,
maelieres Mai oleurwydd.
Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
mygrglaer ddrych mireinwych Mair.
Prydydd i Forfudd wyf fi,
Prid o swydd, prydais iddi.
Myn y Gŵr a fedd heddiw
Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
Ac i'm tâl mae gofalglwyf;
Am aur o ddyn marw ydd wyf.
Pan ddêl, osgel i esgyrn,
Angau a'i chwarelau chwyrn,
Dirfawr fydd hoedl ar derfyn,
Darfod a wna tafod dyn.
Y Drindod, rhag cydfod cwyn,
A mawr ferw, a Mair Forwyn
A faddeuo 'ngam dramwy,
Amen, ac ni chanaf mwy.
Myfi y sydd, deunydd dig,
Leidr serch dirgeledig.

   Gwylltion adar, glaear glod,
Anian uthr, a wna nythod.
A sef y gwnân' dan y dail
Ym mhlethiad gwead gwiail
Yn lle diarffordd rhag llu
O fygr synnwyr i fagu.
Yn unsud, yn un ansawdd
 hynny, cywely cawdd,
Cariad a wnaeth, caeth yw'r cof,
Annoethineb, nyth ynof,
A'm dwy ais, myn Duw Iesu,
Fyth a'i cudd. Gwaith heb fudd fu.
Gwial ydynt, hynt hyfriw,
Dau ystlys gwas destlus gwiw.
Canu a wnaf cyd cwynwyf
A'm calon fyth yw nyth nwyf.
Ni chair serch y loywferch lân,
Ni thwyllir o'r nyth allan.

   Ni fedr Eiddig anfadwr
Ar y nyth hwn, arwnoeth ŵr,
A mi ni'm dawr, gawr geirsyth,
Cyn nis metro efô fyth.
Dilys gennyf, fardd dilyth,
Yn wir, nas gwybyddir byth.
Onis pair, drud lestair drwg,
Twrn alaw, tirion olwg,
Meddwl calon a bron brudd
Drwy amgylch draw a ymgudd.

    Ple bynnag, ddinag ddeunwyf,
Tyb oedd, yn y tŷ y bwyf,
Y drem goris ael dramain
A'm cenfydd, cof hafddydd cain.
Llw beiddiad, o'r lle byddwyf
Minnau a'i gwŷl, engyl wyf,
Ei chwerthiniad, gariad gael,
A'i mynud ar ei meinael.
Newidio drem ni wadaf
Â'm chwaer. Dim amgen ni chaf.

   Ef aeth ei drem, gem Gymru,
A'i chariad, ehediad hy,
Dyn fain wengain ewyngorff,
Drwy 'mron a'm calon a'm corff
Mal ydd âi, gwiw ddifai gofl,
Gronsaeth trwy ysgub grinsofl.

   Ni ad Beuno, tro tremyn,
Abad hael, fyth wybod hyn.
Gymro dig, heb Gymru dir
Y byddaf o gwybyddir.
Cariad ar ddyn anwadal
A fwriais i heb fawr sâl.
Edifar oedd ym garu
Anghywir ferch, fy nghur fu,
Fal y cerais, ledneiswawr,
Forfudd, unne dydd, ni'm dawr.
Ni fynnai Forfudd, f'annwyl,
Ei charu hwy – och o'r hwyl!

   Treuliais dalm, trwy loes dylyn,
O gerdd dda wrth garu'r ddyn.
Treuliais wrth ofer glêr glân
Fodrwyau – gwae fi druan!
Traws eirwgaen wedd tros argae,
Treuliais a gefais o gae.
Treuliais, nid fal gŵr trylwyn,
Tlysau o'r mau er ei mwyn.
Treiglais, gweais yn gywir,
Defyrn gwin, Duw a farn gwir.
Treiglais hefyd, bywyd bas,
Defyrn meddgyrn gormoddgas.
Perais o iawngais angerdd
Dysgu a chanu ei cherdd
I'r glêr hyd eithaf Ceri,
Eiry mân hoen, er ei mwyn hi.

   Ymddiried ym a ddaroedd;
Er hyn oll, fy rhiain oedd,
Ni chefais, eithr nych ofal,
Nid amod ym, dim o dâl,
Ond ei myned, gweithred gwall,
Deune'r eiry, dan ŵr arall
I'w gwneuthur, llafur nid lles,
Yn feichiog, fy nyn faches.

   Py fodd bynnag, i'm coddi,
Y gwnaethpwyd, neur hudwyd hi,
Ai o gariad, i adu,
Diras farn, ai o drais fu,
Yn gwcwallt salw y'm galwant –
Wb o'r nâd! – am wedd berw nant.
Rhai a rydd rhyw arwyddion
I'm llaw, gormodd braw i'm bron,
Llysgon, oedd well eu llosgi,
O gyll ir; ni bu i'm gwall i.
Eraill a rydd, deunydd dig,
Am y tâl ym het helig.

   Morfudd, ac nid o'm erfyn,
Heb awr serch a beris hyn.
Duw a ranno o'r diwedd
Barn iawn rhof a gwawn ei gwedd.
A gerddodd neb er gordderch
A gerddais i, gorddwy serch,
Rhew ac eiry, rhyw garedd,
Glaw a gwynt er gloyw ei gwedd?
Ni chefais eithr nych ofwy.
Ni chafas deudroed hoed hwy
Ermoed i Gellïau'r Meirch,
Eurdrais elw, ar draws Eleirch
Yn anial dir, yn uniawn
Nos a dydd, ac nid nes dawn.
O! Dduw, ys uchel o ddyn
Ei floedd yng Nghelli Fleddyn:
Ymadrodd er ei mwyn hi,
Ymarddelw o serch bûm erddi.
Bysaleg iselgreg sôn,
Berwgau lif bergul afon,
Mynych iawn er ei mwyn hi
Y treiddiwn beunydd trwyddi.
I Fwlch yr awn yn falch rydd,
Mau boen dwfn, Meibion Dafydd,
Ac ymaith draw i'r Gamallt
Ac i'r Rhiw er gwiw ei gwallt.
Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen
Gyfaelfwlch y Gyfylfaen
I fwrw am forwyn wisgra
Dremyn ar y dyffryn da.
Ni thry nac yma na thraw
Hebof yn lledrad heibiaw.
Ystig fûm ac anaraf
Ar hyd Pont Cwcwll yr haf
A gogylch Castell Gwgawn—
Gogwydd cyw gŵydd lle câi gawn.
Rhedais heb adail Heilin
Rhediad bloesg fytheiad blin.
Sefais goris llys Ifor
Fal manach mewn cilfach côr
I geisio heb addo budd
Gyfarfod â gwiw Forfudd.
Nid oes dwyn na dwys dyno
Yn neutu glyn Nant-y-glo
Nas medrwyf o'm nwyf a'm nydd
Heb y llyfr, hoywbwyll Ofydd.

    Hawdd ym wrth leisio i'm dwrn
Gwir nod helw Gwernytalwrn
Lle cefais weled, ged gu,
Llerwddyn dan fantell orddu,
Lle gwelir yn dragywydd,
Heb dwf gwellt, heb dyfu gwŷdd,
Llun ein gwâl dan wial da,
Lle briwddail, fal llwybr Adda.

    Gwae ef, yr enaid, heb sâl
Rhag blinder, heb gwbl undal,
O thry yr unffordd achlân
Y tröes y corff truan.
Deuthum i ddinas dethol,
A’m hardd wreangyn i’m hôl.
Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
Cymryd, balch o febyd fum,
Llety urddedig ddigawn
Cyffredin, a gwin a gawn.

Canfod rhiain addfeindeg
Yn y ty, mau enaid teg.
Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
Fy mryd ar wyn fy myd main.
Prynu rhost, nid er bostiaw,
A gwin drud, mi a gwen draw.
Gwarwy a gâr gwyr ieuainc –
Galw ar fun, ddyn gwyl, i’r fainc.
Hustyng, bum wr hy astud,
Dioer yw hyn, deuair o hud;
Gwneuthur, ni bu segur serch,
Amod dyfod at hoywferch
Pan elai y minteioedd
I gysgu; bun aelddu oedd.

Wedi cysgu, tru tremyn,
O bawb eithr myfi a bun,
Profais yn hyfedr fedru
Ar wely’r ferch; alar fu.
Cefais, pan soniais yna,
Gwymp dig, nid oedd gampau da;
Haws codi, drygioni drud,
Yn drwsgl nog yn dra esgud.
Trewais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae’r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
Dyfod, bu chwedl edifar,
I fyny, Cymry a’m câr,
Trewais, drwg fydd tra awydd,
Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
Lle’dd oedd gawg yrhawg yn rhydd
A llafar badell efydd.
Syrthio o’r bwrdd, gragwrdd drefn,
A’r ddeudrestl a’r holl ddodrefn’
Rhoi diasbad o’r badell
I’m hôl, fo’i clywid ymhell;
Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
O’r cawg, a’m cyfarth o’r cwn.

Yr oedd gerllaw muroedd mawr
Drisais mewn gwely drewsawr,
Yn trafferth am eu triphac
Hicin a Siencin a Siac.
Syganai’r gwas seog enau,
Araith oedd ddig, wrth y ddau:

‘Mae Cymro, taer gyffro twyll,
Yn rhodio yma’n rhydwyll;
Lleidr yw ef, os goddefwn,
‘Mogelwch, cedwch rhag hwn.’

Codi o’r ostler niferoedd
I gyd, a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i’m gogylch
Yn chwilio i’m ceisio i’m cylch;
A minnau, hagr wyniau hyll,
Yn tewi yn y tywyll.
Gweddiais, nid gwedd eofn,
Dan gêl, megis dyn ag ofn;
Ac o nerth gweddi gerth gu,
Ac o ras y gwir Iesu,
Cael i minnau, cwlm anhun,
Heb sâl, fy henwal fy hun.
Dihengais i, da wng saint,
I Dduw’r archaf ffaddeuaint.
Fal yr oeddwn gynt noswaith,
Gwiw fu'r dyn, gwae fi o'r daith,
Gwedy dyfod i'w gwydrball
Yn lle'dd oedd gwen gymen, gall:

   'Ai hir gennyd yr ydwyd?
Dyn dioddefgar, serchog wyd.'

   'Fy aur, gwddost mae rhyhir,
Am baham oedd na bai hir?'

   Yno y clywwn ŵr traglew
Yn bwrw carwnaid, llygaid llew,
Yn dwyn lluchynt i'm ymlid
Yn greulawn ac yn llawn llid,
O ddig am ei wraig ddisglair,
Un dewr cryf, myn Duw a'r crair!
Gwybuum encil rhagddaw,
Gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw:

    'Hwyr yt felan ysbardun,
Aro fi heno fy hun.
Arfau drwg i ddigoni
Yw'r cywyddau sydd dau di.'

   Cyrchais ystafell, gell gau,
Ac addurn oedd i'r gwyddau.
Meddwn i o'm ystafell:
'Ni bu rhag gofal wâl well.'
Codes hen famwydd drwynbant,
A'i phlu oedd gysgod o'i phlant;
Datod mentyll i'm deutu
Dialaeth y famaeth fu,
A'm dylud o'r ŵydd lud lai
A'm dinistr a'm bwrw danai;
Cares, drwg y'm cyweirwyd,
Cu aran balf-lydan lwyd.

   Meddai fy chwaer ym drannoeth,
Meinir deg, â'i mwynair doeth,
Seithwaeth genti no'n cyflwr
Ni'n dau, ac no geiriau'r gŵr,
Gweled hen famwydd blwydd blu,
Gogam wddw, goeg, i'm maeddu.
Bes gatai arglwyddïaeth
Gwŷr Caer a'u gwaryau caeth,
Gwnawn i'r famwydd, dramgwydd dro —
Rhybuddied rhai a'i beiddio! —
Amarch i'w chorpws nawmlwydd;
Am ei hwyl yr ŵyl yr ŵydd.
Da fu'r Drindod heb dlodi
A wnaeth nef a byd i ni.
Da fu'r Tad yn anad neb
Roi Anna ddiwair wyneb.
Da fu Anna dwf uniawn
Ddwyn Mair Forwyn ddinam iawn.
Da fu Fair ddiwair eiriawl
Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
Da fu Dduw Iôr, ddioer oroen,
Â'i Groes ddwyn pumoes o'u poen.
Da y gwnêl Mab Mair, air addef,
Ein dwyn oll bob dyn i nef.
'Dydd da yt, y gog serchogfwyn
Ei llais ar ganghenfrig llwyn,
Cloc y dail, clicied aelaw,
Cloch aberth y drawsberth draw.
P'le buost, edn diwednlais?
Pa wlad bell? Plu yw dy bais.'

   'Bûm ynglŷn megis dyn dall
Bedeiroes mewn byd arall.
Claf fûm a gwan o anun,
Collais fy harddlais fy hun.
Sefyll dan yr irgyll 'rwyd,
Myn Pedr, ni wn pwy ydwyd.'

   'Myfi yw'r bardd digrifair
Mawrserch fryd, myn mawlbryd Mair,
A'th yrrodd, ni'm gwahoddes,
Wtla o'r tir, at eiliw'r tes.'

   'Henwa, ddyn ffraeth hiraethnych,
Henw'r Gymraes walltlaes wych.'

   'Hawdd y medrwn, gwn ganclwyf,
Henwi gwen, dihunog wyf:
Es ac Ef a llythr hefyd,
En ac A, dwg hynny i gyd.'

   'Erchis gwen, eurchwys ei gwallt,
D'annerch dan frig bedwenallt.'

   'Moes arwydd — drwg y'm llwyddwyd,
Madws oedd, ai mudes wyd? —
Y ddyn, llawer annerch a ddwg,
Fain oedd ŵyl, fwynaidd olwg.'

   'Hir y byddwn, gwn gellwair,
Ar frig llwyn yn gorllwyn gair,
Oni ddoeth, byd hagrnoeth hyll,
Od tew a gaeaf tywyll.
Euthum gan oerwynt trumnoeth
Gyda'r dail, gwiw awdur doeth.'

   'Mae'r arwydd o'r mawr arail,
Y gog adeiniog o'r dail?'

   'Cyffylog anserchogfwyn,
Coch westai, addawsai'i ddwyn
Pan oedd — och arwain pìn iâ! —
Du y dom, yn dywod yma.'

   'Pa bryd y doeth, gyw noethfrych?'

   'Gŵyl y Grog i gil y gwrych.'

   'Ynfyd fu â'i anfad fêr,
Ysgeulus edn ysgeler.
Gwn ei ladd, llid ergydnerth,
Gŵr â bollt dan gwr y berth.
Dwg hediad, deg ei hadain,
Dos eilwaith at f'anrhaith fain.
Dwg hi dan frig coedwig cyll,
Disgyn dan ledu d'esgyll.
Lateies, dwg gae Esyllt,
Loywlais wawd, ferch liwlas wyllt.
Dyro, a hed ar fedwlwyn,
Lythr i'r ferch lathrair fwyn.
Dywaid erchi, f'enaid ferch,
Ohonof fi ei hannerch.
Sŵn cloc mewn perth, ni'th werthir,
Swyddoges gwŷdd hafddydd hir.
Anwybod wyd, gog lwydfain,
A neawdr wyd yn y drain.
Hed o fedwen ganghenlas
Ar bren plan garbron y plas.
Mwyn o drebl, myn di rybudd
I'r eurloer deg ar liw'r dydd,
A dwg wen eurwallt bennoeth
Allan i 'mddiddan, em ddoeth.
O berth i berth anferthol
Minnau a ddo' hyd yno'n d'ôl.
Drwy dy nerth di a'r Rhiain,
Dygwn y ferch deg wen fain.'
Pynciau afrwydd drwy'r flwyddyn
A roes Duw i rusio dyn.
Nid eiddio serchog diddim
Nos yn rhydd na dydd na dim.
Neud ofer brig llawer llwyn,
Neud wyf glaf am dwf gloywfwyn.
Ni lefys dyn ail Ofydd,
Ei brawd wyf, o'i bro y dydd.
Neud gwedy gwydn o gythrudd
Nid nes lles, neud nos a'i lludd.
Ni bydd mawr, gwn, y budd mau,
Na sâl tra fo nos olau.

    Gwn ddisgwyl dan gain ddwysgoed,
Gwyw fy nrem rhag ofn erioed.
Gwaeth no'r haul yw'r oleuloer,
Gwaith yr oedd, mawr oedd, mor oer.
Gwelïoedd dagreuoedd dig,
Gwae leidr a fo gwyliedig.
Golydan ail eirian loer,
Goleudapr hin galedoer.
Blin yw ar bob blaen newydd
Blodeuyn o dywyn dydd.
Plwyfogaeth saeroniaeth sant,
Planed dwfr pob blaen tyfiant.
Ei threfn fydd bob pythefnos -
Ei thref dan nef ydiw nos -
I ddwyn ei chwrs oddyna,
Myfyr wyf, mwyfwy yr â
Hon yny fo dau hanner,
Huan, nos eirian, y sêr.
Hyrdda lanw, hardd oleuni,
Haul yr ellyllon yw hi.

    A fu ddim waeth, rygaeth reg,
I leidr no nos oleudeg?
Eiddig dawel o'i wely,
Wrth bryd, llwyr fryd, y lloer fry,
I'm gwâl dan y gwial da
A'm gwŷl i'w emyl yma.
Rhyborth i'r gŵr yw'r fflwring,
Rhyddi a nef dref y dring.
Rhygron fu hon ar fy hynt,
Rhywel ysbardun rhewynt.
Rhwystr serchog anfoddog fydd,
Rhyw wegil torth rhewogydd.
Rhyleidr haf a'i gwarafun,
Rhyloyw fu er hwyl i fun.
Rhod uchel yw ei gwely,
Rhan Ddwy fraisg o'r hindda fry.

    Cennyw lle bwyf, cannwyll byd,
Cwfert, o'r wybr y cyfyd.
Cyfled ei chae â daear,
Cyfliw gwersyllt gwyllt a gwâr.
Cyflunddelw gogr cyflawnddellt,
Cynefin ei min â mellt.
Cerddedwraig llwybr yn wybr nen,
Carrai fodd, cwr efydden.
Camp mesurlamp maes serloyw,
Cwmpas o'r wybren las loyw.

    Dydd heb haul, deddyw polart,
Dig fu, i'm gyrru o'm gwart.
Disgleirbryd cyn dwys glaerbrim,
Da oedd ym be duai ddim.
I anfon llateion taer,
Dioferchwedl dai f'eurchwaer,
Tra fo nos loyw ddiddos lân,
Tywyllid Tad Duw allan.
Rheol teg oedd i'n Rhiydd,
Rho Duw, yn olau rhoi dydd,
A rhoi ynn nos, a rhin oedd,
Yn dywyll i ni'n deuoedd.
'Tydi, y bwth tinrhwth twn
Rhwng y gweundir a'r gwyndwn,
Gwae a'th weles, dygesynt,
Yn gyfannedd gyntedd gynt,
Ac a'th wŷl heddiw'n friw frig,
Dan dy ais yn dŷ ysig.
A hefyd ger dy hoywfur
Ef a fu ddydd, cerydd cur,
Ynod ydd oedd ddiddanach
Nog yr wyd, y gronglwyd grach,
Pan welais, pefr gludais glod,
Yn dy gongl, un deg yngod,
Forwyn, foneddigfwyn fu,
Hoywdwf yn ymgyhydu,
A braich pob un, cof un fydd,
Yn gwlm amgylch ei gilydd:
Braich meinir, briw awch manod,
Goris clust goreuwas clod,
A'm braich innau, somau syml,
Dan glust asw dyn glwys disyml.
Hawddfyd gan fasw i'th fraswydd,
A heddiw nid ydiw'r dydd'.
'Ys mau gŵyn, gwirswyn gwersyllt,
Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt.
Ystorm o fynwes dwyrain
A wnaeth cur hyd y mur main.
Uchenaid gwynt, gerrynt gawdd,
Y deau a'm didyawdd'.
'Ai'r gwynt a wnaeth helynt hwyr?
Da nithiodd dy do neithwyr.
Hagr y torres dy esyth.
Hudol enbyd yw'r byd byth.
Dy gongl, mau ddeongl ddwyoch,
Gwely ym oedd, nid gwâl moch.
Doe'r oeddud mewn gradd addwyn
Yn glyd uwchben fy myd mwyn.
Hawdd o ddadl, heddiw 'dd ydwyd,
Myn Pedr, heb na chledr na chlwyd.
Amryw bwnc ymwnc amwyll.
Ai hwn yw'r bwth twn bath twyll?'
'Aeth talm o waith y teulu,
Dafydd, â chroes. Da foes fu'.
Oriau hydr yr ehedydd
a dry fry o'i dŷ bob dydd,
borewr byd, berw aur bill,
bardd â'r wybr, borthor Ebrill.

Llef radlon, llywiwr odlau,
llwybr chweg, llafur teg yw'r tau:
llunio cerdd uwchben llwyn cyll,
lledneisgamp llwydion esgyll.
Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
a brig iaith, ar bregethu.
Braig dôn o ffynnon y ffydd,
breiniau dwfn gerbron Dofydd.
Fry yr ai, iawnGai angerdd,
ac fry y ceny bob cerdd;
mygr swyn gerllaw magwyr sêr,
maith o chwyldaith uchelder.
Dogn achub, digon uched
y dringaist, neur gefaist ged.

Moled pob mad greadur
ei Greawdr, pefr lywiawdr pur.
Moli Duw mal y dywaid,
mil a'i clyw, hoff yw, na phaid.
Modd awdur serch, mae 'dd ydwyd?
Mwyngroyw y llais mewn grae llwyd.
Cathl lân a diddan yw'r dau,
cethlydd awenydd winau.
Cantor o gapel Celi,
coel fydd teg, celfydd wyd di.
Cyfan fraint, aml gywraint gân,
copa llwyd yw'r cap llydan.
Cyfeiria'r wybr cyfarwydd,
cywyddol, dir gwyndir gŵydd.

Dyn uwchben a'th argenfydd
dioer pan fo hwyaf y dydd.
Pan ddelych i addoli,
dawn a'th roes Duw Un a Thri:
nid brig pren uwchben y byd
a'th gynnail, mae iaith gennyd,
ond rhadau y deau Dad
a'i firagl aml a'i fwriad.

Dysgawdr mawl rhwng gwawl a gwyll,
disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.
Fy llwyteg edn, yn llatai,
a'm brawd awdurdawd, od ai,
annerch gennyd wiwbryd wedd,
loyw ei dawn, leuad Wynedd.
A chais un o'i chusanau
yman i'w dwyn ym, neu ddau.
Dyfri yr wybrfor dyrys,
dos draw hyd gerallaw ei llys.
Byth, genthi bwyf fi, a fydd,
bâr Eiddig, un boreddydd.

Mae arnad werth cyngherthladd
megys na lefys dy ladd.
Be rhôn a'i geisio, berw hy,
bw i Eiddig, ond byw fyddy.
Mawr yw'r sercl yt o berclwyd,
 bwa a llaw mor bell wyd.
Trawstir sathr, trist yw'r saethydd,
trwstan o'i fawr amcan fydd;
trwch ei lid, tro uwch ei law
tra êl â'i hobel heibiaw.
Y sir oll a fesuraf
o Deifi i Ddyfi ’dd af;
o Dywyn ac o’r glyn floew
y treiglaf i’m gwlad tragloew;
profi achoedd prif uchel,
ac ar dwf y gwr y dêl;
dechreu o ddeheu ydd wyf,
y Sirwern gwlad ni sorwyf:
Hil Rhys melus y molaf,
Tewdwr o Ddinefwr naf:
Galw llwyth Einion Gwilym,
y sy raid yn y sir ym’.
Oddi yno mae f’eiddunoed,
Dros y Cwm i dir Is Coed;
Ym mlith llin Rhys chwith ni chaid
Ond aur gan benaduriaid;
Clawr rhif y gwr digrifion,
Coed y maes yw cyd y Mon;
Agos yw Caerwedros ym’,
Dros y ddeheuros hoewrym.
Dyfod at waith Llwyd Dafydd,
Da fan gan bob dyn a fydd;
Doniog i ni fod myn Deiniol
Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
Trown yno trwy Wynionydd,
Clera difeita da fydd;
Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
Hael faich o Hywel Fychan;
Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
O Ddinawal a dâl dau.
Oddi yno deffro’r dyffryn
Rhwyfo’r glod rhof ar y glyn,
Pob man o’r glyn a blanwyd,
Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
Dyfod at wyrion Dafydd
Tros y rhos, wttreswr rhydd;
Dilyn y man y delwyf,
Pobl Weithfoed erioed yr wyf:
Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
O Benardd a Mabwynion,
I riniog oludog wledd,
Mi af yno, mae f’ annedd:
Hil y Caplan, oedd lanaf,
Gwir iawn, ei garu a wnaf.
Troi f’ wyneb traw i fynydd,
Drwy y sir o dre y sydd;
Amlwg yw hil Gadwgon,
O waelod hardd y wlad hon.
Goreu ceraint gwr carawg
A llyn fydd rhyngddyn’ y rhawg.
Digrifion myn Duw grofwy,
Doethion a haelion n’ hwy,
Câr iddynt wyf o’r Creuddyn,
Llyna haid o’i llin i hyn;
Llinach Llywelyn Ychan
Y maent hwy oll, myn y tân.
Enwau y cwmmwd einym’
Perfedd hyd Wynedd, da ym’:
Llawdden oedd y gwarden gynt
Hil Llawden hael oll oeddynt.
Achau y cwmmwd uchod,
Geneu’r Glyn lle gana’r glod;
Moli hil Gynfyn Moelawr,
Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
Llyna hwy wrth y llinyn,
Achau’r holl gymmydau hyn:
Ufudd a dedwydd da iawn,
A mawr agos môr eigiawn;
Troi’n eu mysg trwy ddysg ydd wyf,
Tros y wlad trasol ydwyf.
Ni chawn, myn Duw a Chynin!
Dy bach o’r Deheu heb win.
Llawen fyddai gwên pob gwr
Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
Rhai dibwyll aur a dybia
Na chenid dim ond chwant da,
Cariad y ddeheu-wlad hon,
Rhai a’i haeddodd â rhoddion.
Lle mager yr aderyn,
Yno trig, natur yw hyn;
Minnau o’r Deau nid af;
Ar eu hyder y rhodiaf.
Elphin dêg taw a'th wylo;
Na chabled neb yr eiddo;
Ny wna lês drŵg obeithio;
Ny wyl dŷn ddim a'i portho;
Ny bydd coeg gweddi Cynllo;
Ny thyrr Diw a'r addawo:
Ny châd yn ngored Wyddno,
Erioed cystal a heno

Elphin deg sych dy ddeururr;
Ny weryd od yn rhybrudd;
Cyd tybiaist na chefaist fudd;
Ni wna les gomod cystudd;
Nac ammau wyrthiau Dofydd;
Cyd bwyf bychan wyf gelfydd:
O Foroedd ag o fynydd,
Ag o eigion Afonydd,
Y daw Duw a dâ i ddedwydd.

Elphin gynneddfau diddan;
An filwraidd yw' d' amcan;
Nyt rhaid yt' ddirfawr gwynfan;
Gwell yw Duw na drwg ddarogan;
Cyd bwyf eiddil a bychan,
A'r gorferw morr dylan,
Mi a wnâf yn nydd cyfyrdan,
Yt well na thrychan Maran.

Elphin gynneddfau hynod,
Na sorr a'r dy gyffaelod;
Cyd bwyf gwann ar lawr fy nghod;
Mae rhinwedd ar fy nhafod;
Tra fwyf fi y'th gyfragod,
Nid rhaid ytt ddirfawr ofnod;
Drwy goffhâu enwau'r Drindod;
Ni ddichon neb dy orfod.
Eiry mynydd blin yw'r byd,
Ni ŵyr neb ddamwain golud;
Nid â traha i weryd;
Ni phery dim on ennyd:
Gnawd gorfod yn ol adfyd;
Twyllo gwirion sy enbyd;
Byth ni lwydda, un a gwŷd!
Ar Dduw 'n unig rhown oglud.

Eiry mynydd gwynn corn mwg,
Hoff yw gan Leidr dywyllwg;
Gnawd galanas hir gilwg;
Gwynn ei fyd, a fo diddrwg!
Hawdd cymmell diriaid i ddrwg;
Nid da digwydd trythyllwg;
Ar Bennaeth bai fydd amlwg;
Coelia 'n llai 'r Glust na'r Golwg.

Eiry Mynydd mawr ar Rôs,
Gofal Herwr, ar hirnos;
Anaml lles o rodio 'r nos,
Cyn credu mynn yr achos;
Cam ffordd, i ddieithr na ddangos:
Na wreicca, i ddieithr na ddangos:
Na wreicca, ond yn agos;
Nag anifeiliaid ar gefn rhos,
Llywodraeth Gwŷr fydd anos.

Eiry Mynydd, da yw'r Hedd,
Cynn dechrau gwel y diwedd;
Mawr gofal dyn mewn blinedd;
Gnawd adfyd, yan ôl trawsedd;
Gweddwa un pêth yw bonedd;
Oni chanlyn rhyw rinwedd,
I wrthwyneb aruthredd;
Ystyrio dyn sydd ryfedd!

Eiry Mynydd melys Gwîn;
Pwy ŵyr trangc mâb wrth feithrin?
Ni chair parch ar gysefin,
Nid gwerthfawr y Cyffredin;
Nid rhybarch rhŷ gynefin;
Nid parhäus Llywiawdr gwerin;
Am bechodau 'r Cyffredin,
Y hydd Duw annoeth frenin.

Eiry Mynydd lwmm ŷch llog;
Bechan Deyrnas, i chwannog;
Gnawd yr Ieuangc yn ddifiog;
Aml tro ar feddwl ferchog;
Na thynn chwarau ar daëog;
Na fydd rŷ hyf, ar rywiog:
Gwae 'r neb, a fo dyledog!
Lle bo annoeth Dywysog.

Eiry Mynydd hoff yw clod;
Ni waeth digon, na gormod;
Yn ôl traha, gnawd gorfod;
Mawr yw codiad aur dafod;
Ar ddim, na wnâ mor difrod:
Ni ludd, i gael y parod;
Nid llai heiniar er Cerdod
Cywira Cydymaith prïod.

Eiry Mynydd Duw sy Nêr:
Cnotta cwymp o'r Uchelder;
Anhardd ar Bennaeth balchder;
Gwisg orau i ferch yw gwylder;
Hardd iawn ar ŵr yw hyder
Gwell nag Athro yw arfer;
Gwedi profi ffyrdd lawer,
Mae 'r Byd i gyd yn ofer.

Eiry Mynydd dail ar Onn;
Tryma dim dwyn gofalon;
C'letta clwyf, clefyd calon;
Nid Gwr i'r Byd yw'r cyfion;
Mwyaf can a dŷn Union;
Mwyaf ofnir y trawsion;
Trwy filoedd o beryglon,
Duw a weryd ei wirion.

Eiry Mynydd cair gweled,
Nad da mynych nâg, am ged;
Nid cybydd yw pob caled;
Na liwia ii neb ei dynged,
Heb fai nid neb a aned;
O fynych fenter gnawd colled;
Ni lwydd a wneir mewn hocced
Gwaetha 'stôr o'r merched.

Eiry Mynydd mae'n ysbys,
Gnawd Edifeirwch of frŷs;
Drwg fydd lleferydd ffawttus;
Anodd cydfod eiddigus;
Ni fawr gwsg un gofalus;
Mawr gwenwyn y gwenheithus;
Pell amcan y deällus;
Ffola dyn yn Cynfigenus.

Eiry Mynydd llydan mor,
Gorau ar hên ei gyngor;
Dyro i'th well ei ragor;
Gwell celfyddyd na thryfor;
Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor;
Un fâth a Llong ar gefnfor,
Heb Raff, heb Hwyl, nag Angor,
Ydyw'r ieuanc heb gyngor.
Mis JONAWR myglyd Dyffryn,
Blin Trulliad, teiglad Clerddyn;
Cul Brân, anaml llais Gwenyn;
Gwâg Buches, diwres Odyn;
Gwael gŵr anwiw i ofyn.
Gwae a garo, ei dri gelyn!
Gwîr a ddywaid Cynfelyn,
Gorau Canwyll Pwyll i ddŷn.

Mis CHWEFROR anaml Ancwyn;
Llafurus Pâl, ag Olwyn;
Cnawd gwaeth, o fynych gyffwyn;
Gwae heb aid a wnêl achwyn!
Tri pheth, a dry drŵg wenwyn,
Cyngor Gwraig, Murn, a Chynllwyn:
Penn Ci, ar fore Gwanwyn;
Gwae a laddodd ei Forwyn!

Mis MAWRTH, mawr ryfyg Adar
Chwerw oerwynt, ar dalar;
Hwy fydd Hinon, Na Heiniar;
Hwy pery Llid na Galar?
Pob rhyw arynnaig a ysgar;
Pôb Edn a edwyn ei gymmar:
Pob peth a ddaw trwy'r ddaëar
Ond y marw, mawr ei garchar!

Mis EBRILL wybraidd gorthir;
Llueddedig Ychen, llwm Tir;
Cnawdosb er nas gwalnoddir;
Gwael Hŷdd chwaraëus clust hir;
Aml bai lle nis Cerir;
Gwyn ei fŷd a fo cywir;
Cnawd difrod, a'r blant enwir;
Cnaed gwedi Traha, trangc hir.

Mis MAI difrodus Geilwad;
Clŷd Clawdd, i bôb di gariad;
Llawen hên di Archenad;
Llafar Côg, a Bytheiad;
Hyddail Cowd, hyfryd anllad:
Nid hwyrach daw i'r farchnad,
Groen yr Oen, na chroen y Ddafad.

Mis MEHEFIN hardd Tiredd;
Llyfn Môr, llawen Maranedd;
Hirgain Ddydd, heini Gwragedd;
Hilawn Praidd, hyffordd Mignedd;
Duw a gâr, bob Tangnefedd;
Diawl a bair bôb Cynddrygedd;
Pawb a chwennych Anrhydedd;
Pôb Cadarn, gwan ei ddiwedd.

Mis GORPHENHAF hyglyd Gwair;
Taer Tês tawddedig Cyffair;
Ni châr Gwilliaid hir gyngrair:
Llomm Ydlan, lledwag Cronnffair;
Llwyr dielid Mefl Mawrair;
Ni lwydd hil Corph anniwair;
Gwir y ddywaid Mab Maeth Mair,
Duw a farn, dŷn a lefair.

Mis AWST Molwynog Morfa;
Lonn Gwenyn llawn Modryda;
Gwel gwaith Crymman, na Bwa;
Amlach Dâs, na Chwareufa;
Ni lafur, ni weddïa;
Nid teilwng, iddo 'i Fara:
Gwir a ddywaid Saint Breda,
Nid llai Cyrchir, drŵg na da.

Mis MEDI mydr anghennion!
Addfed oed ŷd ag Aeron;
Gwayw fydd hiraeth fu Nghalon;
Gwaetha da drwy Anudon:
Gwaetha gwîr gwarchae dynion:
Traha, a threifio'r gwirion,
A ddifa'r Etifeddion:
Golwg Duw ar y T'lodion.

Mis HYDREF hydraul Echel;
Chwaraëus Hŷdd, chwyrn afael;
Gnawd yspeilynt yn rhyfel,
Gnawd Lladrad, yn ddi ymgel,
Gwae ddiriaid! ni ddawr pann ddêl;
Trychni nid rhwydd ei Ochel:
Angau, a ddaw'n ddiogel;
Ammau fŷdd y dŷdd y dêl.

Mis TACHWEDD, tuchan merydd;
Brâs Llydnod, llednoeth Coedydd;
Awr a ddaw drwy lawenydd;
Awr drist, drosti a dderfydd:
Y Da nid eiddo'r Cybydd:
Yr hael, a'i rho pieufydd;
Dŷn, a Da;r Byd a dderfydd:
Da Nefol, trag'wyddol fŷdd.

Mis RHAGFYR, Byrddydd, Hirnos,
Brân ar egin, Brwyn ar Rôs;
Tawel Gwenyn ag Eos;
Trîn yngheuodd diwedd nos:
Adail dedwydd yw diddos:
Yr hoedl er hyd fo'i haros,
A dderfydd, yn Nŷdd a Nôs.
Eiry Mynydd caled grawn,
Dail ar gychwyn lynwyn llawn;
Nag ymddiriad i estrawn.

Eiry Mynydd gwangcus Jâr;
Gochwiban gwynt ar dalar;
Yn yr ing, gorau yw'r câr.

Eiry Mynydd llawn beudy;
Clydwr i Ddafad ei chnu:
Ni haedd diriaid ei garu.

Eiry Mynydd gwynn pob clawdd;
Gnawd yn Eglwyd gaffael nawdd:
Cynnghori diriaid nid hawdd.

Eiry Mynydd glâs Morfa;
Cnawd Rhyfel y Cynhaua;
Ni cheidw diriaid ei dda.

Eiry Mynydd llwm afall;
Ni bydd cywaethog rhygall;
Gnawd o air ferth gael arall.

Eiry Mynydd gwynn brig gwrŷsg;
Gochwiban gwynt yn nherfysg;
Trêch fydd anian, nag addysg.
Cerddor llawengainc hirddydd,
Canu er difyrru'r dydd,
Croyw gywydd yn nydd a nos,
Croywach na phynciau'r eos,
Yn bur iawn, heb awr anwych,
Y gwnai bêr wawd, mewn gown brych;
Abad o gaets, bowyd gwiw,—
Ond, ei gwfl nid yw gyfliw;
Pa lifrai amgylch plufron?
Pais fraith o gwmpas ’i fron,
Ac o liw'r fron, goler fraith,
Fo roed henw, o Frytaniaith.

Gyrru i Dduw gerdd a ŵyr,
Groywiaith, a'i big i'r awyr,
Athro adar, iaith rydeg,
Ysgol gân dysg loywgain, deg.

Canu'n wych acen a wnêl
Cynhwyso, pyncio'n isel;
Ba osle well mewn bas lais?
Brawd oslef baradwyslais!
Pregethwas o deyrnas dail,
Poet gwiw mewn pulput gwiail!
Bwriwyd unbardd, brad enbyd,
Bwriai Dduw ben beirdd y byd!
Brad gwawd buredig ydoedd,
Bwrw niwl ar bêr awen oedd,
Breuddwyd a'n gwnaeth yn bruddion,
Bwrw cerdd bêr, brig, gwraidd a bôn;
Diwraidd cerdd, dau arwydd cur,
Dirym dadl, draw, am Dudur.

Gyrrodd rhew o'i gwraidd y rhawg
Gardd lysau'r gerdd luosawg,
Os gwir rhoi - nid ysgar rhew
Eos Aled is olew;
Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
Trwstan-gwymp trawst awen-gerdd.

Ymroi i Dduw a Mair 'ddoedd,
Wedi'r sidan drwsiadoedd;
I ddofydd yr addefwyd,
Ei ddewis glôg oedd wisg lwyd;
Cryf oedd o serch crefydd saint,
Crefyddfrawd Côr ufuddfreint;
Ffydd y saint, hoff oedd ei swydd,
Ffrawnsys a hoffai'r unswydd;
Buasai well, 'n y bais hon,
Bwrw deuddeg o brydyddion;
Bid y brud a'r byd heb wres,
Brud, hyd dydd brawd y toddes;
Braidd, o gerdd, bereiddio gair,
Braidd, gwedi bardd y gadair;
I gadw rhoer ei gadair hardd
Ar feddfaen yr ufuddfardd,
A boed i'r un o'r byd rodd
A fai'n well - ef a'i 'nillodd!

Ni bu roddion bereiddiach,
Nag awen ben Gwion Bach;
Perach gwawd, parch, ag odiaeth,
Petai'n fyw poet i nef aeth;
Och dristed merch dros dad mawl,
O chuddiwyd ei chywyddawl!
Gwae ddyn wych, gwaeddwn uchod,
Gwae, ni chlyw ganu ei chlod;
Mae gweiddi am gywyddwr
Merch a gwalch a march a gŵr;
Och, dorri braich draw a bron
Angel annwyl englynion!
Bywiog englyn heb gonglau,
Berw gân fraisg, brig awen frau;
Am air hoyw, pwy mor rhywiog
Heb wyrth gras aberth y Grôg?
Eilio'r iaith fal Iolo'r oedd,
Eiliad awdl Aled ydoedd.
Awen ddofn o'r un ddefnydd
A'r gawod fêl ar goed fydd;
Awen frau, i nef yr aeth,
Wrth freuder, werthfawr odiaeth;
Cerdd ysgwîr, croywddysg araith,
Clod y gŵr, clywed ei gwaith;
Ef âi, o châi, afiach hen
Ei chlywed, yn iach lawen.

Didolcwaith gyfiaith a gad
Deutu genau datgeiniad
Fal gwin oll neu fêl y gwnai
Lais mwngwl Eos Menai.

Mowrddysg oedd am urddas gwawd,
Mwy fu irder myfyrdawd,
I'r ddwy, dysgai'r ddau degwch
Y mêl a'r cwyr aml i'r cwch;
Mab ydoedd am wybodaeth,
Merddin Wyllt, marw ddoe a wnaeth.
Yma'n y byd, mwy, ni bydd
Ail Dudur Aled wawdydd;
Ethrylith aeth ar elawr,
A therm oes yr athro mawr;
Ni wyddwn, o iawn addysg,
Nes ei ddwyn, eisieu ei ddysg;
Ag yn ei fedd gan ei fod,
Mae'r Beibl mawr heb ei wybod;
Ef a wyddiad ar foddau
Ei hun, gwell no hŷn nag iau.

Yn iach awen, och, ieuainc!
Yn iach farn iawn uch y fainc;
Yn iach brigyn, awch breugerdd,
Yn iach cael cyfrinach cerdd;
Yn iach un ni châi einioes
Yn iach ei ail yn eich oes;
I ail einioes lawenach,
I wlad nef eled, yn iach!
Mae’r tarw mawr o’r Mortmeriaid?
Myn o waed Bleddyn dy blaid.
Tri o deirw (rhag troi d’arwydd!)
Yw’r teirw a wna’r tir yn ŵydd.
Yr un gŵr o’r iawn goron
Ydiw’r tri: Edwart o Rôn.
Taurus Cornutus ynn wyd,
Tri natur trwy hyn ytwyd.
Tarw fydd, llid torfoedd llydain,
Tro dy nerth at ryw dy nain!
O frenin costwin Castil
A Gwladus Du galw dy stil.
Cawn darw acw’n aderyn:
Ceiliog adeiniog wyd ynn.
O’r tri Edwart tarw ydwyd;
Od ai’n uwch, Mab y Dyn wyd.
Dy gyrn o Ddofr hyd Gernyw,
Dugiaeth Iorc dy gywaeth yw,
Iarllaeth y Mars, eurllwyth Môn,
Iarll hardd ar holl Iwerddon.
Yn ddug, yn iarll ni ddwg neb,
Yn frenin, gyfryw wyneb.
Ni bu ryw gorff yn bwrw gwŷr
O’r cowri na’r cwncwerwyr.
O wyth frenin y’th freiniwyd,
Ymerawdr oll ym mrwydr wyd,
Ysgwlmastr Ffrawns ac Almaen
I gosbi Iorc ac Ysbaen.
Dy law ar ieirll dolur oedd,
Difa talm dy fateloedd.
Da y dielaist dy dylwyth,
Am un iarll gymynu wyth.
Y Wiber Goch biau’r gis:
Arth, Ci, Alarch, Porthcwlis.
Arwyl eilwaith i’r Lili,
Ar Dir y Llew dryllia hi!
Tyn d’arf eto ’n y dwyrain,
Tor y môr a’r tyrau main!
Ti yw’r carw â’r tair coron:
Tref Lundain, Rhufain a Rhôn.
Tarw a llew Tir y Lleuad,
Tir y Twrc fydd eich tre tad.

O threwi â’th wŷr ieuainc,
Od ai ar ffrwst i dir Ffrainc,
Na ddos, carw yn aros cyrn,
Nes cadw Ynys y Cedyrn.
Gwae ni o’n geni yn gaeth
Gan ladron: gwna lywodraeth!
Dyred dy hun, Edwart hir,
I ffrwyno cyrff rhai enwir
Wrth ddysg a chyfraith esgud
Lles ap Coel, Dyfnwal Moel Mud.
Ercwlff a roes dair colofn
Ar gyfair Môr Tawch rhag ofn;
Dod tithau nodau i’n iaith,
Y tarw, cyfria’r tair cyfraith,
Tro i gwnsel trugeinsir,
Trosa’r twyll a’r trais o’r tir,
Tor bennau a gyddfau gwŷr,
Traeturiaid, tro at herwyr,
Dod williaid i dywyllwg,
Dilea’r dreth, daly rhai drwg,
Disgin, Edwart Frenin fry,
Dwyll ac amraint holl Gymru!
Dyn fal y Nawnyn Uniawn,
Degfed wyd, dwg fyd i iawn!
Tair blynedd rhyfedd fu’r rhain:
Tri brad a fu trwy Brydain.
Lle bu wledd cyllyll a bwyd,
Llu’r wledd i’r llawr a laddwyd.
Os brad yn Salsbri ydoedd,
Un twyll â Chastell Gwent oedd;
Ni aned twyll onid ti,
Ni bu unbrad ond Banbri.
Arwydd am ladd (f’arglwydd fu)
Syr Rhosier, sorri’r Iesu.
Achos Syr Rhosier Fychan
A marw’n iarll, mae Cymru’n wan.

Er bwrw derwgoed bro Deirgwent
I’r llawr oll, mae iarll ar Went;
Mae cangau, colofnau clêr,
Oes, ar roswydd Syr Rhosier;
Tyfodd â gwaed Dafydd Gam
Eilwydd i Herbart Wiliam.
Iarll Gwent, dos i ddryllio gwŷr
Â’th ddyrnau a’th haearnwyr.
Ffrystia dir Fforest y Dên,
Ffrwyna bawb o gyff Rhonwen.
Troes tâl, llei treisiwyd dy wŷr,
Trwy barwydydd tai’r bradwyr.
Meistr Tomas, galanas gledd,
Mab Rhosier, ym mhob rhysedd,
Wyth drin i’th werin a’th wŷr,
Wyth frwydr a wnai â’th frodyr.
Ewch i gyd, achau Godwin,
Aml weilch Dafydd Gam a’i lin,
Ymleddwch, dielwch dwyll
Ar Fforestwyr ffair Ystwyll,
Erlynwch ar alanas
I Gaerloyw a’r gwŷr a las.
Twrment Castell Gwent a’u gwaith,
Talwyd iddynt hwy eilwaith.

Och! Rhoes Duw ywch ras a dawn,
I’ch gofal byddwch gyfiawn.
Ar Dduw y mae’i roi a’i ddwyn
A throi eilwaith yr olwyn.
Na fyddwch (na chiliwch, weilch)
Na rhy ufydd na rhyfeilch:
Am falchder, blinder y blaid,
Bwriwyd henwau’r Brytaniaid.
Y rhai a fo byr eu hoes,
O chwant aur ni chânt deiroes.
Edrychwch (mynnwch fy modd)
Ar gampau’r rhai a gwympodd:
Cwymp y rhai enwir a’u cis,
Cwymp Warwig, cam a’i peris!

Un a ddichon heddychu
O’r môr i’r llall, mawr yw’r llu:
Iarll Penbrwg, Morgannwg wen,
Iarll hyfryd garllaw Hafren.
Ennill dithau, flodeuyn,
Air dy dad, er Duw a dyn.
Gado, arglwydd Cymro call,
Cyngor rhai ieuainc angall;
Arail y tir a’r wlad hon,
Iarll hydr, aerwya’r lladron;
Bwrw’r treiswyr, Herbart rasol,
Y byd a’th ddilyd i’th ôl.
Mae’n gofal yma’n gyfun,
Mae’r Nordd a Chymru yn un.
Edwart, dyly dair talaith,
Ef a ran weithan i’n iaith.
Y gŵr a’i blant ar Loegr blaid,
Rhy’r bordir i’r Herbardiaid.
Llu Dwywent oll a’u diail,
Lled yw’r do no’r lludw a’r dail.
Llwyth yr Israel hael yw hon,
Llwyth Siesu’n llethu Saeson.
Bydd ddialwr, ffrwynwr Ffranc,
Brad d’ewythr, Herbart ieuanc!
Rhyfedd ydiw arfeddyd
Rhai da o’r beirdd: rhodio’r byd,
Hely gŵyl o hael i’i gilydd,
Helynt iwrch o helynt hydd,
Newidiaw ôl, un a dau,
Anwadal yw’r newidiau.
Treiglaw a fynnant lawer
Trwy’r byd fal troi ar y bêr.
Treiglent a rhodient yr haf;
Tua Rhaglan y treiglaf.
Ymlyniad – llei moliannwyf –
Ar ôl mab Syr Wiliam wyf.
Nid af i newidiaw ôl
Syr Wiliam dros yr eilol.
Hyddgi da (hawdd ei gadw ef)
A ddilid yr un ddolef;
Ar y gainc ni ŵyr y gog
Ond un llais, edn lluosog;
Brenhinedd, ni wedd uddun’,
Yr India, enw da ond un.

Ni bwyf fyw, ni bo ei fam,
Nos ar ôl enw Syr Wiliam.
Ni phair ym Gymro na Ffranc
Dewi am Herbard ieuanc.
Efrydd, er nad ysgarwyf,
Aur a gwledd un arglwydd wyf.
Ni chyrchaf ddŵr dros afon
Er un saig o’r ynys hon.
Naw seler nis cymerwn
Islaw’r haul am seler hwn,
Bwrdiaws Nudd yr Herbardiaid,
Baiwn chwaer heb win ni chaid,
Gasgwin, gynefin yfed;
Glyn Rhin, drwy Raglan y rhed!
Holl Gymru berchentyaeth
I’r un tŷ ym mro Went aeth.

Bryd swrn, o baradwys Went
’Y nhwyllaw, hyn ni allent.
Un o feirdd, yno a fu,
Gwynedd, yn cenfigennu.
Gweled mewn felfed (mwyn fu)
A sidan fy nhrwsiadu,
Gweled fy muddugoliaeth
Gan un pendefig a wnaeth.
Medd ef, tu yma i Ddyfi,
Guto, myn gyty â mi.
Nid trwy sôn ond trwy synnwyr
A thrwy deg f’athrod a ŵyr,
Cynnig aur ym – cawn ei gred –
Yma i Wynedd er myned
A cheisiaw rhoi iddaw rhawg
Fy lle innau fal llwynawg.
Minnau er da creiriau Cred,
Ni fynnaf o nef fyned.
Od oes nef ar ddaearen,
Mae ’n y graig mewn y gaer wen.
Aed ef i newidiaw ôl,
Ni fudaf o nef fydol.
Fy mryd sy ar gadw fy mro
Ac atal ffrwyn y Guto.
Bryd y gŵr, bwriadai gam,
Sy ar olud Syr Wiliam.
I Went y dwg yntau daith
A damwain od â ymaith.
Nid oes, onid ymgroeswn,
O daw, rhag hir drigaw hwn.
Ewch yn iach, ni chwenychaf
Ganu i neb, ac iawn a wnaf,
Gan amled yw gweled gwŷr
Gwynion yn genfigenwyr.
Hywel gwyn, holi gweniaith
A’m beio y bydd am bob iaith.
Medd ef, myfi a ddyfod
I’r medd glas ormodd o glod,
Gweniaith ddigon i gannwr
A chelwydd ar gywydd gŵr.
Ni cheisiaf, o chanaf chwaith
Wedy gwin, wadu gweniaith.
Minnau’n dyst, ni mynnwn dwyll
Mewn gweniaith, myn y gannwyll.
Pe bai gyfion pob gofeg,
Beth yw gweniaith ond iaith deg?
O thraethir y gwir a’r gau,
Y gair tecaf yw’r gorau.
Ni thraethir y gwir i gyd
Yn llyfr nac unlle hefyd.
Traethai gerdd, truth yw a gwanc,
Tawed Siôn y Cent ieuanc!
Cywydd heb gelwydd a gân,
Gwnaeth waeth no gweniaith weithian:
Prisio Morgan ap Rhosier
Y bu ar glod, bwa’r glêr;
Byr yw’r glod i’r brëyr glân,
Bwrw iaith hagr a brith ogan.
Mae llai o anach i’m llw,
Mal hyn yw moli hwnnw:
Doeth a mawrgoeth yw Morgan,
Dewr yw, ac nid eir â’i ran.
Dysg a llywodraeth i’i dir
Drwy ei fin a derfynir,
Olew y Castellnewydd,
A’i law dros ei wlad a rydd.
Swydd gydag arglwydd a gâi,
A dwyswydd, pes dewisai.
Ni bu wyneb i bennaeth
Well erioed yn y lle’r aeth.
Graddau tebig i Rydderch
Arnaw y sydd o’r un serch.
Mae pwys hwn ym mhob synnwyr
A phob dilechdyd, Raff ŵyr,
Cyfraith a phedeiriaith deg,
Awgrym, mydr a gramadeg,
Cerddor gyda’r cywirddant,
Doeth yw ’ngherdd dafod a thant
A mwya’ ystronomïwr:
Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr.
Da y gwn foli hwn fal Hu,
A’m brawd ni fyn ym brydu.
Myn fy nghred, tawed Hywel,
Y’i gwnaf, beth bynnag a wnêl!
Cerdd i Forgan a ganaf,
Er y gerdd ei aur a gaf.
Y mab ieuanc a’m beiodd,
Bychan fydd ei ran a’i rodd.
Mi a gawn am y gweniaith
Roeso, lle ni chaffo chwaith!
Llawen wyf i’m plwyf a’m plas – diofal,
Llys Dafydd ap Tomas,
Llin Dafydd, y trydydd tras,
Llywelyn wayw lliwlas.

Glasfedd i’w gyfedd a gaf
Gan hwn, llawer gwan a’i hyf.
Gorau gŵr a gwraig araf,
Gorau dau hyd ar Gaerdyf.

O Gaerdyf y tyf hyd Deifi – ei glod
Ac i wlad Bryderi,
Ac i Fôn a Gefenni
Egin fydd a ganwyf i.

Digri fu i mi fy myw – pan dyfodd
Pendefig Mabeilfyw.
Da am win hyd ym Mynyw,
Da am aur a phob dim yw.

Yfory i’w dŷ a’i dud
A heddiw y’m gwahodded,
A thrennydd gwneuthur ynyd,
A thrannoeth saethu’r unnod.

Nodaf nod gaeaf, naid gwiw – Nadolig,
Nodedig naid ydiw;
Naid hydd yw y nod heddiw,
Natur hydd neitio i’r rhiw.

Brenhinbren Rhiw Tren, rhoid Duw rad – i hon
A henaint i’w cheidwad,
Brenhindwr bryn ei hendad,
Bron deg y barwn a’i dad.

Ei dad o Dewdwr oedd nai Ddinefwr
A aeth â’r cannwr a thir cynnydd.
Ei blaid yw blodau y byd wybodau
O hen aelodau hyn o wledydd.
Yn un cun y’i cair ac yn Nudd y’i gwnair,
Yn grair digrifair Duw a’i grefydd.
Y mae’i air am wŷs i bawb ar y bys,
Ŵyr Rys i’r ynys yw’r awenydd.
Ei daid wyndawdwr a wnaid yn wawdwr,
A’r gŵr yw’r brawdwr a gwir brydydd.
Nid eirch yn ei dud er mawl aur a mud,
Na mynnu golud mwy no’i gilydd.
I riain rywiog y cân, myn Cynog,
A’r odlau i’r gog a’r dail a’r gwŷdd.
Ei lys alusen a dynn haint dyn hen,
Ei wên a’i awen a’i win newydd.
Ar faeth yr wyf i ar ddaear Ddewi
Yn llawes Deifi yn llys Dafydd,
A’m taith faith o Fôn i oror Aeron
Yw drwy Fabwynion adref beunydd.
Euraw mawl ermoed eos cerdd Is Coed
A lloergan unoed llawr Gwynionydd,
Ac aur trwm ger Tren a gawn heb gynnen
A diolch awen awdl a chywydd,
A llys ar ei lled y lleddir lludded
A lle efrifed a llyfr Ofydd,
Gwin hoyw gynhaeaf a gweoedd gaeaf,
Y gwanwyn a’r haf i gan yr hydd,
Brau gig, bara gwyn a bragod brigwyn
A pherwaith gwenyn a ffrwyth gwinwydd.
Ymhell, Hiriell yw, ym a bod i’m byw
Heb lyw Mabeilfyw ym mhob elfydd.
Un Duw gad, nid gwan, ein tŵr a’n tarian,
A gad Wenllïan gyda’n llywydd.
Yntwy un tyaeth o’r un farwniaeth
Yw’n maeth a’n lluniaeth a’n llawenydd.
Cerais y mab â’r corun,
Cared pawb lle câi arian.
Cair ei fwrdd, câr oferddyn,
Cryf urddol, carw i feirddion,
Côr fawrddysg, tapr cwyr fyrddwn,
Corf urddas tir Caerfyrddin.

Ei win o gaer Fyrddin Fardd
Ac aur a gaiff gwŷr o gerdd.
Ei gan a’i fedd a gawn fyrdd
A’u derbyn i’w bedwarbwrdd.

Llyn bwrdd, llawen gwrdd, llawn ged – llu’r Deau,
Llew’r barnau llawr Berned.
Llyna gapten Sain Bened
A llun crair meibion llên Cred.

Credwn nad haelach creadur – no Rhys,
Rhoes am waith y ffreutur.
Cyfodes y cofiadur
Cwfent a phlaid cefn tŷ Fflur.

Angel yn nheml Fflur yngod
O ffydd a chrefydd a chred,
A chleddau abadau byd
Yn Neheubarth yw’n habad.

Abad, corff y wlad, caer Fflur,
Aberth nef a byrth nifer,
A’i byrth heb glo neu borthor
I borthi Deheubarthwyr.
Berthog a thlawd a borthir
Ar barthau yr aberthwr.

Y gŵr o orddwr a urdda – menych
Ym Maenan a Deuma,
A’r Gŵr â’r gwin a’r bara
I Rys deg a ro oes da.

Da gennym i’w deg ynys – draw redeg
Drwy oreudir Powys.
Da fy hwyl, dof i’w hoywlys,
Dyfod drwy Deifi at Rys.

Rhys Abad, tyfiad Dafydd,
Rhys fenychlys fynychwledd,
Rhys yn rhad roes ynn aur rhudd,
Rhys orau Rhys i roi rhodd.

Y Gŵr a roddes o gariad – perffaith
Iawn obaith yn abad,
A rydd, hael o’r Ddeheuwlad,
Iesu, i Rys oes a rhad.

Rhadau’r Iesu, rhai drawyswr,
Rhoed eglwyswr, rhydeg leisiad,
Rhol gynhesu, rhuwl gynhwyswr,
Rhyw dywyswr rhai dewisiad.
Rhoes ebolion i’r hudolion,
Rhwysg gynholion, Rhys gynheiliad.
Rhoes ysgolion i’r rhentolion,
Rhyw urddolion, rhai o’r ddwywlad.

Gwladoedd Eli glud addolant
Goroff Rolant, gwŷr a phrelad,
Gâr i Feli, gŵr a folant,
Glêr a holant glarai heiliad.
Gwnaeth gyfrestri gwydr ffenestri,
Gaer fflowrestri, gôr Fflur Ystrad,
Gwin fenestri ag aur lestri,
Gwalchmai’r festri, gweilch Mair fwstrad.

Mwstwr anant, meistr awenydd,
Mael Maelienydd, mawl ymlyniad,
Molawd ganant mil atgenydd,
Mau lawenydd moli ynad.
Myn ganiadau mynych gadau,
Medrusiadau mydr osodiad,
Mur abadau, maer cariadau,
Mawr a radau Mair a’r Hoywdad.

Tadwys golau tai disgeler,
Tref a wneler trwy fain eiliad.
Tew yw’r olau o’r tŵr eler
Tua’r seler, pond da’r seiliad?
Trefn aur melyn, ŵyr Lywelyn,
Terfyn gelyn tra fo’n gwyliad.
Tai Gynfelyn, talm a’u gwelyn’,
Teimlai delyn, teml adeilad.

Adeiliadau i dylodion
Yn herodion yn ei rediad,
A gwiw radau ac arodion
A gwirodion a gwarediad.
Awn hyd yno a’n dilyno,
Euraid dyno y rhiw tanad,
At a bryno awen gryno,
’Y myd yno a’m adwaeniad.

Adwaen, y mab, yn d’enau medd,
Ac ar y wledd â gwŷr y wlad,
A gwên y pab ac wyneb hedd,
Y Gŵr a’n medd a gâr iôn mad.
Ei wawd a wŷs, a’i ddwyn ydd ys,
A’i enw ar frys, ddienwir frad,
A’r lle a’r llys, a’r llu ieirll wŷs,
A llyna Rys yn llawn o rad.
Teimlwr gwŷr, teml iôr gwiwrent,
Tomas, post a gwanas Gwent,
Gwych haelfab ac uchelfaer
Watgyn wyd, wayw deucan aer.
Gwarcheidwad lle’r tad wyd ti,
Gwawl, llen dduwiawl Llanddewi.
Iti rhoed lle’r wyt, ŵr hael,
Llaw Gwatgyn, y llew gwaetgael,
Aur galon Salmon a’i serch
Rhwydd, o Landdewi Rhydderch.

Ai gwir, eryr goreurent,
– Os gwir, mawr fydd eisiau Gwent –
Dy rifo, uwch d’oreufainc,
Deg ei ffriw, o’r dug i Ffrainc?
A phei delud, ffawd Alun,
I Ffrainc, hwyr yt ffo er un.
Caud glod yn cadw goleudent,
Caut ran gŵr, caterwen Gwent.
’Y nghred, ŵr, ’y ngharw dewraf,
Onid ai yno, nad af.
Perwch siartr i bawb gartref:
Rhyfelwn, trigwn i’n tref.
Cenau gwindeiau Dwywent,
Cynhaliwn drin â gwin Gwent!
Gwnawn Ffrainc ar y dalfainc dau,
Ymladdwn ag aml wleddau.
Gwarden a chapten ych chwi
Gwent, rhyfel gwin y trefi;
Ni châi frenin ar win iach
Neu ddug ryfel ddigrifach.
Dewi hir yw dy herod,
Dy faner i’r glêr yw’r glod.
Y deiliaid oll a’i dilyn,
A’r Dolffin ydiw’r gwin gwyn.
Meddyglyn, meddwai wiwgler,
Dy lu a’i hy’, yw Da la Her.
Cwrw iach o frig ceirch y fro
Yw’n Powtwn, fal gwin Paitio.
Saethyddion rhwyddion yn rhaid
Yt, gannwr o ddatgeiniaid.
Y rhain ni chilian’ yrhawg,
A’r eurfeirdd yn wŷr arfawg.
Mwstria ni, meistr, yn Nwywent,
Mal dy dad, yn ymyl dy dent.
Ni bydd dy feirdd naw byddin
Heb roi sawd o broesi win.
Rhaid fydd i Ddolffin warhau
Rhag sawdwyr yr hocsiedau.
Galw a wnawn, gyfiawn gwfent,
‘Sain Siôr!’ ar draws ynys Went.
Dy win a eilw ‘Sain Denis!’,
Dy fedd sy hŷn no dau fis.
Pob gwas dewr, pawb a gais da,
Pob un a ladd pib yna,
Cydsaethu, iawngu angerdd,
Gwin coch â main gynnau cerdd.
Doed rhyfel yn lle delom,
Dolffin draw a dâl ffin drom.

Cyd gwnelom (ymglwyfom, glêr!)
Fost yn daerdost o’n dewrder,
Dolffin, medd y min meddw mau,
Ef a’i wŷr a fu orau.
Ef a fwriawdd oferwyr
Dolffin ein gwerin a’n gwŷr.
Ni welais – tra syniais i! –
Ond y gwin yn digoni.

Bras Domas mewn brest ymwan,
Brawd hŷn y glêr, Brytwn glân,
Ystyria, os dy werin
A fydd, myn fy ffydd, ar ffin:
Dy lu ynn a’i deily yna,
Dy law deg a dâl y da,
Dy lu a gyst da lawer,
Dial hyn ar gorff Da la Her.
Lladd Ddolffin a’i werin, ŵr,
Llwyddiant yt, fy llueddwr,
Brëyr rheimwyr a’u rhaement,
Brenin brwydr gwin brodir Gwent.
Y mae dolur i’m dilyn,
A thrymder yw hanner hyn.
Oes, myn Mair, es mwy no mis,
4A’m pôr ymy a’i peris:
Mynediad fy mhenadur
I Loegr fflwch o loywgor Fflur,
Rhoes, orau moes, aur a medd,
8Rhys fyneichlys fynychwledd,
Rhugl abad, rhywiawg loywbor,
Rhaglaw cerdd, anrheglyw côr,
Dinag hil, deunaw Calan,
12Dafydd, Gaeo lywydd glân,
Urddawl fab, arddelw a fyn,
Aur loywlyfr, ŵyr Lywelyn.
Nid un yn y daioni
16Neb dan nef â’n abad ni.
Eurfaglawg, erfai eglur,
A goroff lyw o gôr Fflur.

Boed ebrwydd, f’arglwydd yw fo,
20Da ei lên, y dêl yno.
Ni bydd llu’r gwledydd, llwyr glod,
Nos ddiofn nes ei ddyfod.
Pedwar Sul, myn Pedr, y sydd,
24Er ban aeth eurben ieithydd
I Ryd, er maint a rodiwyf,
Ychen rym, achwyn yr wyf.
Calon nid aeth, winfaeth wen,
28Erioed uwch i Rydychen.
Trwm a maith yw trum y mis,
Trymach no charchar trimis.
Mwy y sydd yn y mis hwn,
32Mwy o ddyddiau, meddw oeddwn,
Nog ymlaen yn neg mlynedd,
Nid chwarau maddau y medd.
Cofiawn diddawn a’m deddyw,
36Cyfnod hir i’r cwfent yw.
Anelw oedd ym yn y wlad
Aros heb wiwRys Abad.
Hir yw’r dydd, herwr diddawn,
40Hwy’r nos, ei haeru a wnawn,
A byr, ym Duw, eb rwym dig,
Ban oedd yng nghôr Beneddig.
Nid cyhyd ar hyd yr haf
44Ag yw er Calan Gaeaf.
Mis y’i gelwir, ym Iesu,
Tair blynedd am fedd ym fu.
Glŷn ynof galon unig,
48Galar athrugar o thrig.
Nid hyfryd, ennyd anwyl,
Neuadd Rys oni ddaw’r ŵyl.
Gwael fyddai’r ŵyl nis gwelwn,
52A gwael yw pob gŵyl eb hwn.
Dyfod a wna mab Dafydd,
O daw, gwyn fy myd o’r dydd.
Ac oni ddaw canllaw cant
56Y traed ataw a redant.

Y mae deuwr i’m deol
O wenllys Rys ar ei ôl:
Un yw hiraeth, enw hoywrym,
60Cariad yw’r llall, curiawdr llym.
Nid af i’w ball na’i allor,
Ni’m gad y cariad i’r côr,
A marw ydwyf am rodiaw
64Ei glawstr ef a’i eglwys draw.
Gynt y rhoed yn gynta’ rhan
Gwynedd yn llaw ferch Gynan,
Ac unrhodd fu ar ganrhent
Gwraig wedi’i gŵr i gadw Gwent.
Gwagedd yw gwragedd a’u gras
Gwedi Deifr gwaed y Defras,
Ail Sibli, o lys Weblai,
Ddoeth deg, bendith Dduw i’th dai!
Lliw’r haul yn rhoi llawer rhan,
Lliw sêr eglur llys Raglan,
Iarlles Ann, o’r llys honno
Iarll yw dy fab, gŵr llwyd fo!
Ni bu iarlles yn berllan
Uwch ei chost no chwchwi, Ann.
Ni chreodd fy nechreuwr
Gwraig iarll mor gywir i’w gŵr,
Merch weddw yn ymorchuddiaw
Mewn du drud, o’r maendy draw,
Mam iarll ag arf wyarlled,
Gwraig yr iarll gorau o Gred.
Duw a ddialodd dy ŵr,
Dial brwydr ar dâl bradwr.
Troes fab ni ad trais i’i fam,
Troelus, yn lle tri Wiliam.
Tri henw’n un trwy hyn a wnaf,
Trywyr, getid Duw’r ieuaf!
Mesen yw’r dderwen o’r ddâr,
Mal Iesu gynt am Lasar:
Marw Wiliam a’i roi eilwaith,
Mae fry iarll mwyaf o’r iaith.

Esyllt dristwyllt am Drystan
Wedi dy ŵr ydwyd, Ann,
Martha irder merthyrdawd,
Mair brudd wedi marw ei brawd,
Anhunedd y frenhines
Am ei thad, liw Mai a thes.
Yr un ffortun â’i pharti
A droes ei chwrs drosoch chi:
Treiaw ystorm a gormes
Trwy Raglan dir, troi’r glaw’n des.
Arglwyddfab y wraig wleddfawr
A geidw’r llys, nis gad i’r llawr.
Mae’r du achos marw ei dad
Yn Fernagl o nef arnad.
Mae i Went fodrwy a mantell,
Mewn du ni bu wyneb well.

Dilid y broffwydoliaeth
A’i daly ’dd wyd, wrth dy law ’dd aeth:
Mynyw a wisg, lle mae Non
Garllaw, fantell Gaerllion.
Dwy wlad Went yn dy law di
Drwy Dduw, a daear Ddewi,
Powys megis lamp awyr,
Penbrwg, Morgannwg a Gŵyr.
Saint Ann y’th alwan’ i’th iaith,
Saint Elen dros Went eilwaith.
Elen oedd fam Gwstennin,
A’i mab, traws a fu ’mhob trin.
Mam Iarll Wiliam ieirll aelwyd
Ac Elen wych Raglan wyd;
Constans, i Rwmans a roed,
Yw’r iarll hwn i’r ieirll unoed.
Chwaer Elen fych yr eiloes,
Ac ail gwraig i gael y groes;
Ymherodr yma hirwyn,
Fal ei mab, fo Wiliam ynn.
Y mae glaw am a glywais
O’m pen yn llithraw i’m pais.
Os gwir fydd, nis gorfyddwn;
Och finnau, os gau, nas gwn!
Dal Syr Rhisiart a’i dylwyth,
Gethin, seler lawnwin lwyth.
O delid, pam nad wylym?
O’i ddal ef nid oedd elw ym,
Nudd am aur newydd i mi
A nêr Mawnd o Normandi,
Blodeuyn Cymru, hy hawl,
O blaid barwniaid breiniawl.
Aeth ofn hyd yn eithafoedd
Fy mron, braidd yn don nad oedd,
Cyffro am Gymro gemrudd,
Caffwn a fynnwn o’i fudd.
Gwae drostaw a gâi dristyd,
Gormodd bw, garm weiddi byd.
Adwyth i Gymru ydoedd,
Amwyll dig ym Muellt oedd.

Eisoes (cerddwr oedd Iesu),
Deryw’n deg am dëyrn du.
Dug pwrsifand o Normandi
Duw Mawrth chwedlau da i mi:
Dynion a ddywaid anwir
O ddaly’r gwalch – i ddiawl air gwir! –
Ond plant gwragedd Normandi
Yn ceisiaw’n gwenwynaw ni.
Taeru a wnâi’r traeturiaid –
Trwst i’n plith er tristáu’n plaid,
Dolur caeth – dal iôr cethin,
Ef a’i wŷr a yfai win.
’Y nghred, anghywir ydynt,
Nad gwir, nid oes onid gwynt,
A difa ar a’i dyfod
A rhai a fynnai ei fod,
Pob gelyn, pawb â’i gilwg,
Pobl fân yn darogan drwg.
Ni bydd, er y sydd o sôn,
Lawenach ei elynion.
Ni ddelir ac ni ddaliwyd,
Nid âi er rhai yn y rhwyd,
Nos dlos onis daliasant
Trwy’u cwsg; nis anturia cant!
Os breuddwyd, ias berw eiddil,
Y delynt ŵr gynt ar gil,
Breuddwyd gwrach y boreuddydd
Wrth ei bryd – ys da fyd fydd!
Â’r breuddwyd ni ddaliwyd neb
O nerth, hyn yn wrthwyneb.
Ebrwydd y tyr breuddwyd hir;
Aent i ddiawl, hwynt a ddelir!
Na helied ein hoyw alawnt
Gorgwn mân, garw gwinau Mawnt.
Bychan, fal y rhybuchwn,
Eu helw yntwy o heliant hwn.
Iesu nef, o’r sôn ofer
A fu megis saethu sêr!
Dal hefyd, dielw hoywfalch,
 dwylaw’r gwynt yw daly’r gwalch.
Ni ddaliant y mabsant mau
(Nid gwâr!) onid â’u geiriau.
Dyrys oedd eu hymdaeru,
Defnydd ymleferydd fu.
Eu bost a’u gwangost gyngyd
A’u berw mawr heb air ym myd
A’u brad serth a’u bryd a’u sôn
A’u braw ddadl a’u breuddwydion
A’u llid na ddelid Nudd ail:
Y llew du oll a’u diail!
Dawns o Bowls! Doe’n ysbeiliwyd,
Dwyn yr holl dynion i’r rhwyd.
Dawns gwŷr Dinas y Garrai,
Dawns yr ieirll: daw’n nes i rai!
Duw Llun y bu waed a lladd,
Dydd amliw, diwedd ymladd.
Duw a ddug y dydd dduw Iau
Iarll Dwywent a’r holl Deau.
Marchog a las dduw Merchyr,
Mwy ei ladd no mil o wŷr:
Syr Rhisiart, ni syr Iesu
Wrthaw er lladd North a’r llu.
Duwmawrth gwae ni am Domas:
Duw Llun gyda’i frawd y’i llas.
Dwyn yr iarll a’i bedwarllu,
Dydd Farn ar anrhydedd fu.
Arglwydd difwynswydd Defnsir
A ffoes – ni chafas oes hir!
Bradwyr a droes brwydr a drwg
Banbri i’r iarll o Benbrwg.
Cad drycin am y drin draw,
Carliaid a wnaeth y curlaw.

Ymladd tost am laddiad hwn
A wna’r hynt yn Norhantwn.
Awn oll i ddial ein iaith
Ar ddannedd y Nordd unwaith
A dyludwn hyd Lydaw
Dan draed y cyffredin draw.
Ef â’r gwŷr a fu ar gam
Oll i ddiawl, yn lladd Wiliam.
O rhoed, lle bu anrhydedd,
Ar fwnwgl iarll arf neu gledd,
Och Fair, cnodach fu arwain
Aerwy mawr o aur a main.
Doe ’dd aeth dan y blaned ddu
Drwy’r fâl draw i ryfelu.
Och finnau – uwch yw f’anun –
Nad arhôi ’n ei dir ei hun.
Ymddiried i’r dynged wan
A’i twyllodd o Went allan.
Tair merched, tair tynged ton
Y sy’n dwyn oes ein dynion:
Un a gynnail cogeilyn,
Arall a nydd dydd pob dyn,
Trydedd yn torri edau
Er lladd iarll a’r llu dduw Iau.
Mynnwn fy mod ymannos
Yn torri pen Atropos.
Nid rhan i’r tair a henwais
Nyddu oes hir yn nydd Sais.

Os gwir i blant Alis gau,
Draeturiaid, dorri tyrau,
Ni ddôi’r iangwyr, ni ddringynt
I dai’r gŵr na’i dyrau gynt.
Gwinllan fu Raglan i’r iaith,
Gwae ni wŷl ei gwin eilwaith!
Gwae a weles ar Galan
Gynnal gwledd ar ganol glan!
Gwae a geisio rhodio rhawg
Gwent dlawd oedd gynt oludawg!
Ei farw oedd well i fardd iach
Heb ei bwyll, no byw bellach.
Merddin Wyllt am ei urddas,
Amhorfryn, aeth i’r glyn glas.
Af yn wyllt o fewn elltydd
I eiste rhwng clustiau’r hydd.
Ef a’m llas, mi a’m nasiwn,
Yr awr y llas yr iarll hwn,
Cymro oedd yn ffrwyno Ffrainc,
Camreol Cymry ieuainc.
Ofn i bawb tra fu ’n y byd,
Yn iach ofn oni chyfyd!
Ymgyrchu i Gymru a gân’,
Ymsaethu ’m Mhowys weithian.
Doed aliwns, nis didolir,
O dôn’, pwy a’u lludd i dir?
Llusgent wŷr, llosgent eu tai,
Lladdwyd y gŵr a’u lluddiai.

Traws eto rhag trais atyn’
Tra ater Syr Rhosier ynn.
Trimaib iarll, os trwm y byd,
Tri a ostwng ein tristyd.
Un o’i hil yn Neheuwlad
A gyrredd dwyn gradd ei dad.
Iarll oedd, Cymru oll eiddo,
Iarll o’i fab arall a fo!
Dyn wyf doe a anafwyd,
Duw ddoeth, ai didëu ’dd wyd?
Dwyn ein gosymddaith yn dau,
Da’r byd, Dewi’r abadau,
Dwyn Tad Rys, dawn y tai draw,
Dwyn cywoeth dynion Caeaw,
Dwyn sant, aberthant o’i barth,
Dwyn hebog Duw ’n Neheubarth,
A phen Ystrad, hoff annwyl,
Fflur fry; a phle’r af yr ŵyl?
Och fyned o’i wych faenol
Abad Rys, a’m bod ar ôl!

Rhyfedd oedd i’r gŵr hoywfoes
Dorri â mi ar derm oes,
A cherdd, myn Siat, yn batent
Rhof a Rhys, a rhoi fy rhent.
Myn yr haul, pe mor greulawn
Dug yn Iorc, digio a wnawn.
Ymddiried ym a ddaroedd,
Megis am swydd, arglwydd oedd.
Diswydd wyf pan dreiglwyf draw,
Duw y sydd i’m diswyddaw.
Dyrnod a roddes Iesu
 gordd fawr ar y gerdd fu.
Mawr o gwymp ym mro Gamber,
Marw Dewi’r glod, Morda’r glêr,
Marw’n tad, murniwyd Deheudir,
Mau fron ysgyrion os gwir.
Marw’n habad mirain hybarch,
Mawr fy mhoen os marw fy mharch.
Marw ’y nghalon, a’m bron a’m braich,
Marw f’enaid, mawr wae’i fynaich.

Lle bwrier pren gwyrennig
Llwyr y briw llawer o’r brig:
Felly frig Ceredigiawn
A friwyd oll fwrw ei dawn.
Lladd gwlad yw dwyn penadur,
Llas tir a phlas tyrau Fflur.
Ei chorff o hiraeth a chawdd
A’i henaid a wahanawdd.

Hudol fu Dduw ’n Neheudir,
Hudoliaeth a wnaeth yn wir,
Duodd amgylch y Deau,
Diwedd cwbl o’r mawredd mau.
Dued yw ynys Deifi!
Duw hael, pam y duai hi?
Os o flaen cafod raen drwch
Y daw allan dywyllwch,
Bid diau i’r byd dwywol
Bod glaw neu wylaw yn ôl.
Beth a wna’r ddaear yn ddu
Ond dillad yn tywyllu?
Gynau y Deau duon,
Gwlad yr hud galwed wŷr hon.
Galarwisgoedd, glêr wasgod,
Gwedy Rhys yw clipsys clod.

Chwerthin (rhoes ym win a medd)
A wnawn gynt yn ei gyntedd;
Udaw ac wylaw ar gân
Yno fyth a wnaf weithian.
Cwynfan Esyllt druan draw
Am Drystan yw’r mau drostaw,
Cwynfan Gwyddno Garanir
Y troes Duw’r môr tros ei dir,
A mwy ddoe i mi a ddug
Y môr ger Ystradmeurug.
Torres dyfroedd traws difreg
Tros dir pan dducpwyd Rhys deg.
Llif Noe yw’r llefain a wnawn,
Llygaid a gynnull eigiawn.
Dagrau am urddedigRys
Yw’r môr hallt os gwir marw Rhys.
Cyn hyn y cawn lyn o’i law,
Ac yn ôl eigion wylaw.

Caid i eirchiaid a erchyn’,
Cael o Rys hael a roes ynn.
Dyn a ro da yn ei raid,
Duw a ran da i’r enaid.
O rhennir yn yr hoywnef
I Rys o aur a roes ef,
Mawr o dâl am aur o’i du
A gaiff Rhys o goffr Iesu.
Talodd i ganmil filiwn,
Telid Duw, ni bydd tlawd hwn.
Dafydd Mathau, bendefig,
Dawn y dref, dy enw a drig.
Didwyll i’r Deau ydwyd,
A dedwydd o Ddafydd wyd.
Duw a gyflawnodd dy iad
 doethder dy fendithdad.
Difalch wyd, dwyfol, â chall;
Balch a thaerfalch wrth arall.
Agoriad wyd ar Gaerdyf
A’i chlo addwyn a’i chleddyf,
Angelystor gwlad Forgan
Uwchlaw Morgannwg achlân,
A llew du – gorau lliw dyn –
Llandaf, a’r llu yn d’ofyn.
Ni bu, lew du, ne lwyd iach
Ar wyneb gŵr dirionach.
Haws tynnu tân o waneg
No thynnu dawn o’th wên deg.

Dwyran, medd yr ystoria,
A roes Duw yt o ras da:
Rhan yt, Ddafydd, rhent ddifai,
A rhan Gwenllïan, nid llai.
Dal ydd ywch (i’ch dwylaw ’dd aeth)
Y tai a’r berchentyaeth,
A dwyn erioed dan yr iau
Eich deuedd, fraich y Deau,
Adeiliad tai a dal tir,
A bwrw cost ar bwrcastir.
Bywyd Mathau ab Ieuan
A’i dir rhent aeth yn dair rhan;
Ni rennid yn yr unawr
Tair rhan fwy, a’r tyrau’n fawr.
Tyfu ydd wyd, Dafydd ddoeth,
Trachefn mwy no’r tri chyfoeth:
Tai megis arglwydd y Tŵr,
Tir a chynnydd trychannwr.
Y mae rhad, y gŵr mawr hir,
Y Drindod ar dy randir.

Mae tyfiad mwy yt, Dafydd:
Meibion fal cyrn hirion hydd,
Fal na bydd na blaen na bôn,
Addwyn ceirw, heb ddwyn coron.
Carw i’th gwrt, cywir y’th gair,
Hwyntau yw d’osglau disglair.
Y llaw’n pwysaw hapuswedd,
Ni ddial clwyf ni ddeily cledd.
Mawr yw cael pedwar aelawd
Megys pedwar bys a bawd.
Nid aelaw gŵr heb dylwyth,
Nid derwen na phren heb ffrwyth.
Derwen fawr wyd er un fainc,
Pedwarcarw yw’r pedeircainc,
A’i brig oll, fal nas bwrw gwynt,
Yw dy bleidiau, dwbl ydynt.
Un ffunud wyd, un ffyniant,
Ffyrf blaid, â Phriaf a’i blant.
Pa rai yw meibion Priaf?
Pedair llin dur Pedr Llandaf.
Teilo a gatwo’r tylwyth,
Teg yw’r llys, nid hagr y llwyth.
Llawen dy wên yn Llandaf,
Llyna’r wyneb llawenaf.
Llawen yw’r dref wen dra fych,
Llawer blwyddyn y’i llywiych!
Dafydd, brydydd a brawdwr,
Dywaid ym (dyddiau daed, ŵr!)
Ai rhydd i’ch awenydd chwi
Troi a dyfod trwy Deifi?
Ai rhydd y wlad am d’adaw?
Os rhydd, llyma drennydd draw.
Rhydd yw ym rhoi hawddamawr
A rhoi hawdd fyd bob rhodd fawr.
Hir ydd wyf ar herw, Ddafydd,
Nid hir dim ond torri dydd.
Blin yw tor oed â Blaen-tren
Bumgwyl, ac ni bu amgen.
Blin oedd ym faddau dy blas
O baud yma, fab Domas.
Blinais es pedair blynedd
Ar gwrw’r Mars; gorau yw’r medd.
Gollyngodd o’m gwall angof
Fy min wtres gwin tros gof.
Dy fedd nis gadawaf i,
Dy win yw fy nadeni.

Af i Flaen-tren uwchben byd,
Wybr uchel a bair iechyd.
Af i’r lan a’m ariannodd,
Af i’r rhiw fwyaf fy rhodd.
Af, ac ni byddaf i’m byw
Mwy heb wylfeistr Mabeilfyw.
Wtla mud es talm ydwyf,
Dewi â thi, diwaith wyf.
Drwg oedd ym drwy geuedd iad
Dewi unawr amdanad.
Grwn a fydd segur ennyd
Ac yna dwg gnwd o ŷd.
Tafawd segurwawd y sydd
A wna awen o newydd.
Mae’n torri gwawd mewn tir gŵydd
I brydu lle bu’r adwydd,
A branar yw’r berw yna,
A’r cnwd ŷd yw’r canu da.

Nid naturiol ym foli
Onid hael o’th annwyd di.
Mae campau’r teidiau a’r tad,
Mae swrn o’u moesau arnad.
I ti y doeth cynnal tŷ
A chanu (rhyw ywch hynny)
A chorff a thegwch a hyd
A chyfoeth i chwi hefyd,
A gallu ’n sir, gwell no swrn,
Gaerfyrddin, gryf ei arddwrn,
A thir yn sir Is Aeron,
A cherdd a digrifwch hon.
Rhoddi i bob rhai a wyddost,
Prydu’n rhad, peri dwyn rhost.
Bwyd a gwin i’r byd a gair
Heb weddu ’n Llanybyddair.
Llywia di yn lle deuwr
Lle dy hendad a’th dad, ŵr:
Tir y plwyf a’r tai a’r plas
A theml Ddafydd a Thomas.

Duw a droes gwiail Moesen
A fu i’n prynu’n un pren.
Troes Duw yt rent dy hendad,
Tri wyd dy hun i’r tre tad.
Tri dyn o Lywelyn lân,
Trioed gŵr ar y traean.
Y Trihael y’ch portreiwyd,
Y tri’n un ym Mlaen-tren wyd.
Pan sonier i’n amser ni
Am undyn yn Normandi,
Mathau Goch, mab maeth y gwin,
Biau’r gair yn bwrw gwerin.
Eryr yw ar wŷr ieuainc,
Arthur ffriw, wrth aerau Ffrainc,
Enaid y capteiniaid da
A blaenor y bobl yna;
Broch a’i bâr coch yn bwrw cant,
Brwydr elyn, brawd i Rolant.
Gwayw a chorff Mathau Goch hael
A gyfyd Lloegr a’i gafael.
Â’r bêl o ryfel yr aeth
Â’i baladr o’i fabolaeth.

Pan fu ymgyrchu gorchest
Ym min Rhôn a’i wayw mewn rhest,
La Her a roes law i hwn,
Felly gwnâi betai Botwn.
Dug y gamp, deg ei gwmpaen,
Dawns mawr ar hyd Aensio a Maen.
Rhwygwr aer, rhi goreuryw,
Rolant, myn y sant, Mawns yw.
F’enaid wrth ein rhaid yn Rhôn,
Fugail y gwŷr arfogion:
Molwn ef, melan ofeg,
Milwr o dir Maelor deg.
Cafas gorff ac urddas gŵr,
Cainc o arial cwncwerwr.
Ni fedd dur ar y mur mau,
Ni fethodd twrn i Fathau.
Un yw ef a wna ei wŷr,
Anian teirw, yn anturwyr.
Gŵr antur ydiw’r mur mau,
Gwŷr antur a gâr yntau.
Milwyr a fu’i wŷr efô,
Main gwns tir Maen ac Aensio,
Rhad ar eu dewrder a’u hynt,
Rhyw flodau rhyfel ydynt;
Heliant goed a heolydd,
(‘Hw-a La Her!’) fal hely hydd.
Mair a ro hoedl i’m heryr,
Mathau, i warau â’i wŷr!

Bu ar glêr bryder a braw
Ban ddaliwyd, beunydd wylaw;
Trefi ’nghyrch tra fu ’ngharchar,
Trist fu i’r Cymry a’i câr.
Nid gwaeth Mathau, ben iau Nudd,
Er ei gost, eurai gystudd,
Nid oes ond echwyn, dwyn da,
Ar boen dwbl erbyn deubla.
Gŵr yw o gorff ac arial,
Gwerin gwlad Dolffin a’i tâl.
Gŵr o Faelor, gwâr felys,
Gŵr a wnaeth gwewyr yn us;
Gŵr mawr o Drefawr hyd Rôn,
Gwyrennig, ac ŵyr Einion;
Gŵr o Rys ac eryr yw,
Gŵr nod y Goron ydyw.
Nid aur bath a gâr Mathau,
Nid da’r byd, nid tir, heb au;
Mwy câr brynu carcharawr
A gwŷr a meirch nog aur mawr.
Ni chais ef chwenychu swydd,
Chwaith egr, na chywaethogrwydd.
Ni werthai hwn i wrtho
Ei glod ef er golud Io,
Na’i gerddwyr na’i filwyr, fab,
Ŵr da ’i obaith, er deubab.
Gwnaed y byd, molianbryd mawr,
Glod i Felwas gwlad Faelawr.
Cymro da ei Gymräeg,
Cymered air Cymru deg,
A gair Ffrainc lle gorffer och,
A gair Lloegr, y gŵr lliwgoch.
A oes unplas yn siampler?
Oes, un fal yr haul a’r sêr.
Y tŵr y sydd fal tu’r sêl,
Ar barc sych, o’r brics uchel.
Yr Herbart yn rhoi eurbyrth
A’i gwnâi’n uwch nog Einion Yrth:
Syr Rhisiart, seiri’r Asia
Ni wnaent ryw dŵr mewn tir da,
Ni wnâi ddyn ei annedd iach,
Ni wnâi lantern alontach.

Athro gynt a wnaeth ryw gell,
Ei dŷ annedd yn dunnell.
Bwrw rheolaeth bro’r heulwen
Y bu drwy bib wydr o’i ben.
Er meddiant Alecsander
Ni roes hwn awyr a sêr.
Syr Rhisiart Herbart hirbost,
Athro Gwent, a wnaeth ryw gost:
Cyfryw wydr yn cyfredeg,
Castell fal y dunnell deg.
Gweithio y mae rhag wythwynt
Gwaith Fferyll ar gestyll gynt.
Uwch yw’r tŷ no chyriau’r tir,
Uwch yw yntau no chantir,
Uwch no thŵr yw’r milwr mau,
Uwch yw Powls no chapelau.
Deuryw adail diareb:
Dwy lys hwn a dalai Siêb,
Ehangwen yng Ngefenni,
A’i chwaer yn gyfuwch â hi.
Perced yr ieirll yw’r parc draw,
Plas Arthur, palis wrthaw;
Tŵr gwydr i Ector Gadarn
Tir Gwent bell, torrai gant barn.
Mae obry naw tŷ ’n y tŵr,
Mae fry ganty ac untwr,
Tref fawr mewn pentwr o fain,
Tŷ beichiog o’r tai bychain.
Ei gaerau yw’r graig eurin,
Ei grib sy goch fal grâbs gwin.
Cerfiwyd a grafiwyd yn grych
Cyrff y derw fal crefft eurych,
Llys goed a main oll ysgwâr,
Llawn gwydr, meillion ac adar.

I’r llys hon mae’r holl synnwyr
A llew Gwent oll oll a’i gŵyr.
I’r tŵr a wnaeth (nis tyr neb)
Y doeth annedd doethineb.
Pwy a wnâi synnwyr pen well
Eithr y dyn aeth i’r dunnell?
Pwy un gorff â’m penaig i?
Pwy yw patrwn pob poetri?
Piau’r holl gampau pei rhaid,
Pob rhinwedd? Pab barwniaid,
Gwent alarch a gân telyn
Ac a rydd aur am gerdd ynn.
Ni bydd ef, myn bedd Iefan,
Heb rôt a luwt, Herbart lân.

Awn at organ y Teirgwent,
I Ynys Wydrin gwin Gwent.
Elment ym fal maen Tomas
Ydiw’r plwm a’r gwydr a’r plas
Yn grwybr yn y gaer obry,
Yn gorfau cyfrwyau fry.
Nid oes wyneb, dwys anun,
Yn y lamp na welo’i lun.
Gweled drych y mae’n gwlad draw,
Gwŷl Gwent ei golwg yntaw.
Bid wydr i’r byd i’w edrych,
A brawd i’r iarll biau’r drych.
Y mae gŵr ym i’w garu,
Cydwybod deg cyd boed du,
Hywel, ei glod a hëwn,
Hoedl hir i’r gŵr huawdl hwn!
Lles ẃreiddfab, llys roddfudd,
Llywelyn yw, llaw ail Nudd,
Fal hwn ei fawl a honnir,
Fychan hael, faich onwayw hir,
Pôr glân oror Glyn Aeron,
Pennaeth byrddau maeth beirdd Môn,
Parawd oleuwawd lewych,
Pêr ei glod fal pâr o glych,
Brenin y glêr, ffyrfder Ffawg,
Brenhiniaeth bro Anhuniawg,
Uchel grair, ni ochel gras,
Uwch Aeron, awchwayw eirias.
Llywio mae ef, addef oedd,
Llu’r wlad a’i llwyr oludoedd,
Llywio’r glod uwch llawr y Glyn,
Llywio aelwyd Llywelyn.
Rhoed i’r gŵr, rhi dewr gwaywrudd,
O Wynlle Nant wenllaw Nudd.
Mawr y barnaf amrafael
Yrhwng y cybydd a’r hael
Wrth wybod, sylfaen clod clêr,
Haelioni Hywel ener.

Duw a roddes, dôr addwyn,
Pêl deg i bob hael i’w dwyn.
Y glod yn ddigeladwy
Ydiw’r bêl hardd heb drebl hwy.
Hon yn grair hoyw, uniawn gred,
I Rydderch Hael a rodded.
Gan Fordaf, enwocaf nawdd,
Gan Nudd hi a gynyddawdd.
Y bêl i fab Llywelyn
A roddes Duw, urddas dyn,
Hywel, wyneb haelioni,
A llaw hael a’i llywia hi.
Rhedawdd hon, anrhydedd hy,
Rhwysg draig amrwysg, drwy Gymru.
Ni ddichawn, dawn dianael,
Gwarae â hi ond gŵr hael,
Ac nyw lludd o egni llaw
Cybydd, myn y Grog, heibiaw.
Gwarae mae y gŵr a’i medd
Tenis â chlod dwy Wynedd.
Nis câi’r byd, oleubryd lwybr,
Hi o law Hywel ewybr.
Iawn oedd hyn i unwedd Hu,
Iarll y gerdd yw’r llew gorddu,
Iôr Glasgrug, eiriau glwysgroyw,
Eryr Deheuwyr du hoyw.
Tebygu i du ei dad
Y mae’r gŵr mawr ei gariad.
Enw Mordaf haelaf hylwydd
A roed i Lywelyn rwydd,
A Hywel, brifai-sêl serch,
A gyrhaeddodd gair Rhydderch.
Aeth â’r bêl, fab Llywelyn,
Efrawg lwyth, Ifor y Glyn.
Tlos fu anrheg Taliesin,
Talawdd fawl teuluaidd fin.
Euraw gynt a orug ef
Urien gathl eirian goethlef.
Hwyliawdd â’i gerdd, hylwydd goel,
Hyd lys Urien, hoedl Seirioel.
Af innau, taliadau teg,
Â’r unrhyw eiriau anrheg,
Iôn goreuffyrf enw griffwnt,
I Gai Hir Dyffryn Gwy hwnt:
Phylib, fab goroff Wilym
Llwyd, gŵr diballedig ym,
Ffelaig y wlad a’i philer,
Ffynnon clod a phiniwn clêr,
Iôr a rydd ar war yr allt
Aur ac arian, ŵyr Gerallt.
Euraf ei fydr ar eiriau,
Urien fydd yr awen fau:
Yrthiai aerDdeifr wrth orddwy
Arthur gweilch o orthir Gwy.
Llyw difai yw, da ei fodd,
Llew gwyn hydr llaw ganheidrodd.
Llu’r tir a borthir i’w barth,
Llathraid helgarw llethr Talgarth.

Os mawr brys pobl ynys lawn
Draw i Fynyw, dref uniawn,
Myn gwyrth, brydyddfeirdd, mwy’n gwib,
Duw a Phawl, i dai Phylib.
Pawb yno, pob awenydd,
A red mal i farchnad rydd.
Rhyir yn herwr, gŵr gŵyl,
Yr wyf innau ar f’annwyl.
O rhoddais – dioer, rhyw ddwys dyb –
Lw ffôl yn ei law, Phylib,
Ar ddyfod, iôr oedd ddifeth,
Hyd ei lys hwnt (caiff hoedl Seth),
Rhys, iôr teg (rhoes ei aur tawdd),
Rhi Ystrad-fflur, a’i rhwystrawdd.
Hwnnw a ddug ohonof,
Â’i fedd yng nghyfedd, fy nghof
A’r llw wrth eryr Llowes
(Oeraf llw yw ar fy lles)
Nad awn, enaid awenydd,
Yno at hwn yn oed dydd.

Treiglaf tua’i rywiawglys
Trwy ganiad yr Abad Rys.
Trwydded trefn clared trafn clêr,
Try fi gantaw, Trefgwnter.
Llawen y gwna yna ym
Llawen weled llin Wilym,
Llew fflwch ymysg llu a phlaid,
Llyw serchawg lliaws eirchiaid.
Awn i’w gadlys â’n gwawdlef,
Ifor ddoeth i feirdd yw ef.
Mae ynny grefft, myn y Grog:
Moliannu carw Maleiniog.
Dwyn gair mae’r crair am aur crwn,
Dwyn bonedd dan ei benwn;
Dawn i’m eryr dwyn mawredd,
A dwyn clod o dynnu cledd,
Dwyn y bel, diany bwyll,
Dwyn dadl, daioni didwyll.
Gwirfab Mair, fawrair forwyn,
Gad iarll Dyffryn Gwy i’w dwyn.
Seythydd wyf, od ymsaethaf
Saethu nod yn syth a wnaf:
Nid nod gwael, iawngael angerdd,
Nod a gaiff enaid y gerdd.
Arfer o fwa erfai
Yr wyf er moliant i rai.
Nid bwa hwn, cystlwn cur,
Yw neu lwyf a wnâi lafur.
Y tafawd, arawd eiriau,
Yw bwa’r gerdd heb air gau,
Arllwybr brig urddedig ddadl,
A’r llinyn yw’r holl anadl.
Saethu a wnaf, bennaf bill,
Yr unnod lle ceir ynnill.
Rhys roddiad, rhoes ei ruddaur,
Ydiw’r nod, ederyn aur,
Ap Dafydd, mydrydd a’i medr
 gwawd y tafawd hyfedr,
Hil Rys, ddurgrys ddiergryd,
Hoywlyfr beirdd haelaf o’r byd.
Hebawg Anhuniawg yw’n hiôn
A chaeriwrch tir Uwch Aeron.
Ni wnaf swydd, cywreinrwydd cu,
Nod syth, onid ei saethu.
Yr ergydion o’r geudawd
I’r gŵr gwych yw’r geiriau gwawd.
Byriaf yr haf ar ei hyd
Bybyrgerdd ar bob ergyd.
Medru hwn â mydr hynod
A wnaf yng nghanawl y nod.
Ni thry nac yma na thraw
O’r gwawd dwbl ergyd heibiaw.
Nod pybyr glod pawb o’r glêr
Ydiw hwn, wayw dau hanner.
Dwyfil y sydd yn dyfod
 mawl i Rys mal yr ôd.
Minnau o’m bodd ni mynnwn,
Fodur Pedr, fod awr eb hwn.
Ei eos ef a’i was wyf,
Iarll y ddadl, o’r lle ’dd ydwyf.
Hwyr oedd ym herwydd amod
Feddyliaw newidiaw nod.
Od af, er maint fo ’nhrafael,
I wtres hwnt at Rys hael
Ebrwydd yw ym eb rodd is
Aur pur o oror Peris.
Caf ei rost, iawngost angerdd,
Caiff yntau ergydiau’r gerdd.
Be gwelwn, od gwn, nid gau,
O flaen awdl fil o nodau,
Nid âi’r tafawd ar wawd wiw
O’r un nod, aren ydiw.
Dioer am hyn, deurwym hynod,
Duw o’r nef i adu’r nod,
Ac i adu i’r gwawdwr
Bwa’r gerdd tra fo byw’r gŵr.
Rhoist, lew, win a rhost lawer,
Rhys, faer clod, rhysyfwr clêr,
Rhwyddfab Siancyn gyrhaeddfawl,
Rhwym a dillyngdawd yr hawl,
Rholant y moliant melys,
Rhial oreusal ŵyr Rys.
Rhoud yr aur glân, Rhodri’r glêr,
Rhys deuluaidd, rhoist lawer,
Rhoddion praff, rhyw ddawn proffwyd,
Rhi Glyn-nedd, rhaglaw ynn wyd.
Rhaid ynn win: rhedwn yno,
Rhwymwn dy fawl, rhamant fo!
Ni chaf, deallaf, dy well,
Nudd ac iestus Nedd gastell.
Hynod yw dy henw a dwg,
Gwalchmai’r gwin, gweilch Morgannwg!
Y mae’r glod yt am roi gwledd
Ym Môn a thalm o Wynedd,
A chlod ym Mhowys achlân,
A’m iarll wyd am aur llydan.
Aeth dy air, y mawrgrair mau,
Eitha’ byd o’th wybodau.
Ai rhyfedd, dachwedd dichwith,
Bod dy fawr glod fal dwfr gwlith?
Mor ddoeth wyd, myrdd a’th edwyn,
Mor dda dy gorff, morddwyd gwyn,
Mor Gymroaidd, ffurfaidd Ffawg,
Mur y glyn, mor galonnawg,
Mor hael uwchben dy aelwyd
O’th bob rhyw fudd a’th bypr fwyd!
Rhys, dy fwrdd – gan a rhost faeth,
Ancwyn hail – yw’n cynhaliaeth
A’n dadlau a’n diawdwledd
A’n ffair nod yn Nyffryn Nedd.

Af â gwawd, heb ofwy gwg,
Efrawg yt o fro Gatwg.
Od af, mi a gaf gyfedd,
Blaen gwin o Fwlaen, neu fedd.
Caf roddi cyfarwyddyd
Ym, dros ben, am deiroes byd,
Brud fal y byriwyd efô,
A’r cronigl, eiriau cryno,
Buchedd seiniau ni bechynt,
Bonedd Owain Gwynedd gynt;
Bwrw rhif, ti a’th burawr, Rhys,
Brenhinedd bro ein hynys;
Dwyn ar fyfyrdod ein dau
Drioedd ac ystorïau;
Dysgu ym – llyna dasg iawn! –
Dalm mawr o odlau Meiriawn;
Clybod a gwybod o gwbl
Gwawd Cynddelw, gwead ceinddwbl.
Oes uncorff, Rys ap Siancyn,
Arall hael a ŵyr oll hyn?
Nac oes, gywiwfoes gyfun,
Yn y tir onid dy hun.
Duw a roes (degoes digeirdd)
Yt olud byd (nid tlawd beirdd!),
A Duw a rydd wrth dy raid
Yt einioes, lyfr Brytaniaid.
Oer oedd weled urddolion 
A’r ieirll yn dyfod o Rôn. 
Pob capten o sifften Sais 
O waelod Lloegr a welais. 
Pond rhyfedd (o’r mawredd mau!), 
Beili Mawnt, ble mae yntau? 
Bual du a blodeuyn 
Buellt dir, ni bu well dyn. 
O gwelais lawer galawnt, 
Gorau am win oedd garw Mawnt, 
Y marchog dyledog daid 
A’r sêr ar ei gwrseriaid, 
Syr Rhisiart goethwart Gethin, 
Serchog faedd tarianog trin. 
O Fair ddi-wair, a ddaw ef 
Yn hydr yng nghefn Hydref, 
Myrdd wynfyd (Mair i’w ddanfon!), 
Mab Rhys ar frys o dref Rôn? 

Medd rhai, ‘Nid oes modd yrhawg, 
Nis gad y wlad oludawg. 
Cadw’r dref y mae ef ym Mawnt 
Er perigl aer aparawnt 
Ac ynnill â gwayw uniawn 
Gair a chlod goruchel iawn, 
Anturiaw, modd y daw dis, 
Ymwan Pyr ym min Paris, 
Pwyntiaw maelys, pwynt Melan; 
Pobl y gŵr, pob elw a gân’.’ 

Glew oedd ef a gloyw ei ddart, 
Gwlad a dâl trwsiad Rhisiart. 
Gwagedd browysedd Bresawnt 
Wrth wŷr a meirch Arthur Mawnt. 
Paun aur ddaly, pen urddolion, 
Pan ddêl yr angel o Rôn, 
Pwy a fedr ond edrych? 
Pond ef yn y dref yw’n drych, 
A’i ddeulu yn ei ddilin, 
A’i ddwy law yn gwallaw gwin, 
A phawb yn cyfarch, parch pêr, 
I’r galawnt aur ei goler? 
Llewpart yw Rhisiart yn Rhôn, 
Llew du’n ystaenu dynion, 
Llew Lloegr a’i llaw a’i llygad, 
Llew terwyn glew tir ein gwlad. 

Gŵr bellach a grybwyllwn, 
Gem ar holl Gymru yw hwn, 
Corf llorf llu deutu Dotawnt, 
Capten ac arglwydd mên Mawnt. 
Unair ag Arthur yno 
Yw ar faes â’i wŷr efô, 
Ac unwedd, fonedd fynag, 
Unglod â Lawnslod di Lag. 
Cadr gwrser yn cadw’r garsiwn, 
Cadw’r tir yn hir a wna hwn, 
Cadw Rhôn, feilïon flaenawr, 
A chadw Mawnt â chadwayw mawr 
(Cadr mel Otiel ytiw) 
A chadw Ffrainc, iechyd i’w ffriw!
Caraf urddol Caerfyrddin,
Cerir gwalch caer aur a gwin.
Cerais – paham nas carwn?
Cariad Deheuwlad yw hwn –
Syr Rys, ni welais ŵr well,
Na’i gystal yn ei gastell.
Marchog nid doniog ond hwn,
Maen beril mwy no barwn.
Mynnu’i ran mewn yr ynys,
Mesur iarll y mae Syr Rys.

Y trywyr yn filwyr fu,
Trwy gyllid tir a gallu,
Y tri Syr Rys tros yr iaith,
A Rhys unRhys yw’r anrhaith.
Abermarlais nis treisir
Yn oes hwn, na’i ynys hir.
Y treiswyr yno troesynt
Trwy swydd Gaer a’n treisiodd gynt.
Troes mab rhag ein treisio mwy,
Tëyrn o Iorc hyd Tawy.
Trawst yw’r sant tros y tair sir,
Tros wledydd, tras Elidir.
Ei bleidiau oll blodau ynn,
A Syr Rys y sy rosyn.

Eiddil yw llu i ddaly llys
Wrth un a borthai ynys.
Ni rôi gant o wŷr i gyd
A roes hwn er ys ennyd.
Mae’n ŵr hefyd mewn rhyfel,
Mwy no dug i’r man y dêl.
Da y gŵyr drud, dagr y drin,
Dewrfab oedd, darfu byddin.
Brwydr a fu, Beredur fodd,
Brain Urien a’i brynarodd.
Cwncwerodd y Cing Harri
Y maes drwy nerth ein meistr ni:
Lladd Eingl, llaw ddiangen,
Lladd y baedd, eilliodd ei ben,
A Syr Rys mal sŷr aesawr
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr.

Brain o’i henw yw’r brenhinwaed,
Ni bu’r drin heb euro’i draed.
Er henwi gwŷr hwn a gaid
Yn frain ac yn farwniaid.
Edn grifft yn dwyn gwŷr yw ef,
Edn astrus pob dinastref,
Edn Tomas a’u hurddas hwnt,
Edn Gruffudd â dawn griffwnt,
Edn y treiglir dyn traglew,
Esgyll aur a wisg y llew.
Llew dewr â lliw aderyn,
Lle dêl, Cymru oll a dynn.
Edn o Drent i Dywyn draw,
Edn a dynn Prydain danaw.
Deunawsir a dinesydd
Dan fôn ei adain a fydd.
Deiroes y bo’r aderyn
Dros ei dad a droes Duw ynn.
Tyfodd gŵr at Dafydd Gam
Trwy aelwyd y tri Wiliam,
Tai gwydr Herbart a Godwin,
Tri iarll oedd yn troi o’r llin.
Oesau’r tri, Syr Water wyn,
Ywch, filwr pengrych felyn!
Yr eilmab dan yr elment
O waed yr ieirll wyd ar Went.
O Weble tyf ywch blaid deg,
O Frycheiniawg fry chwaneg.
Tros Deau wlad troes dy lin,
Trwy Loegr, waed rheiol egin.
Da fu d’euraw, dwf derwen,
Defras goed, i fro Wysg wen:
Arglwyddfab i roi gwleddfwyd
O galon iarll Rhaglan wyd.
Iawn yw yt yno atad
Ymlid y dawn mal dy dad.
Arweddodd we o ruddaur
Ac aerwy trwm a gartr aur;
Arwain y wisg o’r un nod
I’r neillglun, ŵr enillglod!
Ni allai Gred na Lloegr iach
Euraw aelod wrolach.
Dewraf undyn drwy fendith
I dynnu pla wyd o’n plith:
Ymlid herwyr mal taran
Oll yw’ch gwaith, a llochi gwan,
Torri gwayw, anturio gwŷr,
Taro’r trosol trwy’r treiswyr.
Tro haid o’r ffoliaid i’r ffydd,
Tor flaen y tir aflonydd!
Trawst wyd ni ad tristáu dyn,
Trysor y Tarw a’r Rhosyn.
Dy wayw sy’n cloi hyd Sain Clêr,
Dwysir yt, da Syr Water;
Dy ddwrn prid i ddarnu pren
Sy balf Constans fab Elen;
Dy farch, tyr dywarch tir dôl,
Uwch fydd no’r march efyddol.
Mae damasg am dy iowmyn,
Meistr wyd ym Mhowystir ynn,
Ceidwad y teirgwlad a’u tŵr,
Cadwadaeth (nis câi Dewdwr)
O Dywi i Gedewain
A thrwy’r Mars a thraw i’r Main.
Cwncweriad y tad yw’r tau,
Cadw’r tir a’r coed a’r tyrau,
Cael ffyniant Ercwlff ennyd,
Cynnal baich canol y byd.
Mae llu dalm mwy lle delych,
Mae pwys holl Bowys lle bych.
Un ceidwad fu’ch hendad chwi
O Ddofr i Lanymddyfri;
Iarll dy dad, o’r lle daw dau,
Ar wŷr Dwywent a’r Deau;
Iarll gemrudd ar holl Gymru,
Iarll dy frawd ar ei lled fry;
Iarll o’th gyff (eurllwyth y’th gaf),
Iarllaeth ywch o’r llwyth uchaf!
Sâl rhugl yn seiliaw Rhaglan,
Syr Wiliam, wisg serloyw mân,
Seiliwr wyd, nid salw’r adail,
Salmon urddolion aur ddail,
Syr Ffwg Morgannwg uniawn,
Synhwyrau’r Deau a’u dawn,
Mab Tomas a urddaswyd,
Maen dros iaen, myn Andras, wyd.
O Fynyw i Efenni,
O Fôn y daw f’enaid i.
Mwya’ gŵr, em y Goron,
Ei ras wyd yn yr oes hon.
Duw a’th ddonies, daith uniawn,
Digon i ddynion o ddawn.
Prifai-sêl y parfis wyd,
Perl mewn dadl parlmend ydwyd,
Ystiwart dros y Deau,
Iustus doeth, eiste sy dau.
Cedwid Duw ceidwad Dwywent,
Cymru walch, Cymro o Went.

Dy glos, wel dyna dai glân
Dy greiglys deg o Raglan,
A’th lys wen yng Ngefenni
Yw merch hon, porth Mair i chwi;
Llys yn Llandeilo yw’r llall,
Tre’rtŵr, Tro o’r tu arall.
Yno bu i minnau baement
Ar dy lifrai, Gwalchmai Gwent;
Yno y cefais naw cyfarch
A gwell ymhell fu fy mharch.
Moes weithian y darian dau
I’w dwyn lle bu dy ynau.
Nid erchi rhoddi rhuddaur,
Nid tarian arian neu aur;
Erchi dy galon lon lân,
Arglwydd rhywiawglwydd Rhaglan;
Un waith ydiw calon wych
 tharian o waith eurych.
Od arweddaf d’arwyddion,
Ai gwaeth, ’y mhennaeth, ym hon
No dwyn obry gwedy gwin
Ar fy mron arfau ’mrenin?
Os dy borth a’th gynhorthwy
A gaf, ni ddymunaf mwy.
Dawn a serch pob dyn ysydd
Dan dy law, Dwywent lywydd.

Uchel yw’r llys uwchlaw’r llaill,
A’ch tŵr uwch y tai eraill.
Uwch wyd tithau, blodau’r blaid,
Uwchlaw gwŷr â chlog euraid,
Fal ystad gleisiad a’i glod,
Afon bysg, wrth fân bysgod,
Fal caterwen uwchben byd,
Uwch y llwyf a chyll hefyd,
Rhagor aur rhag yr arian,
Rhagor maes rhag erwi mân.
Maen gwyrthfawr wyd garllaw’r llaill,
Mewn aur, wrth y main eraill.
Trymach yw dy ddawn tramawr
No maen Alecsander Mawr.
Hwn a gad o baradwys:
Â’r byd ni ellid ei bwys.
Ni allai’r byd hyfryd hwn
Gymhwysaw dy gomhisiwn
Na’th wyneb na’th ddaioni
Na’th aur ystôr na’th ras di.
Mwy yw dy rinwedd no’r maen
A thrymach wyd no thrimaen.
Pe pwysid pob hapuswawr,
Rhydrwm wyd fal Rhodri Mawr.
Dadwreiddiaw’r Deau drwyddi
Yw draw dy ddadwreiddiaw di;
Yfed pen Hafren yw hyn
A dŵr Wysg yw d’oresgyn;
Daly’r wybrwynt, dilwfr obrwy,
Deifio’r môr yw dy fwrw mwy.
Mae pen y dynghedfen hir
I’th law fal na’th ddilëir.
Y gŵr gwindraul gwineulwyd,
Gem ar wŷr holl Gymru wyd.
Gwn waith, o gariad gwen ŵyl,
Gordderchwr, garedd orchwyl.
Anwydau gŵr anwadal,
Ocr y serch yw caru sâl.
Caru un hwyrfun hirfyw,
Caru’r ail, pwnc oerwr yw,
Heddiw ’n ei gof hoywddyn gall,
Ac yfory gof arall.
Os prydu (nis priodai),
Anian oer, i un a wnâi,
Nid hwyrach, enau tirion,
Brydu i’r llall, brawdwr llon,
Clytiwr awdl fal clwyd drwydoll:
Caru sâl ydiw’r cwrs oll.

Adwaen ŵr (a dwyn ei ach)
A garawdd yn gywirach:
Sant rhywiawg, sôn tra ewybr,
Syr Wiliam, ail Abram lwybr,
Awdur hoyw o Drahaearn,
A Dewi’r beirdd a dyr barn.
Mordaf côr yw’r mawrior mau
Merthyr, lle gwna Mair wyrthau.
Mynnu dirfawr ymannerch,
Morwyn Fair, mae â’r un ferch.
Hon a gâr (ni wna hwn gam),
A’r ail nis câr Syr Wiliam:
Nid cariad, diymwad deml,
Ar fursen oer oferseml,
Eithr cariad o wlad y wledd
Ar Dudful, ŵr diawdfedd.
Mae’r gŵr (Duw a Mair a’i gad),
Merch wery, yn marw o’i chariad.
Gyrru mae, fal y gŵyr Môn,
Lu at Duw o lateion;
Gweddïau, nid gweddw awen,
Ydiw’r llu, i awdur llên.
Mae’n addo, em wen, iddi
Dlysau heirdd (mor dlos yw hi!):
Croywglych, cyweirio’r eglwys,
Llyfrau a chreiriau a chrwys.
A hon beunydd a’i hannerch
Yn ei swydd, un yw â’i serch.
Gwrthod a wna, gwyrth Duw Nêr,
Gŵr o bell a grybwyller,
Gan ddewis, Gennydd awen,
Gŵr o’i phlwyf, goroff ei lên.
Ac nid oedd, o gwneid addef,
Addwyn dyn iddi ond ef.
Os pennaeth, draws opiniwn,
A gâr hi, llyna’r gŵr hwn;
Os gŵr o ysgwieriaid,
Ef yn ei blwyf a fyn blaid;
Os perchen, Urien wryd,
Tŷ a gâr, aent wy i gyd;
Ys gŵyr Duw, os gŵr dwywol,
A fyn hi, ef â ’n ei hôl;
Os gŵr call, ys deallwn,
A gŵr hael, hi a gâr hwn.

Ein tad yw, berchen tŷ da,
A’n gwardain, enwog wrda,
O’i chôr teg, â chariad hardd
I Dudful, a’i diwydfardd;
Ymaddaw y mae iddi
A phrydu, hwyl i’w phryd hi,
Odlau serch, ddiedlaes hawl,
A chywyddau bucheddawl.
Ei gywydd beunydd o’i ben,
Eiriau ffwrm, yw’r efferen.
O gariad hon, y gŵr teg
A rwym awdl o ramadeg.
Da fu (nid ef a feiwn),
Dudful, dduw Sul, ddewis hwn.
Aros fyth o’i ras efô
Ym Merthyr y mae wrtho;
Ac ef yw ei gogyfoed,
Ac yn y nef y gwnân’ oed.
Dau dir, ni newidiwyd un,
Dau henw nid â ohonun’:
Ieuan undyn yn India,
Ail modd o Went Wiliam dda.
O Wiliam i Wiliam wiw,
Iarll oedd, mae arall heddiw;
Pan fo un eto o’n iaith,
Pwy’n Wiliam? Mab hwn eilwaith.
Henw ei dad, hynod ydoedd,
Henw ei fab a’i hynaif oedd.

Mae henw fry ym Mhenfro wen,
Wiliam arall, ail Morien,
Mastr Wiliam osai dreuliaw
Ar barti’r ieirll Herbart draw.
Llywydd ar geyrydd yw’r gŵr,
Llwybr y tad lle bu’r Tewdwr,
Beli Pryderi diredd,
Bwrd, Glath i Aber Dau Gledd.
Piau llu Rhos (pell y rhed)?
Pwy ond ef yw pen Dyfed?
Pwy’n talu (ni bu neb well),
Pwy’n bwrw cost Penbrwg gastell?
Aml yw sôn ymyl y sir
Am warden cylch y mordir,
Aml yw aur a milwriaeth,
Aml yw traul ymyl y traeth,
Aml yw pibau mêl pybyr,
Aml yw gwin ym moliau gwŷr.
A fynno da f’enaid i
Aed er Duw i dir Dewi.
Nid dewr gwalch, nid da i roi gwin,
Nid hael gwaed ond hil Godwin.
O ddau iarll ydd oedd ei wŷdd,
O Went rheded un trydydd!

Mae wyneb rhof a Mynyw
Mal yr iarll, a milwr yw.
Wyneb y gŵr ni bo gwaeth,
Wyneb hwn a wna pennaeth.
Wiliam, ni wn alw am neb,
Eithr ei enw wrth ei wyneb.
Mawr oedd i Wiliam arall
Ymlid llun a mold y llall.
Teitys, Ysbysianys wyf
Am ei dad, a mud ydwyf;
Mal drych, o gwn edrych neb,
Meirionig ym yw’r wyneb,
Fal y Fernagl o Raglan
Rhag clwyf yw i ŵr claf wan.
Os wyneb a gusanwn,
Un yw’r pab neu’r wyneb hwn.
Ni bu ’n Ffrainc wyneb un ffriw
Ond un iarll yn dwyn eurlliw.
Ni bu ’n Lloegr ben a llygad
Na brig mor debig i’w dad.
Ni bu nes neb o’i nasiwn;
Ni bo iarll Penfro heb hwn!
Ai gwledd a wnaeth f’arglwyddwawr
Yng Ngwent, ai cwmensment mawr?
Fal gwledd ddiwall Gaswallawn
Fu’r ŵyl, a thyrfa fawr iawn.
Gwledd Ieuan, Rhaglan benrhaith,
Gwledd Wiliam arglwydd eilwaith.
Arglwydd Herbart gwledd hirbell,
Yn ei bryd ni bu ŵr well.
Arthur â’i wledd, aruthr lain,
Wrth rif yr aeth i Rufain.
Wrth ofn ieirll yr aeth fy nêr
I Gaerloyw â’r gwŷr lawer.
Cweryl a dull carliaid oedd,
Cyffredin cyffro ydoedd.
Ni bu fwy gan y mab fod
Gwŷr Lloegr nog ieir a llygod;
Yr oedd ofn i ar Ddyfnaint
Y gŵr a’r gwŷr i Gaer-gaint.
Gorau yw bod (gŵyr roi barn)
Gŵr y god i Loegr gadarn.

Od aeth atunt i Lundain,
Argelwch Mair i’r gwalch main!
Ofni ydd wyf, yni ddêl,
Drec Heinsiest a’u dryg-honsel,
Ofni Lloegr am f’un llygad
A’i bribwyr oll yn bwrw brad.
Blino y maent o’m blaenawr,
Blant Rhonwen, genfigen fawr.
Gwenwyn gantunt ugeinwaith
Gael yn iarll ŵr glew o’n iaith.
Y mae yn ddug main ei ddant:
Iarll fydd ŵr llai ei feddiant.
Gwell perchen ond y brenin
Tŷ yw nog yntwy o win,
Gwell o feirch, gwayw llif archoll,
Gwell o wŷr a gallu oll,
Gwell no neb yn wynebwr
A gwell ei lun nog un gŵr.
O rhoed Siarlmaen yn flaenawr,
Rolant a ddug meddiant mawr;
Edwart a Herbart hirbost
Yn un i gyd a wnân’ gost.
Ei aelod yw a’i elin,
Ei law a’i droed pan wnêl drin.
Yn y cwnsel y gelwir
Ym mhob peth gyda’r mab hir,
Arglwydd dewr o gledd a dart
A cheidwad heddwch Edwart.
Arglwydd Dduw (erglyw Ddwywent!)
A gatwo’r gwalch, Ector Gwent.
Nid gwchach, haelach hawlwr,
Nid gwell er pan luniwyd gŵr;
Nid rhwydd ond ein arglwydd ni,
Nid rhyw iddaw ond rhoddi;
Ni bu genfigen, ni bo,
Wedy Arthur, ond wrtho;
Ni bu rhyw ŵr yn benrhaith:
Nid êl heb ddwyn y dalaith!
Tri llu aeth i Gymru gynt,
Trwy Wynedd y trywenynt:
Llu’r Pil, llu’r Arglwydd Wiliam,
Llu’r Fepwnt, bu hwnt baham.
Tair ffordd – clawdd tir Offa hen,
Siwrnai Wiliam, Sarn Elen –
Arglwydd Herbert a’th gerti
A’th lu, Duw a’th lywio di!
Glaw gynt a gâi lu ac ost;
Hindda weithian pan ddoethost!
Dewiniais y caud Wynedd
A dwyn Môn i’r dyn a’i medd.
Berw Lloegr, pawb a rôi’u llygaid,
Pe ceisiech Harddlech, o chaid.
Chwedl bonfras o gas i gyd,
Blaenfain fu i’r bobl ynfyd;
Chwedl blaenfain fu’ch train a’ch tro,
Bonfras arglwydd ar Benfro.
Ba well castell rhag cysteg
Ban friwyd wal Benfro deg?
Bwriaist – ergydiaist godwm –
Ben Carreg Cennen i’r cwm.
Ni ddaliawdd ei chlawdd achlân
Ywch, Harddlech, mwy no chorddlan.
Ni’th ery na thŷ na thŵr
Na chan caer na chwncwerwr.
Tair cad aeth o’r teirgwlad tau
Trwy Wynedd fal taranau,
Tair plaid yn gapteniaid tyn,
Tair mil, nawmil yn iwmyn,
Dy frodyr, milwyr y medd,
Dy genedl i doi Gwynedd.
Dy werin oll, dewrion ŷnt,
Drwy goedydd dreigiau ydynt.
Dringai, lle nid elai’r da,
D’orwyddfeirch dor y Wyddfa.
Troes dy wŷr mewn tair ystâl
Trwy weunydd a’r tir anial.
Tros greigiau mae d’olau di,
Tir âr y gwnaut Eryri.
Od enynnaist dân ennyd
Drwy ladd ac ymladd i gyd,
Dyrnod anufydd-dod fu
Dernio Gwynedd a’i dyrnu.
O bu’r tir, Herbart wrawl,
Heb gredu, fal y bu Bawl
(A fu ar ffawt, feiwr ffydd,
O phaid, ef a gaiff fedydd):
Chwithau na fyddwch weithian
Greulon wrth ddynion â thân.
Na ladd weilch a wnâi wledd ynn,
Gwynedd, fal Pedr y gwenyn.
Na fwrw dreth yn y fro draw
Ni aller ei chynullaw.
Na friw Wynedd yn franar,
N’ad i Fôn fyned i fâr,
N’ad y gweiniaid i gwynaw
Na brad na lledrad rhag llaw.
N’ad trwy Wynedd blant Rhonwen
Na phlant Hors yn y Fflint hen.
Na ad, f’arglwydd, swydd i Sais,
Na’i bardwn i un bwrdais.
Barna’n iawn, brenin ein iaith,
Bwrw ’n y tân eu braint unwaith.
Cymer wŷr Cymru’r awron,
Cwnstabl o Farstabl i Fôn.
Dwg Forgannwg a Gwynedd,
Gwna’n un o Gonwy i Nedd.
O digia Lloegr a’i dugiaid,
Cymru a dry yn dy raid.
Af â mawl a fo melys
O’r tud yr wyf i’r Tad Rys.
Ei fardd wyf, yrddrwyf erddrym,
Ei fryd ef fu roi da ym,
A’m bryd innau’n briodawl
Gludaw fyth ei glod a’i fawl.
Llon y cair, llew enwawg cu,
Lle bo’r bryd, llwybr i brydu.
Torri ’dd wyf, terydd afael,
Oedau â Rhys, awdur hael,
A myned a ddamunwn
Beunydd i oed dydd at hwn.

‘Tydi a ddyly’r dial,
Y tafawd teilyngwawd tal,
Cloc tewfydr, cliced dwyfoch,
Cleddau cerdd celwyddawg coch.
Prydaist ar fydr priodawl,
Paid â’r ffug er Pedr a Phawl.
Cyffesa ’ngorseddfa saint
Dy ferw drwy edifeiraint
Am fod arnad bechodau,
A mwy yw’r gosb am air gau.
Tydi a fu, tew dy fawl,
Drwy dy ffug dra diffygiawl.’

‘Nac ef,’ heb ef, ‘hy o beth
Ydiw brig y dau bregeth.
Bryd y galon a brydawdd
Hyn oll, erfynied hi nawdd.
Cyd traethwyf, wiwnwyf weini,
Fawr gelwydd wrth f’arglwydd i,
Ni thraethais, iawngais angerdd,
Air gau wrth euraw ei gerdd.
Bei torrwn i, batrwn iaith,
Â’m doethwalch amod wythwaith,
Mae i Rys, mau oreuswydd,
Meddiant rhoi maddeuaint rhwydd.
Nid hawdd bod heb Wyndodydd,
Ac nid haws ugain oed dydd
Er dim faddau ŵyr Domas
A chôr Fflur a’i chaer a’i phlas.
Tithau na faddau efô,
Tra genych, fardd, trig yno.’

Gwnelid Duw gynnal oed dydd
Bob gŵyl o bawb a’i gilydd.
ArglwyddRys, eryr gwleddrym,
Abad wyd a bywyd ym,
A phriffordd cerdd a’i phroffwyd,
A philer aur teml Fflur wyd.
Ai gwir dy fod yn gorwedd?
Os gwir, mau ysgar â medd.
Anhunawg, fy neheunaf,
Ydiw dy glêr od wyd glaf.
Digiaw yr wyf, deg ei rudd,
Dyfr gost, am dy fawr gystudd.
Dy glefyd, fy niwyd nêr,
Yn Actwn yw fy nicter.
Er na bwyf â’r awen bur
I’th ddilid – dos o’th ddolur –
F’uchenaid tra fych yno
A drig yn edrych dy dro.
Diriaid fûm am dy orwedd,
Dagrau byth a’m dwg i’r bedd.
Oer yw hon, gledr dwyfron glos,
Rhag ofn fal rhew gaeafnos,
A chul gan fynych wylaw
Y grudd gwlyb a gurawdd glaw.

Ar dduw Mawrth yr oeddem wŷr,
A’th farwchwedl a ddoeth Ferchyr.
Dengyn y ceisiawdd d’angau
Dy ddwyn yn y dydd dduw Iau.
Deufwy oedd lef y dref draw
Duw Gwener yn dy gwynaw.
Duw Sadwrn cathl dwys ydoedd,
Diriaid o beth drwy dyb oedd.
Duw Sul chwedlau da y sydd,
Duw Llun y daw llewenydd.

Costia, Rhys, cais adaw’r haint,
Cyfod wrth wyn y cwfaint.
Na chythrudd y ddeurudd wych,
N’ad ddaly arnad ddolurnych.
Oni fynny ynn, f’annwyl,
Ellwng pawb fal llong eb hwyl,
Och f’arglwydd, iach o fawrglwyf
Fyddy Rys. Rhyfeddu’r wyf,
O baud glaf, hoywnaf hynod,
Na bai glaf wyneb y glod.

Rhys, ni’th orfuwyd er hawl
Abadau neu wŷr bydawl.
Aeth hawlwyr gynt i’th ddilyn,
Ofer, fy hoywner, fu hyn.
Oferach oedd i fawrIal
Geisiaw diswyddaw dy sâl.
Ni wrth-wynebawdd, fy naf,
Neb yt, Rys, na baud drawsaf.
Am hyn gwybydd, fy mhiniwn,
Orfod yr haint oerfudr hwn.
Dod o’i swydd, dy wawdwas wyf,
Dial, arglwydd, dy lwyrglwyf.
Ti a gai, erfai arfoll,
Arfau Duw i’w orfod oll.

Bellach bydd iach o’m bodd i,
Bened ni’th ad i boeni.
Boni’th wna, bennaeth neiaint,
Berned deg eb arnad haint,
Dy wlad a rydd, dielw dranc,
Da i Dduw er dy ddianc.
Di-brid fo ym dy bryder,
Dros dy glwyf mae’n drist y glêr.
Dy boen dwg mewn diben da,
Doi i’th bwynt, Duw a’th beintia.
Dolur a’th wnaeth yn gaethach,
Duw a’th wnêl dithau yn iach.
Mawr yw dysg (yno mae’r da)
Mwynwyr o wlad Sermania:
Mynnu o waelod grodir
Mwyn aur tawdd, a minio’r tir.
Mae aur ym yn ’y mro iach,
Oes, ac arian segurach:
Mae cwarel aur, mae caer lân,
Greiglwyth i’r gŵr o Raglan.
Mwy fy rhent lle mae fy rhi
No’r mwyndir o Normandi,
A mwy fy nghyflog bob mis
No dau fwynwr hyd Fenis.
Syr Wiliam, gwrser olwyn,
A rôi erioed yr aur ynn.
Af i Raglan at f’annwyl,
Aed y traed hyd ataw’r ŵyl.
Af i lys – nefawl osai –
Herbart wych: hir y bo’r tai!
O fewn awr wyf un oroen
 Phawl, gweles nef a phoen.
Gwelaf innau gwal feinin,
B’radwys Gwent, Bwrdiaws y gwin,
A phoen herwyr, ffyn hirion;
I’r rhai ffeils rhôi warae â ffon.
Troes gŵr rhag treisio gwirion
Tros Went fal y Pretur Siôn.
Marchog yw meirch a gwewyr,
Mwy ei wledd no mil o wŷr.
Mawr fu ’n Israel gaffaeliad,
Mwy no dim, Salmon a’i dad;
Am ynys Went mwy yw’n sôn
A’r ddau Wiliam urddolion.
Ni wŷs eisiau ’n y sesiwn
Ei dad doeth o dywaid hwn.
Nid cryf i Gaerdyf o daw,
Nid nerthawg undyn wrthaw.
Ni aned, myn y nawnef,
Marchog aur mor wych ag ef,
Na Syr Gei, na Syr Gawen,
Na Syr Ffwg, na Syr Raff hen.
Ei dyrnau a’i gadernyd
A yrr bw ar wŷr y byd.
Gadu o’r Iesu rosyn
A’r glain aur o Raglan ynn!

Gwawdydd i’r marchog ydwyf
Ac erioed prydydd gŵr wyf.
Hywel, un o’r Deheuwyr,
Hwn ni chân haeach i wŷr,
Moli merched mal Meirchiawn;
Moli gwŷr, mwy elw a gawn!
Ni fawl Hywel ryfelwr
Na dyn gwych, onid un gŵr;
Ni chyrch i Wynedd, ni chân,
Ni threigl unwaith o Raglan.
Nid saethydd beunydd bennod
Y dyn ni wŷl ond un nod;
Y ci ni helio rhag haint
Onid carw, hwn nid cywraint;
Nid gŵr heb newid gware;
Nid llong heb fyned o’i lle;
Brawd heb gerdded y gwledydd,
Ei bregeth oferbeth fydd!
Ai crupl yw acw o’r plas
Na cherdda (fynych urddas)?
Ai ancr yw? Pam y câi rodd?
Os ermid, cafas ormodd.
Mi a rown dalm o’r ynys
Er ynnill hwn o’r un llys.
Gweiddi maent gywyddau mêl
I’m tuedd am wawd Hywel.
Och am rai (o chaem ei ran!)
A’i twyllai o Went allan
Fal y twyllwyd (wrth fwyd fu)
Y Sais aeth i lys Iesu!
Aed y bardd i rodiaw byd,
Awn innau yno ennyd.
Eled i Fôn, y wlad fau,
I Efenni yr af innau.
Y ddyn â'r santaidd anwyd,
o Dduw! hudolesaidd wyd.
Mae gennyd, tau ysbryd da,
oes, iaith y gŵr o Sithia.
Delw ddoeth hudolaidd iawn,
dillynes a dwyll uniawn.

Dy ddrem gellweirgar arab
loywddu fwyn a laddai fab.
Mi a nodais amneidiau
a wnaud im, ai un ai dau:
nodi golwg anwadal, 
nodi twyll amneidiau tâl.
Darllain yr ael fain, f'annwyl,
a'i selu gaf Sul a gŵyl;
euraid ysgrifen arab,
awgrym merch i garu mab.
Dy weled yn dywedyd
ydd wyf fi fal y ddau fud.
Ni wŷl annoeth eleni
synhwyrau'n amneidiau ni.

Dywed air mwyn â'th wyneb
o'th galon im, ni'th glyw neb.
Ti a wyddost, wyt addwyn,
ddywedyd ar y mynud mwyn;
ef a ŵyr y galon fau
dy feddwl ar dy foddau.
Llygaid a ddywaid i ddoeth
synnwyr lle nis cais annoeth -
lleddfon dröedyddion drych,
lladron a fyn lle i edrych.

Myfi a ŵyr ysbïo
ar y drem bob cyfryw dro.
Edrych arnad, cyd gwadaf,
dan gêl yng ngŵydd dyn a gaf:
un edrychiad pechadur
ar nef cyn goddef ei gur;
golwg Dafydd ap Gwilym
o gwr ael ar Ddyddgu rym;
golwg mab ar ddirgeloed,
golwg gwalch ar geiliog coed;
golwg lleidr dan ei 'neidrwydd
ar dlysau siopau yw'r swydd;
golwg hygar garcharor
ar ddydd drwy gysylltau'r ddôr.

'Y nyn, er na chawn ennyd
un gair o 'mddiddan i gyd,
ni a gawn drwy flaenau gwŷdd
roi golwg ar ei gilydd.
Mynud a ddywaid mwynair
heb wybod rhag athrod gair.
Oes dyn islaw yr awyr,
(nac oes!) onid mi, a'i gŵyr?
Un ddichell ac un gellwair
ydym 'i, myn Duw a Mair,
un awenydd, un weniaith,
un fwynder ar ofer iaith.
Un a Thri ein gweddiau
yn un dyn a'n gwnêl ni'n dau!
Pob rhyw brydydd, dydd dioed,
Mul rwysg wladaidd rwysg erioed,
Noethi moliant, nis gwrantwyf,
Anfeidrol reiol, yr wyf
Am gerdd merched y gwledydd
A wnaethant heb ffyniant ffydd
Yn anghwbl iawn, ddawn ddiwad,
Ar hyd y dydd, rho Duw Dad.
Moli gwallt, cwnsallt ceinserch,
A phob cyfryw fyw o ferch,
Ac obry moli heb wg
Yr aeliau uwch yr olwg.
Moli hefyd, hyfryd tew,
Foelder dwyfron feddaldew,
A moli gwen, len loywlun,
Dylai barch, a dwylaw bun.
Yno, o brif ddewiniaeth,
Cyn y nos canu a wnaeth,
Duw yn ei rodd a’i oddef,
Diffrwyth wawd o’i dafawd ef.
Gado’r canol heb foliant
A’r plas lle’r enillir plant,
A’r cedor clyd, hyder claer,
Tynerdeg, cylch twn eurdaer,
Lle carwn i, cywrain iach,
Y cedor dan y cadach.
Corff wyd diball ei allu,
Cwrt difreg o’r bloneg blu.
Llyma ’nghred, gwlad y cedawr,
Cylch gweflau ymylau mawr,
Cont ddwbl yw, syw seingoch,
Dabl y gerdd â’i dwbl o goch,
Ac nid arbed, freuged frig,
Y gloywsaint wŷr eglwysig
Mewn cyfle iawn, ddawn ddifreg,
Myn Beuno, ei deimlo’n deg.
Am hyn o chwaen, gaen gerydd,
Y prydyddion sythion sydd,
Gadewch yn hael, gafael ged,
Gerddau cedor i gerdded.
Sawden awdl, sidan ydiw,
Sêm fach len ar gont wen wiw,
Lleiniau mewn man ymannerch,
Y llwyn sur, llawn yw o serch,
Fforest falch iawn, ddawn ddifreg,
Ffris ffraill, ffwrwr dwygaill deg.
Pant yw hwy no llwy yn llaw,
Clawdd i ddal cal ddwy ddwylaw.
Trwsglwyn merch, drud annerch dro,
Berth addwyn, Duw’n borth iddo.
Goreudduw gwiw a rodded
Ar bren croes i brynu Cred,
I weled, gweithred nid gau,
O luoedd Ei welïau;
Gwaed ar dâl gwedi’r dolur,
A gwaed o’r corff gwedi’r cur.
Drud oedd Ei galon drwydoll
A gïau Duw i gyd oll.
Oer oedd i Fair, arwydd fu,
Wrth aros Ei ferthyru,
Yr hwn a fu’n rhoi’i einioes
I brynu Cred ar bren croes.
Gŵr â’i friw dan gwr Ei fron,
A’r un gŵr yw’r Oen gwirion.
Prynodd bob gradd o Adda
A’i fron yn don, frenin da.
Ni cheir fyth, oni cheir Fo,
Mab brenin mwy a’n pryno.
Anial oedd i un o’i lu
Fwrw dichell i’w fradychu:
Siwdas wenieithus hydwyll,
Fradwr Duw, a’i fryd ar dwyll,
Prisiwr fu, peris ar fwyd,
Ddolau praff, ddal y Proffwyd.
Duw Mercher wedi ’mwarchad
Ydd oedd ei bris a’i ddydd brad.
Trannoeth, heb fater uniawn,
Ei gablu’n dost gwbl nid iawn,
A dir furn cyn daear fedd
A’i ’sgyrsio ymysg gorsedd
Oni gad, enwog ydiw,
Glaw gwaed o’r gwelïau gwiw.
Duw Gwener cyn digoni
Rhoed ar y Groes, rhydaer gri,
A choron fawr, chwerw iawn fu,
A roesant ar yr Iesu,
A’r glaif drud i’w glwyfo draw
O law’r dall i’w lwyr dwyllaw.
Trwm iawn o’r tir yn myned
Oedd lu Crist wrth ddileu Cred
A llawen feilch, fellýn fu,
Lu Sisar pan las Iesu.
Wrth hud a chyfraith oediog
Y bwrien’ Grist mewn barn grog
Er gweled ar Ei galon
Gweli fraisg dan gil Ei fron.
Ni bu yn rhwym neb un rhi,
Ni bu aelod heb weli.
Marw a wnaeth y mawr wiw nêr
Yn ôl hyn yn ael hanner.
Ar ôl blin yr haul blaned
A dduodd, crynodd dir Cred.
Pan dynnwyd, penyd einioes,
Y gŵr grym o gyrrau’r groes,
Sioseb a erchis Iesu
I’w roi’n ei fedd, a’i ran fu.
Pan godes, poen gyhydedd,
Cwrs da i’r byd, Crist o’r bedd,
Yna’r aeth, helaeth helynt,
Lloer a’r haul o’u lliw ar hynt,
A phan ddug wedi’r ffin ddwys
Ei bridwerth i baradwys,
Troi a wnaeth Duw Tri yn ôl
I’r ffurf y bu’n gorfforol.
Duw Naf i’r diau nefoedd
Difiau’r aeth, diofer oedd,
Yn gun hael, yn gynheiliad,
Yn enw Duw, yn un â’i Dad.
Un Duw cadarn y’th farnaf,
Tri pherson cyfion y caf.
Cawn drugaredd a’th weddi,
Down i’th ras Duw Un a Thri.
Cael ennill fo’n calennig
Pardwn Duw rhag Purdan dig:
Profiad llawen yw gennym
Praffed gras y Proffwyd grym.
Bath ryw fodd, beth rhyfedda’,
I ddyn, ni ennill fawr dda,
Rhyfedda’ dim, rhyw fodd dig,
Annawn wŷd yn enwedig,
Bod gwragedd, rhyw agwedd rhus,
Rhwydd wg, yn rhy eiddigus?
Pa ryw natur, lafur lun,
Pur addysg, a’i pair uddun?
Meddai i mi Wenllïan,
Bu anllad gynt benllwyd gân,
Nid cariad, anllad curiaw,
Yr awr a dry ar aur draw.
Cariad gwragedd bonheddig
Ar galiau da, argoel dig.

Pe’m credid, edlid adlais,
Pob serchog caliog a’m cais,
Ni rydd un wraig rinweddawl,
Fursen, ei phiden a’i phawl.
O dilid gont ar dalwrn,
Nid âi un fodfedd o’i dwrn:
Nac yn rhad nis caniadai,
Nac yn serth er gwerth a gâi.
Yn ordain anniweirdeb
Ni wnâi’i ymwared â neb.
Tost yw na bydd, celfydd cain,
Rhyw gwilydd ar y rhiain
Bod yn fwy y biden fawr
Na’i dynion yn oed unawr,
Ac wyth o’i thylwyth a’i thad,
A’i thrysor hardd a’i thrwsiad,
A’i mam, nid wyf yn amau,
A’i brodyr, glod eglur glau,
A’i chefndyr, ffyrf frodyr ffydd,
A’i cheraint a’i chwiorydd:
Byd caled yw bod celyn
Yn llwyr yn dwyn synnwyr dyn.

Peth anniddan fydd anair,
Pwnc o genfigen a’i pair.
Y mae i’m gwlad ryw adwyth
Ac eiddigedd, lawnedd lwyth,
Ym mhob marchnad, trefniad drwg,
Tros ei chal, trais a chilwg.
Er rhoi o wartheg y rhên
Drichwech a’r aradr ychen,
A rhoi er maint fai y rhaid,
Rhull ddyfyn, yr holl ddefaid,
Gwell fydd gan riain feinir,
Meddai rai, roi’r tai a’r tir,
A chynt ddull, rhoi ei chont dda
Ochelyd, na rhoi’i chala,
Rhoi’i phadell o’i chell a’i chost
A’i thrybedd na’i noeth rybost,
Gwaisg ei ffull, rhoi gwisg ei phen
A’i bydoedd na rhoi’r biden.

Ni chenais ’y nychanon,
Gwir Dduw hynt, ddim o’r gerdd hon,
I neb o ffurfeidd-deb y ffydd
A fyn gala fwy no’i gilydd.
Gwae’r undyn heb gywreindeb,
Gwae’r un wen a garo neb;
Ni cheir gan hon ei charu
Yn dda, er ei bod yn ddu.
Lliw yr un nid gwell o rod
Y nos pan elo’n isod.
Gwen fonheddig a ddigia,
Naws dydd, oni bydd was da.
Nid felly y gwna’r ddu ddoeth:
Ei drinio a wna drannoeth.
O dyfod Ieuan Dyfi
Rhai drwg yn amlwg i ni,
Rhai o’r gwynion fydd gwenwyn,
A rhai da a urdda dyn.
Merch a helethe Eneas,
Ddu rudd, ac oedd dda o ras.
Gwenddolen a ddialodd
Ei bai am na wnaid ei bodd.
Gwraig Ddyfnwal yn gofalu
A wnâi les rhwng y ddau lu.
Marsia ffel, gwraig Guhelyn,
A ddaeth â’r gyfraith dda ynn;
A gwraig Werydd, ddedwydd dda,
Heddychodd, hyn oedd iacha’,
Rhwng dau lu, mawr allu maeth,
Mor felys rhag marfolaeth.
Mam Suddas, oedd ddiraswr,
Cywir a gwych carai’i gŵr,
A gwraig Beiled, pei credid,
Y gwir a ddywad i gyd.
Elen merch Goel a welynt,
Gwraig Gonstans, a gafas gynt
Y Groes lle y lladdwyd Iesu,
A’r gras, ac nis llas mo’i llu.
Wrth Gwlan, fu un waneg,
A ddoeth yr un fil ar ddeg
O’r gweryddon i’r gradde
Am odde a wnaeth, i Dduw Ne’.
Gwraig Edgar, bu ddihareb,
A wnaeth yr hyn ni wnaeth neb:
Cerdded yr haearn tanllyd
Yn droednoeth, goesnoeth i gyd,
A’r tân ni wnaeth eniwed
I’w chroen, mor dda oedd ei chred.
Eleias a ddanfonasyd
At wraig dda i gael bara a byd.
Gwraig a wnaeth pan oedd gaetha’
Newyn ar lawer dyn da,
O’r ddinas daeth at gasddyn
Dig i ddywedyd i’r dyn;
Troesai ei boen tros y byd,
Disymwth y dôi symyd.
Susanna yn sôn synnwyr,
Syn a gwael oedd sôn y gwŷr.
Mwy no rhai o’r rhianedd,
Gwell no gwŷr eu gallu a’u gwedd.
Brenhines, daeres dwyrain,
Sy’ abl fodd, Sibli fain,
Yn gynta’ ’rioed a ddoede
Y down oll gerbron Duw Ne’;
Hithau a farn ar yr anwir
Am eu gwaith, arddoedyd gwir.
Dywed Ifan, ’rwy’n d’ofyn,
Yn gywir hardd, ai gwir hyn?
Ni allodd merch, gordderchwr,
Diras ei gwaith, dreisio gŵr.
Dig aflan, o dôi gyfle,
Ymdynnu a wnâi, nid am ne’.
Gad yn wib, godinebwr,
Galw dyn hardd gledren hŵr.
Efô fu’n pechu bob pen,
Ac o’i galon pe gwelen’.
Dywed Ifan, ar dafawd,
Rhodiog ŵr, cyn rhydu gwawd,
Ai da i ferch golli’i pherchen,
A’i phrynt a’i helynt yn hen?
Yr un ffŵl a neidio wrth ffon
Neu neidio wrth lw anudon,
Aed ffeilsion ddynion yn ddig,
Duw a fyddo dy feddyg.
Dager drwy goler dy galon - ar osgo
I asgwrn dy ddwyfron;
Dy lin a dyr, dy law’n don,
A’th gleddau i’th goluddion.
Crwciodd lle dihangodd ei dŵr - ’n grychiast
O grochan ei llawdwr;
Ei deudwll oedd yn dadwr’,
Baw a ddaeth, a bwa o ddŵr.
Rhown fil o ferched, rhown fwyn - lances,
Lle ceisiais i orllwyn,
Rhown gŵyn mawr, rhown gan morwyn
Am un llanc ym min y llwyn.
Merddin Wyllt am ryw ddyn wyf,
Mewn oed anghymen ydwyf.
Awr ymhell yr amhwyllai,
Awr o’i gof gan Dduw ry gâi.
Minnau ni ddaw ym unawr
Mewn y dydd na munud awr,
Ac ni chawn, gwen ni chwynai,
Gyty’r nos, gwatwar a wnâi,
A dwedyd, och nad ydwyf,
Anfad air, mai ynfyd wyf!
Ni chaf forwyn o’i chyfryw,
Na farned gwen, fry nid gwiw.
Y cryfion gwychion a gaid,
Y dewrion benaduriaid,
Y doethion wedi hwythau
Agos i wraig â’u sarhau.
Samson, greulon gwroliaeth,
O dwyll ei wraig, dall yr aeth.
Pan oedd nod ei phriodas,
Y gŵr ei gryfdwr a gas;
E dynnodd yn oed unawr
Y llys ar ei wartha’ i’r llawr.
Dyn wy’ fwy-fwy dan fy ofn,
Dyn gwael wyf dan y golofn.
Selyf a droes, ail wyf draw,
Siom gwraig sy i’m gorugaw.
Alecsander, faner faith,
Bu dano y byd unwaith;
Nid âi ungwr â’i deyrnged,
Ond tent gwraig, tu hwnt i Gred.
Aristotlus, gweddus gwir,
A dwyllwyd o deallir;
Yntau un fodd, hwnt yn faith,
A’i talodd ati eilwaith;
Am ei thwyll a wnaeth allan,
I eiliw’r tes olau’r tân.
Ipo gynt anap a gâi,
Ac un wen a’i gwenwynai;
Aeth o’i gyngor y forwyn
I’r llech oer, llai fu ei chŵyn.
Siason i ddynion oedd dda,
Siom adewis Medeia:
Cur tost fu eu cariad hwy,
Cwrs mawr fal Cruwsa ‘m murwy.
Ni wn wenwyn un annerch,
Na chas mwy no cheisio merch.
Am Elen fu’r gynnen gynt,
Oes Droea a ddistrywynt.
Achos gwên Policsena
Llas o dwyll Achilles da.
Eneas wyf yn nwyawr
Wedi’r farn ar Droea fawr.
Un alar er a wnelwyf
 Brutus ap Sylus wyf
Wedi lladd, deall yddyn’
Ei fam a’i dad, wyf â’m dyn.
Ercles, ni wedes, ydwyf,
Och o’r serch, un echrys wyf,
Neu Baris, wyneb oerwynt,
Ofnog oedd am Feian gynt.
Gwraig a wnaeth hil Groeg yn wan,
Gwaed ac ymliw’r Gad Gamlan.
Gwraig Fadog fwyn o Wynedd,
Gwn a wnaeth, mae gwen un wedd.
Ofydd, drosof oedd draserch,
Fryd Sylus wyf, frad sêl serch.
Merddin aeth, mawrddawn ei wedd,
Mewn gwydr er mwyn ei gydwedd;
Nid aeth, oedd adwyth iddi,
Y drws o’i hôl a droes hi.
Aeth y rhain, waith rhianedd,
Yn feirwon, wyf yr un wedd.
Ni bu Dduw heb ei ddial,
Ni wyddiad hon na ddaw tâl.
Myn y Wir Grog, mannau’r Groes,
Minnau fynnaf, myn f’einioes,
Ai’i lladd hi, oni’m lludd hon,
Ai’i chael o fodd ei chalon.
Y ddaear ddu'n dyrru dwst,
Yn crynu faint fu'r crynwst;
Mam pob cnwd brwd brigowgffrwyth
Mantell oer rhag maint ei llwyth,
Pan gychwynnwyd, breuddwyd brau,
I'r eglwys lân aroglau
O Goed y Mynydd ag ef,
A'i dylwyth oll yn dolef.
Gwae ddwyfil gwedi'i ddyfod
O fewn yr eglwys glwys glod.
Och glywed—tristed fu'r trwst—
Clyr a chrwydr clêr a chrydwst.
A goleuo, gwae, lawer,
Tri mwy na serlwy o sêr,
Torsau hoyw ffloyw o famgwyr
Fal llugyrn tân lluchgyrn llwyr.
Rhai'n gwasgu bysedd gwedd gwael,
Mawr ofid fel marw afael.
Rhianedd cymyrredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu;
Rhai'n tynnu top o boparth
Gwallt y pen megis gwellt parth.
Siglo a wnai'r groes eglwys
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys.
Fal llong eang wrth angor
Crin, fydd yn crynu ar fôr.
Addewais yt hyn ddwywaith,
addewid teg, addaw taith.
Taled bawb, tâl hyd y bo,
ei addewid a addawo.
Pererindawd, ffawd ffyddlawn,
perwyl mor annwyl mawl iawn,
myned, mau adduned ddain,
lles yw, tua llys Owain.
Yno yn ddidro ydd af,
nid drwg, ac yno trigaf
i gymryd i'm bywyd barch
gydag ef o gydgyfarch.

Fo all fy naf uchaf ach,
aur ben clêr, dderbyn cleiriach.
Clywed bod, nis cêl awen,
ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen.
I'w lys ar ddyfrys ydd af,
o'r deucant odidocaf.
Llys barwn, lle syberwyd,
lle daw beirdd aml, lle da byd.
Gwawr Bowys fawr, beues Faig,
gofuned gwiw ofynaig.
Llyna y modd a'r llun y mae:
mewn eurgylch dwfr mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
ac unporth lle'r âi ganpyn?
Cyplau sydd, gwaith cwplws ŷnt,
cwpledig bob cwpl ydynt.
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
cloystr Westmestr, cloau ystwyth.
Cenglynrhwym bob congl unrhyw,
cafell aur, cyfa oll yw.
Cenglynion yn y fron fry
dordor megis deardy,
a phob un fal llun llynglwm
sydd yn ei gilydd yn gwlm.
Tai nawplad fold deunawplas,
tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
mae'i lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
llofft ar dalgrofft adeilgraff,
a'r pedair llofft, o hoffter,
yn gydgwplws lle cwsg clêr.
Aeth y pedair disgleirlofft,
nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
To teils ar bob tŷ talwg,
a simnai ni fagai fwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun,
a naw wardrob ar bob un.
Siopau glân, gwlys gynnwys gain,
siop lawndeg fel Siêp Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
capelau a gwydrau gwiw.

Pob tu'n llawn, pob tŷ'n y llys,
perllan, gwinllan, gaer wenllys.
Parc cwning meistr pôr cenedl,
erydr a meirch hydr mawr chwedl.
Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran a gwair,
ydau mewn caeau cywair.
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
a'i golomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
a fo rhaid i fwrw rhwydau;
amlaf lle, nid er ymliw,
penhwyaid a gwyniaid gwiw.
A'i dir bwrdd a'r adar byw,
peunod, crehyrod hoywryw.
A'i gaith a wna bob gwaith gwiw,
cyfreidiau cyfair ydyd,
dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
gwirodau, bragodau brig,
pob llyn, bara gwyn a gwin,
a'i gig, a'i dân i'w gegin.

Pebyll y beirdd pawb lle bo,
pe beunydd caiff pawb yno.
A gwraig orau o'r gwragedd,
gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur llin marchoglyw,
urddol hael o reiol ryw.
A'i blant a ddeuant bob ddau,
nythaid teg o benaethau.

Anfynych iawn fu yno
weled na chlicied na chlo,
na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
ni bydd eisiau budd oseb,
na gwall, na newyn, na gwarth,
na syched fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro tro trylew
Biau'r wlad, lin Bywer Lew,
gŵr meingryf, gorau mangre,
a phiau'r llys; hoff yw'r lle.
Pan ddangoso, rhyw dro rhydd,
Pobl y byd, pawb o lu bedydd,
Gar bron Duw, cun eiddun oedd,
Gwiw iaith ddrud, eu gweithredoedd,
Ar ben mynydd, lle bydd barn,
I gyd, Olifer gadarn,
Llawen fydd chwedl diledlaes
Llafurwr, tramwywr maes.

O rhoddes, hael yw'r hoywdduw,
Offrwm a'i ddegwm i Dduw,
Enaid da yna uniawn
A dâl i Dduw, dyly ddawn.
Hawdd i lafurwr hoywddol
Hyder ar Dduw Nêr yn ôl.
O gardod drwy gywirdeb,
O lety, ni necy neb.
Ni rydd farn eithr ar arnawdd,
Ni châr yn ei gyfar gawdd.
Ni ddeil rhyfel, ni ddilyn,
Ni threisia am ei dda ddyn.
Ni bydd ry gadarn arnam,
Ni yrr hawl gymedrawl gam ;
Nid addas, ond ei oddef,
Nid bywyd, nid byd heb ef.

Gwn mai digrifach ganwaith
Gantho, modd digyffro maith,
Gaffael, ni'm dawr heb fawr fai,
Yr aradr crwm, a'i irai,
Na phed fai, pan dorrai dŵr,
Yn rhith Arthur anrheithiwr.
Ni cheffir eithr o'i weithred
Aberth Crist i borthi cred.
Bywyd ni chaiff, ni beiwn,
Pab nac ymherodr heb hwn,
Na brenin haelwin hoywlyw,
Dien ei bwyll, na dyn byw.

Lusudarus hwylus hen
A ddywod fal yn ddien:
"Gwyn ei fyd, trwy febyd draw,
A ddeil aradr â'i ddwylaw."
Crud rhwyg fanadl gwastadlaes,
Cryw mwyn a ŵyr creiaw maes.
Cerir ei glod, y crair glŵys,
Crehyr a'i hegyr hoywgŵys.
Cawell tir gŵydd rhwydd y rhawg,
Calltrefn urddedig cylltrawg.
Ceiliagwydd erwi gwyddiawn,
Cywir o'i grefft y ceir grawn.
Cnwd a gyrch mewn cnodig âr,
Cnyw diwael yn cnoi daear.
(Ef fynn ei gyllell a'i fwyd
A'i fwrdd dan fôn ei forddwyd.
Gŵr â'i anfodd ar grynfaen,
Gwas a fling a'i groes o'i flaen.)
Ystig fydd beunydd ei ben,
Ystryd iach is traed ychen.

Aml y canai ei emyn,
Ymlid y fondid a
fondid a fyn,
Un dryllwraidd dyffrynnaidd ffrwyth,
Yn estyn gwddw anystwyth.
Gwas pwrffil aneiddil nen,
Gwasgarbridd gwiw esgeirbren.
Hu Gadarn feistr hoyw giwdawd,
Brenin a roes gwîn er gwawd ;
Amherawdr dir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd.
Daliodd ef wedi diliw
Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw
Ni cheisiodd, naf iachusoed,
Fwriwr aer, fara erioed,
Eithr, da oedd ei athro,
O’i lafur braisg, awdur bro,
Er dangos eryr dawngoeth
I ddyn balch a difalch doeth
Bod yn orau, nid gau gair,
Ungrefft gan y Tad iawngrair.
Arwydd mai hyn a oryw,
Aredig dysgedig yw.
Ffordd y mae cred a bedydd,
A phawb yn cynnal y ffydd,
Llaw Dduw cun, gorau un gør,
Llaw Fair dros bob llafurwr.
Deuthum ddywsul diwethaf
—Dyn wyf a luniodd Duw Naf —
I gaer ddwbl groengwbl gringam,
Y Fflint, a welwyf yn fflam!
Lle'r oedd neithiawr heb fawr fedd,
Sais yn eglur, Seisnigwledd.
Ar addaw cael yr oeddwn,
Oherwydd crefft, hoywrodd crwn.

Dechreuais, ffrystiais yn ffraeth,
Ganu awdl i'r genhedlaeth.
Gwatwaru, llysu fy llais,
Gofid yno a gefais.
Hawdd gan borthmyn haidd ac ŷd,
Faeddu fy holl gelfyddyd,
Ac am fy ngherdd y chwerddyn,
Parod gân fawl, prid gennyf hyn.
Sôn am bys wnai Siôn Beisir,
Sôn o'r ail am dail i'w dir.
Galw i'r ford, gwaelwr a fydd,
O bawb am Wiliam Bibydd!
Dyfod o hwn, defawd hawl,
Ger bron nid fal gŵr breiniawl,
A chod leddf, foel berfeddfaich,
Ymhen ffon rhwng bron a braich.


Hyllu, syn dranu sŵn drwg,
Rhwth gaul, a rhythu golwg,
A throi ei gorff yma 'thraw,
A chwyddo'r ddwyfoch eiddaw;
Chwerw foes, chware â'i fysedd.
A chroen gloch, chwerwon eu gwledd.
Ymysgrawtian 'mysg rhawter,
Tynnu ei glog fal tin y glêr.
Ffroeniaw bu, ffrwynaw ei ben
Ydd ydoedd at ei ddiden.
Ail sut i farcut yw fo
Abl ei awydd i bluo.
Chwythu o'r cranc, chwith yw'r cri,
Chwyddo'r god a chroch weiddi.
Canodd â llais cacynen
Cod ddiawl, a phawl yn ei phen;
Gwaedd hunlle'n lladd gŵydd henllom,
Gwaedd gast drist greg dan gist grom.
Gerwingest i grio ungerdd,
Gwythi ceg yn gwthiaw cerdd;
Llais garan yn llaes gery,
Gŵydd o frath yn gweiddi fry;
Maé lleisiau yn y gau god
Mal gwythi mil o gathod.
Gafr yw un llais, gyfran llog,
Glwyfus afiachus feichiog.

Gwedi darfod, gwawd oerferch,
Gwichlais hon, gochelai serch,
Cael ffîs o Wil y cawl ffa,
Lerdies nid o law wrda,
Ceiniogau, lle cynygian,
Ac weithiau'r dimeuau mân,

A’m gollwng yn drablwng draw
O'r goegwledd yn ŵr gwaglaw!


O ddifrif rhof ddiofryd,
I Fflint gaeth a'i phlant i gyd.
Ei ffwrn faith fal uffern fydd,
A’i phobl Seisnig a'i phibydd.
Fy holl weddi fo'u lladdiant,
Fy melltith i'w plith a'u plant.
Diau i'm hoes, od af mwy,
Iddi eilwaith na ddelwy.
UN mab oedd degan i mi,
Dwynwen! gwae 'i dad o'i eni!
Gwae a edid o gudab
I boeni mwy heb un mab;
Fy nwy ais, farw fy nisyn,
Y sy'n glaf am Siôn y Glyn;
Udo fyth yr ydwyf i
Am benâig Mabinogi.

Afal pêr ac ederyn
A garai 'r gwas, a gro gwyn;
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren;
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach;
Canu i bawb acen o'i ben,
Canu io-o er cneuen;
Gwneuthur moethau gwenieitho,
Sorri wrthyf i wnai fo,
A chymod er ysglodyn
Ac er dis a garai'r dyn.

Och! nad Siôn, fab gwirion gwâr,
Sy'n ail oesi, Sain Lasar!

Beuno a droes iddo saith
Nefolion yn fyw eilwaith;
Gwae eilwaith fy ngwir galon
Nad oes wyth, rhwng enaid Siôn.

O, Fair, gwae fi o'i orwedd,
A gwae fy ais gau ei fedd;
Yngo y saif angau Siôn
Yn ddeufrath yn y ddwyfron;
Fy mab, fy muarth baban,
Fy mron, fy nghalon, fy nghân;
Fy mryd cyn fy marw ydoedd,
Fy mardd doeth, fy moeth im' oedd;
Fy nhegan oedd, fy nghannwyll,
Fy enaid teg, fy un twyll;
Fy nghyw, yn dysgu fy nghân,
Fy nghae Esyllt, fy nghusan;
Fy nyth, gwae fi yn ei ôl,
Fy ehedydd, fy hudol;
Fy Siôn, fy mwa, fy saeth,
F’ymbiliwr, fy mabolaeth.

Siôn y sy'n danfon i'w dad
Awch o hiraeth a chariad;
Yn iach wên ar fy ngenau,
Yn iach chwerthin o'r min mau;
Yn iach mwy ddiddanwch mwyn,
Ac yn iach i gnau echwyn;
Ac yn iach bellach i'r bêl,
Ac yn iach ganu uchel;
Ac yn iach, fy nghâr arab,
Iso'n fy myw, Siôn fy mab!
Llyma haf llwm i hoywfardd,
a llyma fyd llwm i fardd.
E'm hybeiliawdd, gawdd gyfoed,
am fy newis mis o'm oed.
Nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewych, na lliw,
er pan rodded, trwydded trwch,
dan lawr dygn dyn loer degwch.

Y ferch wen o'r dderw brennol,
arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
cyd bych o fewn caead bedd,
f'enaid, cyfod i fyny,
egor y ddaearddor ddu,
gwrthod wely tywod hir,
a gwrtheb f'wyneb, feinir.
Mae yman, hoedran hydraul,
uwch dy fedd, huanwedd haul,
ŵr prudd ei wyneb hebod,
Llywelyn Goch, gloch dy glod.
Udfardd yn rhodio adfyd
ydwyf, gweinidog nwyf gwŷd.
Myfi, fun fwyfwy fonedd,
echdoe a fûm uwch dy fedd
yn gollwng deigr llideigrbraff
ar hyd yr wyneb yn rhaff.
Tithau, harddlun y fun fud,
o'r tewbwll ni'm atebud.

Tawedog ddwysog ddiserch,
ti addawsud, y fud ferch,
fwyn dy sud, fando sidan,
f'aros, y ddyn loywdlos lân,
oni ddelwn, gwn y gwir,
ardwy hydr, o'r deheudir.
Ni chiglef, sythlef seithlud,
air ond y gwir, feinir fud,
iawndwf rhianedd Indeg,
onid hyn, o'th enau teg.
Trais mawr, ac ni'm dawr am dŷ,
torraist amod, trist ymy.
Tydi sydd, mau gywydd gau,
ar y gwir, rywiog eiriau,
minnau sydd, ieithrydd athrist,
ar gelwydd tragywydd trist.
Celwyddog wyf, cul weddi,
celwyddlais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddiw,
ni'm dawr pa fan, loywgan liw;
fy nyn wyrennig ddigawn,
pe bait fyw, myn Duw, nid awn.

Pa le caf, ni'm doraf, dioer,
dy weled, wendew wiwloer,
ar fynydd, sathr Ofydd serch,
Olifer, yr oleuferch?
Llwyr y diheuraist fy lle,
Lleucu, deg waneg wiwne,
riain wiwgain oleugaen,
rhy gysgadur 'ny mur maen.
Cyfod i orffen cyfedd
i edrych a fynnych fedd,
at dy fardd, ni chwardd ychwaith
erot dalm, euraid dalaith.
Dyred, ffion ei deurudd,
i fyny o'r pridd-dŷ prudd.
Anial yw ôl camoleg,
nid rhaid twyll, fy neudroed teg,
yn bwhwman rhag annwyd
ynghylch dy dŷ, Lleucu Llwyd.
A genais, lugorn Gwynedd,
o eiriau gwawd, eiry ei gwedd,
llef drioch, llaw fodrwyaur,
Lleucu, moliant fu it, f'aur;
â'r genau hwn, gwn ganmawl,
a ganwyf, tra fwyf, o fawl,
f'enaid, hoen geirw afonydd,
fy nghariad, dy farwnad fydd.

Cymhennaidd groyw loyw Leucu,
cymyn f'anwylddyn fun fu:
ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
i Dduw Dad, addewid iawn;
a'i meingorff, eiliw mangant,
meinir i gysegrdir sant;
dyn pellgŵyn, doniau peillgalch,
a da byd i'r gŵr du balch;
a'i hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
i minnau a gymannawdd.

Lleddf ddeddf ddeuddawn ogyfuwch,
Lleucu dlos, lliw cawod luwch,
pridd a main, glain galarchwerw,
a gudd ei ddeurudd, a derw.
Gwae fi drymed y gweryd
a'r pridd ar feistres y pryd!
Gwae fi fod arch i'th warchae!
A thŷ main rhof a thi mae,
a chôr eglwys a chreiglen
a phwys o bridd a phais bren.
Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
breuddwyd dig briddo dy dâl!
Clo dur derw, galarchwerw gael,
a daear, deg dy dwyael,
a thromgad ddôr, a thrymgae,
a llawr maes rhof a'r lliw mae,
a chlyd fur, a chlo dur du,
a chlicied; yn iach, Leucu!
Pand angall na ddyallwn
Y byd hir a'r bywyd hwn?

Anair i ddyn na rôi'i dda,
A byrred fydd ei bara.

Pam na welir o hirynt,
Mae'r gwŷr a fu rai mawr gynt?
Mae Salmon nid oedd annoeth
Abl o ddysg, mae Sibli ddoeth?
Mae tâl a gwallt Absalon,
Gorau bryd, dwg ef ger bron;
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol ? Mae Cai neu Arthur ?
Mae Gwalchmai, ni ddaliai ddig,
Gwrol, mae Gei o Warwig ?
Mae Siarlas o'r maes euriawr ?
Mae ef Alecsander Mawr ?
Mae Edwart—ai plwm ydych ? —
Y gŵr a wnai gaer yn wych?
Y mae'i ddelw, pe meddylien,
Wych, yn y porth uwch ein pen,
Yntau'n fud hwnt yn ei fedd
Dan garreg dew yn gorwedd!

Mae Fyrsul ddiful o ddysg,
A fu urddol o fawrddysg —

A feddodd saith gelfyddyd,
A fu ben awen y byd, —
A'i fwriad wrth fyfyrio,
Atebai lais Tubal o,
Cerdd dafod o geudod gwŷr,
Pibau musig, pob mesur?
Mae Hywel y Pedolau,
A'r llall a'r gron Fwyall grau ?
Cwympason, ddewrion, bob ddau,
Yn brudd oll, yn briddellau;
Oes a edwyn—syw ydych —
Pridd y rhain rhag pridd o'r rhych ?
Afraid i lawen hyfryd
Ei ryfyg er benthyg byd;
Ni wn amod, awn ymaith,
Ar fyw'n hir, ofer yw ’nhaith, —
Er aros oerder, eira
Ni erys haul neu wres ha!

Awstin a ddywed ystyr
Pa beth yw hyd y byd byrr;
Ein llygaid a'n enaid ni
Y sy yman i'n siomi, —
Nid oes, o deiroes, i'r dall
Deirawr, wrth y byd arall;
Ni phery'r byd hoff orwych
Mwy no drem ym min y drych.

Rhodiwn, ceisiwn anrhydedd,
Rhodiwn bawb, rhedwn i'n bedd;

Rhodiwn dir nid hir ein tw,
Rhodiwn fôr, rhaid in farw!
Yno, ni cheisi unawr
D’eiddo ymysg dy dda mawr;

A fynno nef i'w enaid,
O’i feiau byth ef a baid;
Rhaid yw gochel tri gelyn,
Sŵn tost, sy i enaid dyn —
Y cythrel dirgel ei dôn,
A'r cnawd, a'r cwyn anudon.

Tri meddig safedig sydd,
Ar ran dyn, o'r un deunydd, —
Cardod, a ddwg cywirdeb,
Ympryd, anenbyd i neb;
A chariad gwych, a weryd,
Perffaith, ein gobaith i gyd.

Awn i studio'n wastadol
O bwys a nerth, be sy'n ôl;
Mae corn, i frawd, o'm carn, fry,
A’m geilw, pan fwyf i'm gwely;
Y mae'r farn mor gadarngref,
Y cri'n oer, fel y cryn nef;
Yno pan dduo ddaear,
Gwellt a gwŷdd, pob gwyllt a gwar,
Llu eiddo Duw, llaw dde dôn,
Llu du eilwaith lle delon;
Iesu, hyn a ddewiswn,
Awr dda'i hap ar ddeau hwn,
A’n ledio oll hyd liw dydd
O'r llaw yno i'r llawenydd!
Pruddlawn ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth, oer o beth, yw'r byd.
Hoywddyn aur heddiw'n arwain
Caeau, modrwyau a main.
Ymofyn am dyddyn da
Ei ddau ardreth, oedd ddirdra,
Gan ostwng gwan i'w eiste
Dan ei law, a dwyn ei le;
A dwyn tyddyn y dyn dall,
A dwyn erw y dyn arall.
Dwyn yr ŷd o dan yr on,
A dwyn gwair y dyn gwirion.
Cynnull anrhaith dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn.
Heddiw mewn pridd yn ddiddim
O'i dda nid oes iddo ddim.
Poen a leinw, pan el yno,
Mewn gorchfan graean a gro.
Rhy isel fydd ei wely,
A'i dâl wrth nenbren ei dŷ;
A'i rwymdost bais o'r amdo,
A'i brudd grud o bridd a gro.
A'i borthor uwch ei gorun,
O bridd du fal breuddwyd ŷn;
A'i ddewrgorff yn y dderwgist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A’i gorsed yn ddaered ddu,
A'i rhidens wedi rhydu;

A'i bais o goed, hoed hydyn,
A'i grys heb lewys heb lun;
A'i ddir hynt i'r ddaear hon,
A'i ddeufraich ar ei ddwyfron;
A llwybrau gwag, lle bu'r gwin,
A'i gôg yn gado'i gegin.
A’i gŵn, yn y neuadd gau,
A’i emys, yn ei amau;
A'i wraig, o'r winllad adail,
Gywir iawn, yn gwra'r ail.
A'i neuadd fawrfalch galchbryd
Yn arch bach yn eiriach byd.
A da'r wlad yn ei adaw
I lawr heb ddim yn ei law.

Pan el mewn arch hybarchlan
Ar frys o'r llys tua'r llan,
Nis calyn merch anherchwedd,
Na gŵr iach bellach y bedd.
Ni rydd gordderch o ferch fain
Ei llaw dan yr un lliain.
Ni ddeil alar yn ddilis,
Ni orwedd ar ei fedd fis.
Wedi bo yno unawr,
Y dyn a'r gwallt melyn mawr,
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gwŷl, fydd ei was gwely.
Hytrach dan warr y garreg
Y breuog tew na'r brig teg.
Amlach yng ngorchudd pruddlawr
Yn ei gylch eirch na meirch mawr.
Yno ni bydd i'r enaid
Na phlas, nag urddas, na phlaid,

Na gwiw addurn, na geudduw,
Na dim, ond a wnaeth er Duw.

Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml ? Mae'r lleisiad ?
Mae'r tai cornogion ? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir ?
Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd ?
Mae'r cig rhost ? Mae'r côg a'u rhydd ?
Mae'r gwin ? Mae'r adar ? Mae'r gwŷdd,
A gludwyd oll drwy'r gwledydd ?
Mae'r feddgell deg? Mae'r gegin
Islaw'r allt ? Mae'r seler win ?
Mae'r siwrnai i Loegr ? Mae'r seirnial ?
Mae'r beirdd teg? Mae'r byrddau tal ?
Mae'r cŵn addfwyn cynyddfawr ?
Mae'r cadw eleirch ? Mae'r meirch mawr?
Mae'r trwsiad aml ? Mae'r trysor ?
Mae'r da mawr ar dir a môr,
A’r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau ?
Diddim ydyw o dyddyn
Ond saith droedfedd, diwedd dyn.
Y corff a fu'n y porffor,
Mae mewn cist ym mîn y côr.
A'r enaid ni ŵyr yna,
Pŵl yw o ddysg, ple ydd â.
Am y trosedd a wneddyw
A'r cam gredu, tra fu fyw,
Rhywyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, edifaru.
Gydag un a geidw Gwynedd
y cawn ar lan Conwy'r wledd
abad tros wythwlad y sydd
Aberconwy barc gwinwydd
arglwydd yn rhoi gwledd yn rhad
arfer ddwbl ar fwrdd abad
powdrau yn nysglau y naill
a'r oraits i rai eraill.
Conwy rhyd dyffryn llw caf win ffres
Glyn Grwst a glan Gaer Awstin
glyn gwyrdd y galwynau gwin
tri phwys cegin y tywysog
troi mae'r gwaith trwm ar ei gog
tai aml am win temlau medd
trestl a bwtri osgedd
ar ei winoedd ar unwaith
yno bu ben am bob iaith
Ple cyrchwn sesiwn y saint?
Gydag ef a'i gyd gwfaint
gwŷr ynrhif gwerin Rhufain
gwyn a rhudd yw gynau rhain
Os gwyn ei fynwes a'i gob
o'r un wisg yr â'n esgob.
Fe âi'r mab dan fur a main
be'i profid yn bab Rhufain.
Gwaith blin ac anoethineb
ymryson oll am ras neb
hwynthwy mil o renti mân
yntau fynnai rent Faenan.
Mae ar wyneb Meirionnydd
blaid i'r gŵr fel blodau'r gwŷdd.
Hyder Lewys Amhadawg
am erchi rhoi march yrhawg
milwr rhwng Maelor a Rhos
Tegaingl ei geraint agos
a'i ddewis erbyn mis Mai
merch deg a march a'i dygai.
Trem hydd am gywydd a gais
trwynbant yn troi'n ei unbais
ffroen arth a chyffro'n ei ên
ffrwyn a ddeil ei ffriw'n ddolen
ffriw yn dal ffrwyn o daliwn
a'i ffroen gau fal ffoen y gwn
llygaid fal dwy ellygen
llymion byw'n llamu'n ei ben
dwyglust feinion aflonydd
dail saets wrth ei dâl y sydd
trwsio fal golewo glain
y bu wydrwr ei bedrain
drythyll ar bedair wythoel
gwreichionen o ben pob hoel
ei flew fal sidan newydd
a'i rawn ar liw gwawn y gwŷdd
sidan ym mhais ehedydd
siamled yn hws am lwdn hydd
Dylifo heb ddwylo'dd oedd.
Cnyw praffwasg yn cnoi priffordd
cloch y ffair ciliwch o'i ffordd.
Ei arial a ddyfalwn
i elain coch o flaen cŵn.
Nwyfawl iawn anifail oedd
yn ei fryd nofio'r ydoedd.
Nid rhaid er peri neidio
rhoi dur fyth ar ei dor fo.
Dan farchog bywiog di-bŵl
ef a wyddiad ei feddwl
llamu draw lle mwya drain
llawn ergyd yn Llan Eurgain.
O gyrrir draw i'r gweirwellt
ni thyr a'i garn wyth o'r gwellt.
Ystwyro cwrs y daran
a thuthio pan fynn'n fân
bwre naid i'r wybr a wnâi
ar hyder yr ehedai.
Draw os gyrrwn dros gaered
gorwydd yr arglwydd a red
dyrnfur yw'n dirwyn y fron
deil i'r haul dalau'r hoelion.
Gwreichion a gair o honyn
gwiniwyd wyth bwyth ymhob un.
Sêr neu fellt ar sarn a fydd
ar godiad yr egwydydd
ail y carw olwg gorwyllt
a'i draed yn gwau drwy dân gwyllt.
Neidiwr dros afon ydoedd
naid yr iwrch rhag y neidr oedd.
Oes tâl am y sut elain
amgen na mawl am gnyw main?
Mae'n f'aros yma forwyn
ferch deg pe bai farch i'w dwyn.
Gorau 'rioed gair i redeg
march da i arwain merch deg.
Gwae fi-cedwais gof cadarn-
Nad heddiw faut, oed dydd farn!
Dyn wyf a'r iâ dan 'i fron,
Ag a'i weli'n ei galon.

Am forwyn y mae f'araith,
Am hon, ni chae 'mhen ychwaith;
Mae olwyn f’oes mal yn fud,
Mae'n nos im, oni symud;
E ddamweiniodd im annawn,
Oni thry, i wneuthur iawn!

Y mae f’anap am feinir
Fal nad tew f’ôl yn y tir;

Olaf oed, o le, ydyw
A wnaf a merch yn fy myw,—
Mae Gwen, a fu yma, gynt?
Mae'r adar? ai meirw ydynt?
Ni mynnwn, am y wennol,
F’oes yn hwy, fis, yn ei hôl;
Ni'm dawr mwy od af i'r man—
Y bedw aeth o'r byd weithian;
Os marw bûn, oes mwy o'r byd?—
Mae'r haf wedi marw hefyd!

Hawdd im, wrth roi hawddamawr,
Gael gwlith o'r golwg i lawr;
Dwy afon am hon, o'm hais,
Dau alwyn doe, a wylais.

Ni byddwn awr hebddi'n iach,
Ni bu briddyn byw bruddach;
Gan na wn fyw Gwen yn faith,
Ni fynaswn fyw noswaith;
I'm pruddhau, fo’m parodd hyn
Heb rym y mab o'i rwymyn;
Ban euthum i'r boen eithaf
Heb wythen iach, beth a wnaf?—
Dyn a'i friw dan fwâu'r ais,
Dan y ddwyglwyd yn dduglais;
Mal y pren onn yw'r fron frau,
A'i chnwd o ucheneidiau;
Ias am hoeres, o'm hiraeth,
Mawr gryn, hyd fy mrig yr aeth;
Y mae anadl o'm mynwes,
Ai drwy'r pridd a'r derw a'r pres,

Ebwch hiraeth, beb chwarau,
A dorrai faen, ydyw'r fau ;
Ymrafaeliodd marfolaeth
Mor syn â phe 'marw a saeth.

Ymroi i'm cwymp o'i marw y’m caid,
Ymwahanu â'm henaid;
Mae eisiau merch a mis Mai,
Mae'n ei harch a'm anherchai ;
Eres im, oer ei symud,
Hi ddoe'n fyw, a heddyw'n fud!

Och finnau, o chaf einioes,
Na bai'n fyw yn niben f'oes;
Amodau, rhwymau oedd rhôm,
Eithr angau a aeth rhyngom!

Rhwymau'r awr, wedi rhoi 'mryd,
Nis cawn, nis cai o ennyd;
Ni chaf a fynnaf i fan,
Na chaf fyth, nychaf weithian;
A chan farw'r ferch yn forwyn,
I farw mi af er 'i mwyn!

Mwyaf gofal i'm calon
Y cawn fyw rhawg, gan farw hon;
Na roi Dduw im un o'r ddau-
Ai'n fyw'r fûn ai'n farw finnau,
Hi yn fyw o'i hiawn fywyd,
Neu na bawn innau'n y byd!
MAE llun rhod i'm llaw yn rhôl,
A drych wyneb drwy’i chanol;
Gwyliwch y droell amgylch draw,
Gwir pedwar gair, heb beidiaw:

Heddwch, bybyrwch y byd,
Cyfoeth yw a fag hefyd;
Cyfoeth balch, cof waith y bêl,
A fo cryf, a fag rhyfel;
Rhyfel a fag rhyw afar,
Tlodi byth, atelid a bâr;
Tlodi, at drueni trwch,
A fo coedd, a fag heddwch.

Mae'r geiriau hyn ym mrig rhod,
Be caid neb i'w cydnabod;
Codiad dyn, nis ceidw tani,
A chwymp sydd o'i chwmpas hi;
O throi unwaith ar anap,
Duw! na throid unwaith ar hap!
Can nos daed, cynnes d'adail,
Cai Hir y coed ir a'r dail.
Canol yr haf wyd, Ddafydd,
coedwr dewr cyhyd â'r dydd.
Cryfder a chrafanc Siancyn,
caregog lys, craig y glyn.
Dy gastell ydyw'r gelli,
derw dôl yw dy dyrrau di.
Cynnydd ar geirw Nanconwy,
cerdd a saif, cei urddas hwy.
Glanaf y medrud, Ddafydd,
gerddwriaeth, herwriaeth hydd;
glain nod ar wŷr, glân ydwyd,
gloyn Duw ar bob galawnd wyd.

Dy stad a'th glod yw dy stôr,
Dafydd, ŵyr Ddafydd, Ifor;
anturwr ar filwriaeth
y'th farnwyd, ac nid wyd waeth;
ni wnaeth Rolant fwy antur
no thydi, na wnaeth, â dur.
Pan fo sôn am ddigoniant,
dy roi'n uwch pob dewr a wnânt;
o'r campau ym mhob neuadd
y'th roir yr eilwaith o radd.
Pand un o filwyr Llŷr llwyd,
paun o frwydr, Penfro, ydwyd?
Nai wyd, Ddafydd, loywrudd lain,
i'r ewythr o'r Mastr Owain;
bonedd yw d'anrhydedd di,
brodorion hirion Harri.
Rhoed yt air, rhediad hiroes,
Hwnt, Arglwydd Rhismwnt a'i rhoes.
O'r hynaif gorau'r hanwyd -
o Rys Gethin - Elffin wyd;
Absalon ym Meirionnydd
a swyddog i'r gog a'r gwŷdd;
ŵyr Feirig, rhag cynnig cam,
a Chynfyn oedd eich henfam.

Caredig i'r ceirw ydwyd,
câr i'r Iarll, concwerwr wyd;
tithau, gleddau'r arglwyddi,
tëyrn wyd yn ein tir ni.
Mae yt Wynedd yn heddwch,
a phlaid yn y Deau fflwch.
Gwylia'r trefydd, cynnydd call,
a'r tyrau o'r tu arall.
Da yw secwndid y dydd,
gwell, ŵyr Cadell, yw'r coedydd.
Da yw ffin a thref ddinas,
gorau yw'r glyn a'r graig las;
da oedd bardwn dydd bwrdais,
ac nid oedd waeth saeth rhag Sais;
cerwch gastell y gelli,
cerwch wŷr a'ch caro chwi.
Cadw'r dref a'r coed a'r drws,
cadw batent Coed-y-betws.
Wyth ugain câr i'th ogylch,
wyth gant a'th garant i'th gylch,
wyth gad, myn Pedr, a fedri,
wyth goed, a Duw a'th geidw di.
Y BARDD:

Y bardd bach uwch beirdd y byd,
Och, nad ydych yn dwedyd!
Gruffydd braff, graffaidd broffwyd,
Gweddw yw'r iaith,—ai ’mguddio'r wyd?
Ba dir hwnt, o baud yr hawg,
Bwrdd yr iaith, bardd Hiraethawg?
Dewi'r beirdd, nid o air bost,
Dyblwr iaith, Duw, ble'r aethost?
Os i ryw daith, drudfaith dro,
Ond hir yr wyt yn tario?
O Duw deg, od ydwyd iach
Ddi-ball, pam na ddoi bellach?
Os claf wyd, proffwyd y pryd,
Claf yw addysg celfyddyd.
Od aethost i le dethol,
Y gwawd a'r dysg, aed ar dôl.
Hiraethog ddoeth, o doeth does,
Hiraethog fydd rhai wythoes.
Ni welais gam o'th dramwy,
Er ys mis nac er ys mwy:
Gelwais arnad, gloes oerni,
Och Fair, pam na 'tebwch fi?

Y MARW:

Ni ad to bedd ateb ym,
Am ran iaith,-marw a wnaethym.
Ti a'm gwelaist i'm golud,
Ddoe yn falch, a heddiw'n fud;
A'r pwyll a'r synnwyr a'r pen
A’r cellwair sy ’ng nghôr Collen.
A gro'r llawr is goror llan,
Osodwyd lle bu'r sidan.

Y BARDD:

Dyrd yma, neu dor d'amod,
Drwy dor y clai, daradr clod.
Ymrwymaist, fardd breuhardd bris,
I'r ŵyl a'r Doctor Elis.
Od ydoedd i'th fryd adael
Y gŵr hwn a ddug air hael,
Ond oedd dost diwedd y daith
Na chenit yn iach unwaith?

Y Marw:

Nid oedd modd; yn y dydd mau
Y dringodd rhyw daer angau;
Mae'n gwarchae'r man a gyrcho,
Mewn ffydd nid oes man i ffo.
Eryr gwyllt ar war gelltydd,
Nid ymgêl pan ddel ei ddydd,
A'r pysg sydd ymysg y môr
A ddwg angau'n ddigyngor

Y byd oll, be deallwn,
Ar y sydd a erys hwn.
Aristotlus fedrus fu,
Ar ddysg oll, urddas gallu;
Tydain, ail tad awen oedd,
Taliesin teulu oesoedd;—
Pob un oedd, aeth pawb yn wâr
Ar ei ddiwedd i'r ddaear.

Y BARDD:

Fathro Gruffydd, o’th guddiwyd
Mewn arch oer, di 'mannerch wyd.
Gorwedd yr wyd mewn gweryd,
Gryf wraidd, ben digrifrwydd byd.
Ond irad mynd i orwedd
Awen y byd yn un bedd ?
Gwiail a gad, tyfiad da,
Yn wŷdd o enau Adda;
Doeth fardd, felly daw o’th fedd,
Ganghennau'r groes gynghanedd.
Yn iach! yn ôl ni chawn ni
Ystyried chwedl na stori.
Ni cheir marw, ni châr morwyn,
Ni thyf fyth gwmpniaeth fwyn.
Och, gloi' 'i fedd, iach gelfyddyd,
Och, roi barn ar achau'r byd.
Beth a dyf byth o dafawd ?
—Blino ffrith gwŷdd blaenffrwyth gwawd;
Bwrw gwingoed brig awengerdd,
Braenu un cyff brenin cerdd,

A thy dadl fyth od ydyw,
Odid farn am nad wyd fyw.
Ba fyd ar gerdd seinwerdd sydd ?
Byd traffol hebod, Ruffydd.
Daearwyd gwawd eurdeg wedd,
Nis daearwyd nes d'orwedd.
Duw a'th ddug, ych bôn gwych gwâr,
Is y cwm eisiau cymar.
Gwn na bu er Gwion bach
Gau ar synnwyr gresynach,
Lle cefaist,—lleddaist ni'n llwyr,-
Oes a henaint a synnwyr.
Crist roes it einioes ennyd,
Crist a'th ddug, hardd ben bardd byd.
Crist enw rhawg, gras Duw i'n rhaid,
Ceidwad dyn, cadwed d' enaid.

© Cowbois Ceibwr 2025